大象传媒

Arwyn Davies

Arwyn Davies

Gwrandewch ar atebion Arwyn i holiadur C2

Fel bachgen drwg , Mark Jones, y mae Arwyn Davies yn fwyaf adnabyddus - a pleser oedd croesawu'r actor i stiwdios C2, Radio Cymru i ddysgu am ei gyfrinachau ac i wybod mewn gwirionedd pa mor debyg yw e i Mark!

Pan dyw e ddim yn achosi hafoc yng Nghwmderi, mae Arwyn hefyd i'w weld yn y gyfres gomedi 9 tan 9 ar S4C fel rheolwr y siop. Mae hefyd yn gallu brolio ar ei CV iddo actio yn y ffilm enwog Solomon a Gaenor gyda Ioan Gruffudd a Nia Roberts. Ond nid actio yn unig sy'n mynd 芒 bryd Arwyn....

Mae lot o bobl yn gwybod bod Arwyn yn ganwr arbennig o dda, ond pwy oedd yn gwybod bod e'n arfer chwarae'r gitar fas mewn band gyda Andrew Teilo (sy'n chwarae rhan Hywel yn Pobl y Cwm)? Enw'r band oedd Dalek Babies a naethon nhw ryddhau CD o'r enw 'Pa Broblem?' ar label Fflach n么l yn 1996!

Un arall o brif ddiddordebau Arwyn ydy sglerfyrddio (neu skateboardio!) a mae e hyd yn oed wedi cystadlu dros Gymru yn y gamp! Ac ar ben hyn i gyd, mae'n cyfansoddi cerddoriaeth ei hun a fe sy'n gyfrifol am gerddoriaeth y gyfres animeddio Gogs ar S4C.

Doedd hi ddim yn broblem felly iddo fe ddewis ei hoff gerddoriaeth ar C2, Radio Cymru. Dyma'i ddewisiadau:

C芒n o Blentyndod: Middle of the Road - Chirpy Chirpy Cheep Cheep

C芒n Carioci: Frank Sinatra - That's Life

C芒n Torri Calon: Edward H Dafis - Ysbryd y Nos

C芒n nos Wener: Unrhywbeth gan Maffia Mr Huws

C芒n Snog Gyntaf: ELO - Mr Blue Sky

C芒n Creu Argraff ar Ferch: Cerddoriaeth y ffilm E.T.

C芒n Gyntaf mewn Parti: Meic Stevens - Brawd Houdini

Cas G芒n: Tweetie Song

Albym Gorau: Diana Krall - A Night in Paris

Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.