Dathliadau Dulyn wrth i Gymru gyrraedd Y Swistir
Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n dathlu buddugoliaeth hanesyddol Cymru i gyrraedd Pencampwriaeth Merched Ewro 2025.
Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n dathlu buddugoliaeth hanesyddol Cymru i gyrraedd Pencampwriaeth Merched Ewro 2025. Roedd Ows yn ei chanol hi yn Nulyn yn gwylio t卯m Rhian Wilkinson yn curo Gweriniaeth Iwerddon yn rownd derfynol y gemau ail-gyfle, ac yn fwy na hapus i ymuno yn y dathliadau yng nghanol y ddinas tan oriau man y bore.
Roedd 'na fwy o ddathlu ar y Cae Ras hefyd lle welodd Dyl fuddugoliaeth arall i Wrecsam, ac mae'r tri yn ddigon bodlon eu byd hefyd wrth weld cychwyn arbennig Arne Slot yn parhau gyda Lerpwl.
Podcast
-
Y Coridor Ansicrwydd
Owain Tudur Jones, Malcolm Allen a Dylan Griffiths yn rhoi'r byd p锚l-droed yn ei le.