大象传媒

Albym newydd y SFA

super furry animals

Y diweddara ym myd yr anifeiliaid hynod o flewog!

Ddechrau'r wythnos mi dderbyniodd griw C2 newyddion cyffrous am albym newydd y Super Furry Animals.

Mae'r SFA yn y stiwdio ar hyn o bryd yn gorffen gweithio ar eu nawfed albym stiwdio. Mi fydd yr albym hir ddisgwyliedig ar gael i'w lawr lwytho o wefan y band ar y 16 Fawrth, ac ar gael yn y siopau ar y 13 Ebrill. Am fwy o wybodaeth ewch i:

Mae'r band wedi penderfynu ar pa ganeuon fydd yn ymddangos ar yr albym, ond does dim teitl iddi ar hyn o bryd.

Dyma'r traciau :
'The Very Best of Neil Diamond'
White Socks/Flip Flops
Inaugural Trams
Sounds Familiar
Cardiff in the Sun
Where Do You Wanna Go?
Lliwiau Llachar
Mountain
Moped Eyes
Inconvenience
Crazy Naked Girls
Earth
Prick

O ran steil yr albym, yn bendant bydd dim roc-gwlad yn agos iddi, gan fod gan Dafydd Ieuan o'r band ffobia am gitars pedal-ddur.
'Da 'ni hefyd wedi clywed o fwrdd awdurdodi'r SFA :

"...er y bydd 'na elfennau melodaidd cryf i'r cyfanwaith rydym ni wedi penderfynu hepgor y baledi acwstig...am y tro."

"Dim ond un trac araf sydd ar yr albym; a dyw honno ddim yn araf. O gwbwl."

Mi fydd aelodau o'r SFA cyn hir gobeithio yn westeion ar raglen Lisa Gwilym, ond os na allwch chi aros tan hynny, ewch draw i wefannau'r band am fwy o wybodaeth. neu

Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.