大象传媒

Llewod '71

Dot Davies

Dot Davies yn bwrw golwg nol ar gamp tim y Llewod dan ofalaeth Carwyn James gurodd Seland Newydd ddeugain mlynedd yn 么l.

Taith y Llewod i Seland Newydd ym 1971 yw, mae'n bosib, y daith rygbi enwocaf erioed.

Chwe Sais, chwe Gwyddel, pum Albanwr ac 13 Cymro - gyda saith o'r rhain yn chware dros Gymry Llundain - o dan hyfforddiant athrylithgar Carwyn James yn maeddu'r Crysau Duon mewn cyfres brawf ar eu tomen eu hunain.

Dyma'r unig d卯m Llewod erioed i gyflawni'r gamp.

Mae'r llyfrau hanes yn tanlinellu pa mor anodd yw hi i ennill yn Seland Newydd, gyda'r Llewod yn ennill chwe g锚m Brawf yn unig gan golli 26 rhwng 1904 ac 1993.

T卯m Carwyn James, o dan gapteiniaeth John Dawes yn 1971 yw'r unig d卯m i gipio cyfres ar dir y Crysau Duon.

"Ni oedd y cynta i fod yn llwyddiannus yna ... falle allwch chi gymharu fe gyda dringo Everest ... mae pob un yn cofio'r un cyntaf i ddringo Everest" meddai Gareth Edwards.

A dyna, efallai, y gymhariaeth orau o'r her o chwarae yn Seland Newydd.

Roedd naws Cymreig iawn i'r garfan adawodd Llundain ar siwrne 58 awr i Awstralia.

Gyda Carwyn wrth y llyw, John Dawes yn gapten roedd JPR, Gerald Davies, Arthur Lewis, Ray Chico Hopkins, Barry John, Gareth Edwards, Mervyn Davies, Geoff Evans, Derek Quinnell, Mike Roberts, Delme Thomas a John Taylor yn y garfan.

Roedd dwy g锚m yn Awstralia wedi'r daith felltith a chrafu buddugoliaeth yn erbyn New South Wales a cholli yn erbyn Queensland oedd hanes y Llewod.

Dywedodd hyfforddwr Queensland, Des Connor, wedi'r gem mai dyna'r tim gwaethaf erioed iddo weld yn cynrychioli'r Llewod.

Buan iawn y gorfodwyd i Des ail-feddwl wedi i'r Llewod gyrredd gwlad y 'Cwmwl Hir Gwyn'.

Cafwyd pedair buddugoliaeth o'r bron yn erbyn timau taleithiol Seland Newydd, ond wrth drechu t卯m cryf Wellington, dechreuodd pobl gredu y gallai'r daith fod yn un hanesyddol.

Profodd Canterbury yn wrthwynebwyr anoddach yn Christchurch gyda'r t卯m cartref yn benderfynol o anafu'r ymwelwyr.

"Honna oedd y gem 'waetha 'wi di chware ynddi yn y mywyd achos gollon ni dri o'n blaenwyr o'r t卯m cynta yn y gem hynny, odd hi'n warthus i weld a gweud y gwir" meddai Delme Thomas.

Ond er gwaetha'r anafiadau profodd y Llewod yn drech na Canterbury gyda buddugoliaeth o 14-3.

Yna chwalwyd Marlborough a Nelson Bay cyn ennill y Prawf cyntaf yn erbyn y Crysau Duon o 9-3 yn Dunedin.

Daeth tair buddugoliaeth arall yn erbyn timau rhanbarthol ond tarodd y Crysau Duon yn 么l yn yr ail Brawf yn Christchurch wrth drechu'r Llewod 22-12.

Codwyd ysbryd y Llewod unwaith eto 芒 pherfformiadau da yn erbyn timau taleithiol gyda Gerald Davies yn casglu pedwar cais yn y g锚m yn erbyn Hawke's Bay.

Roedd y Llewod yn d卯m o s锚r, ond wedi'r trydydd Prawf a'r fuddugoliaeth 13-3 cafodd un chwareuwr ei ddyrchafu'n uwch na'r gweddil.

Roedd ei chware yn wefreiddiol a'i bartneriaeth 芒 Gareth Edwards yn allweddol i'r llwyddiant.

Nid ar chware bach mae cefnogwyr brwd Seland Newydd yn coroni un o'r gwrthwynebwyr yn frenin y byd rygbi ond roedd gwlad y Kiwi wedi dechrau addoli'r Brenin, Barry John.

Yna ystod y Prawf olaf ar Eden Park roedd g么l adlam JPR Williams yn holl bwysig wrth i'r Llewod sicrhau g锚m gyfartal 14-14, a sicrhau eu bod yn ennill y gyfres 2-1.

Torrwyd tir newydd ar daith y Llewod yn '71 ond nid oedd yr un aelod o'r garfan yn barod am y croeso rhyfeddol oedd yn eu disgwyl yn 么l ym Mhrydain.

Cafwyd golygfeydd nas gwelwyd ers dyddiau'r Beatles wrth i'r t卯m lanio yn 么l yn Heathrow a roedd pentrefi a threfi cyfan yn cyfarch eu harwyr newydd.


Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00 Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.