Dan Bettridge
Chwe degawd ar 么l i roc a r么l ffrwydro ar y s卯n ac mae'n dal i fod yr un mor fyw ag erioed. Bob tro mae perygl bod y genre wedi chwythu'i blwc, daw rhywun i anadlu bywyd newydd iddo.
Teitl ffaith | Data ffaith |
---|---|
Aelodau: |
Dan Bettridge
|
Sain a Fideo
Dan Bettridge @ G诺yl y Gelli 2015
Dan yn perfformio Letters Home a rhannu ei daith i ddod yn ganwr-gyfansoddwr.
Oriel Lluniau
Mae Dan Bettridge, sy'n 21 oed, yn gwybod ei Stax o'i Motown, ei Sun o'i Chess Records, ac mae'n deall bod y cyfan yn gorfod dod o'r galon – o'i galon ef sy'n gleisiau i gyd.
Canwr 'soul' llygadlas yw Dan: Van Morrison, pe bai'n hanu o Aberogwr ym Mro Morgannwg. Ac fel Van, mae'n fwy na chyfuniad o ddylanwadau; dylanwadau a ddaw, yn achos Dan, o gasgliad recordiau ei rieni.
Croesawyd ei sengl gyntaf – yr alaw hardd a syml ‘Hunter’s Heart’ gan Huw Stephens ar ei sioe 大象传媒 Introducing ar Radio 1 a gan Dermot O’Leary ar Radio 2, gan ddangos bod cerddoriaeth dda nid yn unig yn oesol ond yn apelio at wahanol oedran hefyd.
Mae sengl newydd Dan, ‘Third Eye Blind’ (Mehefin 2015) yn gyfuniad o I Forgot To Be Your Lover gan William Bell sy'n apelio fwyfwy atoch po fwyaf y byddwch yn gwrando arni a'r cyrn rhagorol, diymffrost sydd wedi'u chwarae a'u trefnu gan Sweet Baboo. Mae cerddorion enwog eraill o Gymru yn ymddangos ar y trac hefyd: Jack Egglestone (drymiau: Future of the Left a Zervas & Pepper) a Maddie Jones (llais cefndir), a chynhyrchwyd y cyfan gan y cynhyrchydd adnabyddus o Gaerdydd Charlie Francis (REM, The High Llamas, Future of the Left ac ati).
Mae'r ochr-A arall yn gân ysgafn a phrydferth o'r enw ‘Letters Home’, a fyddai wedi swnio'n gartrefol ar un o albymau clasurol y Brodyr Allman.
Ond dim ond cyfeiriadau yw'r rhain. Un diwrnod, bydd artistiaid yn ddiau yn enwi Dan fel ysbrydoliaeth ynddo'i hun.