Mae Euros Childs yn ace. Dyna ein barn ni yn C2, Radio Cymru beth bynnag, felly ryn ni'n edrych mlaen yn fawr at y 5ed o Fawrth, pan fydd cyn-aelod Gorky's Zygotic Mynci yn rhyddau ei ail albym unigol.
Yn dilyn llwyddiant ysgubol ei albym gynta, Chops ma na ddisgwyl mawr am Bore Da - ei ail gasgliad unigol. Gafodd yr albym ei recordio mewn 12 diwrnod yn stiwdio Bryn Derwen ac fe gafodd Euros gymorth y cerddorion Peter Richardson o Topper a Gorky's ar y dryms, Meilyr Jones o Radio Lux ar y bas, Dylan Hughes o Radio Lux ar yr organ a'n cyfaill-oll Alun Tan Lan ar y git芒r
Ma bob un o'r 12 trac ar yr albym yn Gymraeg ac fe gafodd y trac Bore Da ei chwarae ar y radio am y tro cyntaf erioed ar raglen Huw Stephens ar C2, Radio Cymru. Mi gewch chi glywed mwy o'r traciau oddi arni dros yr wythnosau nesaf ar C2.
Dyma restr o'r traciau;
- Bore Da
- Siwgr Siwgr Siwgr
- Henry A Matilda Supermarketsuper
- Ar Lan Y Mor
- Twll Yn Yr Awyr
- Dechrau'r Diwedd
- Cwtsh
- Blaidd Tu Fas Y Drws
- Warrior
- Sandalau
- Roedd Hin Nofio Yn Y Bore Bach
- Aur A Haul
Mi fydd Euros ar daith i hyrwyddo'r albym yn ystod mis Chwefor a Mawrth - cliciwch i weld rhestr gigs C2. Fydd criw C2 i gyd yn gig y Point (ond peidiwch a gadael i hynny roi chi off). Welwn ni chi yna!
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.