大象传媒

Beth yw RSS?

Ystyr RSS 'Really Simple Syndication'. Trwy ddefnyddio RSS medrwch weld pa ddeunydd newydd sydd wedi ei osod ar y rhyngrwyd.

Medrwch gael y penawdau newyddion diweddaraf, erthyglau, lluniau ac wrth gwrs podlediadau, cyn gynted ag y maent yn cael eu cyhoeddi heb fod angen i chi fynd ati i edrych bob dydd. Er mwyn gwneud hyn rhaid i chi danysgrifio i ddogfen RSS, a elwir yn 'ffrwd' weithiau, trwy ddefnyddio 'darllenwr ffrwd'. Darn o feddalwedd yw hwn sy'n archwilio'r ffrydiau RSS er mwyn dod o hyd i ddeunydd newydd. Yn syml iawn i gychwyn y tanysgrifiad dim ond nodi'r ffrwd sydd ei angen arnoch yn y feddalwedd ac fe wnaiff y meddalwedd y gweddill i chi.

Er mwyn derbyn podlediad bydd angen meddalwedd podlediadau arnoch (gweler y cysylltiadau perthnasol). Rydych yn tanysgrifio i'r podlediad trwy nodi cyswllt y ffrwd yn eich meddalwedd. Mae hyn yn cychwyn y broses danysgrifio. Mae'r meddalwedd yn chwilio'n gyson wedyn ar ffrydiau yr ydych wedi tanysgrifio iddynt, gan lawrlwytho unrhyw benodau newydd.

Cysylltiadau eraill:


Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00 Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.