John Hardy
Dewch i brocio'r cof gyda John Hardy.
"Yr hyn sy'n arbennig am Cofio yw ein bod yn dod ag ambell i edau o'r gorffennol ac yn ei weu at ei gilydd gan roi'r presennol yn ei gyd-destun a gwneud i ni gofio pa mor ffidys ydan ni," esbonia John.
"Mae sawl cyfweliad yn aros yn y cof ond dwi'n cofio un hen wreigan oedd wedi tystio'r crogi cyhoeddua olaf yn Aberhonddu pan oedd hi'n ferch fach ddeng mlwydd oed. Mae'n amhosib dychmygu'r fath ddigwyddiadau tan i chi glywed yr hanes o lygad y ffynnon, ac yna daw'r cyfan yn fyw.
"Mi ydan ni'n cael dipyn o ymateb i'r rhaglen. Ddaru rhywun ffonio y diwrnod o'r blaen yn dweud ei fod wedi clywed ei daid ar y rhaglen. Doedd dim syniad ganddo fod ei daid wedi recordio'r darn ac yn amlwg mae hynny'n beth braf.
"Yn bersonol, do'n i erioed wedi clywed fy nhaid yn siarad Saesneg a dyma ni'n dod ar draws darn lle roedd o'n darlledu yn Saesneg a doedd gennai ddim syniad am ei fodolaeth o.
"Ar Cofio, cawn gyfle i fwrw ychydig o oleuni ar yr archif sydd gynon ni yng Nghymru gan roi'r siawns i bobl ail glywed rhai o'r clasuron. Maen nhw gyd yn hel llwch ac mae'n dda'u bod nhw'n cael gweld golau dydd eto."
Holi John Hardy
Petai ti'n anweledig am y diwrnod, beth fyddai'r peth cynta' i ti wneud?
Edrych yn y drych.
Beth sy'n gwneud i ti ymlacio?
Diogi, dwi'n dda iawn am ddiogi.
Pa atgof sy'n gwneud i ti gochi fwyaf?
Mae ngwyneb i yn barhaol goch.
Pa raglen deledu wyt ti'n mwynhau fwyaf ar hyn o bryd?
Wedi 3 a Wedi 7 - yn amlwg!
Pa raglen sy'n gwneud i ti ddiffodd y teledu?
Ydi'r teledu yn diffodd?
Petai ti'n cael newid un peth am dy hun - beth fyddai hynny?
Rhy hwyr bellach ond falla dysgu i agor fy nghriau cyn tynnu fy esgidiau.
Oes gen ti lysenw?
Na ond dwi di cael fy ngalw yn sawl peth.
Pe na byddet ti'n gyflwynydd radio a theledu, beth fyddai dy swydd ddelfrydol?
Dyn diog. Dw i ddim am ddelfrydol ond pe na bawn yn darlledu mwy na thebyg y byswn yn gyfrifydd gwael, trefnwr angladdau gwael neu clerc gwael yn swyddfa fy mrawd.
Beth oedd dy hoff losin pan yn blentyn?
Love Hearts, os angen dweud mwy?
Pwy sydd yn dy ysbrydoli di?
Rheolwr y Banc. Tydio ddim yn dallt fod dyled yn ran anatod o fywyd ond o leia mae yn fy ysbrydoli i wneud fwy o ymdrech.
Pa eitem yn dy gwpwrdd dillad sy'n codi'r cywilydd mwyaf arnat ti?
Dwi newydd symud t欧 a chlirio'r cwpwrdd felly mae pethau yn weddol ar hyn o bryd. Mi roedd genni bar o drowsus golff oren a oedd yn hynod o lachar.
Beth yw dy leoliad picnic delfrydol?
Deunawfed lawnt yn Augusta ar ddiwrnod olaf y Meistri.
Petai ti'n ennill y loteri - beth fyddai'r peth cyntaf i ti wneud?
Ffonio rheolwr y banc a dweud wrtho fo beth i wneud 芒'i beiriant.
Pwy fydde ti'n hoffi gweld yn dy actio di mewn ffilm am dy fywyd?
Yr Incredible Hulk.