Nos Sadwrn, Chwefror 17 cynhaliwyd seremoni RAP 大象传媒 Radio Cymru 2007, a gwobrwywyd Caryl Parry Jones am ei chyfraniad arbennig i gerddoriaeth. Mewn seremoni fywiog yn Venue Cymru, Llandudno cydnabyddwyd ei chyfraniad aruthrol i'r byd cerddorol yng Nghymru a'i brwdfrydedd diflino wrth gyfrannu at ei ffyniant.
Dafydd Du a Lisa Gwilym oedd yn cadw trefn o'r llwyfan ac fe wobrwywyd llawer o dalentau yr SRG yn ysytod y seremoni. Aeth y wobr am gr诺p mwyaf poblogaidd gwrandawyr 大象传媒 Radio Cymru i'r Genod Droog sy'n hynod o addas o ystyried eu prysurdeb a'u poblogrwydd dros y flwyddyn ddiwethaf. Adeiladodd Radio Luxembourg ar eu llwyddiant diweddar gan gipio'r wobr am Fand y Flwyddyn.
Yn ystod y noson cafwyd setiau byw gan Y Ffyrc, Cowbois Rhos Botwnog a Swci Boscawen. Daeth y noson i uchfafbwynt gyda pherfformiad gan y Genod Droog, wrth i chewch aelod o gerddorfa ymuno a nhw yn eu set byw. Roedd yr awyrgylch yn y neuadd ar y noson yn drydanol a chefnogaeth a brwdfrydedd y gynulleidfa yn adlewyrchiad o'r s卯n fel ag y mae heddiw.
Bydd cyfle i fwynhau'r noson a'r perfformiadau i gyd ar 大象传媒 Radio Cymru, Nos Lun, Chwefror 19 am 8pm - a bydd rhesr lawn o'r holl ennillwyr i'w gweld ar wefan C2 yn syth ar ol y rhaglen.
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.