In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions
Er mwyn nodi hanner can mlynedd wedi darlith enwog Tynged yr Iaith ar yr hen 大象传媒 Home Service, mae Radio Cymru yn edrych ar amrywiol agweddau tuag at y Gymraeg yn 2012, trwy amrywiol raglenni, gan gynnwys darlith gan bump o Gymry modern a chyfarwydd fydd yn trafod eu barn a'u rhagolygon ynghylch yr iaith. Darlledir y darlithoedd rhain am 12pm.
Darlith Rhys Iorwerth
Mae'r Cymry wastad, hyd y gwela i, wedi rhoi pwys mawr ar yr ymdeimlad o berthyn i le a chynefin, ar wreiddiau a chartre. Mae'n rhan go annatod o'r ffordd y mae'r rhan fwyaf ohonon ni yn ein diffinio'n hunain. Ac mae sefyllfa'r iaith heddiw yn aml yn ein harwain ni i'w hastudio hi drwy edrych ar ei chyflwr o fro i fro, o gymuned i gymuned. Gan mai yn y mannau hynny y mae'n rhaid iddi ffynnu er mwyn byw.
Dros y nadolig eleni, mi'r oeddwn i'n 么l yng Nghaernarfon, yn yr ardal lle'm ganwyd i ac y'm magwyd i. Yn 么l yn y dre sy'n dal i'w chlywed yn drwm ar fy acen i er fy mod i wedi byw yn y brifddinas ers degawd. Wedi'r cyfan, yng nghysgod castell Caernarfon y treuliais i flynyddoedd fy mhlentyndod, ac mae peryg i hynny gymylu gwydrau rhywun wrth gael gwahoddiad i fwrw bol mewn pwt o ddarlith fel hon.
Ddeuddydd cyn yr wyl mi'r oeddwn i mewn tafarn yn y dre a honno'n orlawn i'w hymylon. Roedd yna g锚m b锚l-droed ar y teledu, a degau o hogiau wedi gwasgu i mewn i'r bar i'w gweld. Prin fod gair o Saesneg i'w glywed yn unman; yn Gymraeg oedd y tynnu coes, y gweiddi a'r rhegi. Mae'n hawdd rhamantu ond nid dyna oedd hyn; y tu allan ar y stryd roedd yna griwiau'n canu yn Gymraeg ar 么l eu part茂on gwaith, a'r gyrwyr tacsi hwythau'n barod i'w dwrdio yn Gymraeg wrth eu hebrwng nhw adre i'w gwl芒u. Mae'n rhywbeth sy'n fy nharo bob tro wrth ddychwelyd o Gaerdydd i'r gogledd, sef mor naturiol o fyw ydi'r iaith yn fan hyn, a hynny ymhlith pob carfan o gymdeithas.
Ond mi all fod yna ddigon i godi'ch calon mewn lle fel Caerdydd hefyd. Erbyn dathliadau'r calan mi'r oeddwn i'n 么l yn y brifddinas, mewn parti yn ardal Grangetown, neu Drelluest. Yn y parti hwn, fel yn nhre'r cofis, criwiau ifanc oedd i'w clywed ym mhobman a'r mwyafrif llethol yn siarad Cymraeg. Mae'n wir mai pobl ddwad oedd nifer go lew o'r rhain ond tydi hynny ddim yn cuddio'r ffaith bod yna gymuned yng Nghaerdydd heddiw a fyddai'n gallu dewis byw bywyd cymdeithasol a hwnnw bron yn gyfan gwbl uniaith Gymraeg.
Mae'n demtasiwn dirwyn pethau i ben yn fanno ar 么l creu darlun sy'n ymylu ar fod yn iwtopaidd, o ran y modd y mae'r iaith wedi dal ei thir ac wrthi'n ennill ei thir yn nwy o ardaloedd trefol amlyca'r wlad. Ac nid darlun ffug mohono. Ond y gwir amdani, wrth reswm, ydi bod agor un llygad yn aml yn cau'r llall. Onid digwydd cael fy magu mewn tre mor Gymreigaidd 芒 Chaernarfon wnes i? Onid digwydd symud i fyw i Gaerdydd mewn cyfnod pan oedd cynifer o bobl o gefndir tebyg yn gwneud hynny hefyd - ac ar yr un pryd ag y gwelwyd newid go fawr yn agweddau'r awdurdodau a thrwch y boblogaeth at yr iaith?
Yn anffodus, does ond angen mentro y tu allan i'r cynefinoedd saff yma i weld y realiti o'n cwmpas. Ewch am noson allan i ganol y ddinas, neu i'r cymoedd er enghraifft, neu teithiwch ar dr锚n neu ar fws tua'r gorllewin. Stopiwch mewn caffi ar hyd arfordir y gogledd neu rywle ym mherfeddion y canolbarth. Ewch am wyliau i Sir Benfro neu Ben Llyn. Wrth gwrs fod y Gymraeg yn dal i fodoli yn y llefydd yma, ac mae hi'n gryf mewn pocedi fel y gwyr pawb, ond ydi hi'n ddigon gwydn, yn ddigon dyfn ei gwreiddiau, fel y gallwn ni i gyd gysgu'n dawel gyda'r nos?
Mae'r proffwydoliaethau wedi'u hen fwrw y bydd ystadegau nesa'r Cyfrifiad yn ddigon i'n sobri ni mewn sawl ffordd. Wel, amser yn unig a ddengys. Mae'n wir y bydd y twf a welwyd mewn ardaloedd fel y de-ddwyrain ar 么l y Cyfrifiad diwethaf yn debyg o'i ailadrodd ei hun, ond be ydi ffigurau ar bapur yn wyneb y Saesneg sy'n dal i'w chlywed ar ein buarthau a'n caeau chwarae, neu ar gorneli strydoedd gyda'r nos? Onid creu swigod ffug o amgylch yr iaith ydi hyn, i'n twyllo wrth i'r ynysoedd cynhenid Cymraeg grebachu o hyd? Mae'n hawdd iawn darogan gwae wrth feddwl yn y fath fodd.
A finnau fel sawl un arall wedi dianc i ddiogelwch y minteioedd yng Nghaerdydd, mae'n hawdd hefyd teimlo pyliau o euogrwydd ar adegau fel hyn. O glywed, er enghraifft, ei bod hi'n mynd yn gynyddol anos ar drefnwyr digwyddiadau hyd yn oed mewn llefydd fel Caernarfon i ddenu cefnogaeth gan y lliaws. O ymweld 芒 chymdeithasau llenyddol ar hyd ac ar led Cymru a gweld aberth llond dwrn o unigolion sy'n gwbl allweddol er mwyn i'r cymdeithasau hynny barhau. Ac o weld y gwaith hanfodol y mae mudiadau fel y clybiau ffermwyr ifanc yn ei wneud i gynnal yr iaith a'i diwylliant mewn sawl ardal yng nghefn gwlad. Am ba hyd eto y gall y cymunedau hyn wrthsefyll y pwysau? Teg cydnabod bod swyddi - neu brinder y rheini - yn elfen ddylanwadol iawn yn hyn i gyd.
Mae ar bob gwlad hyderus angen prifddinas lle mae ieithoedd cynhenid y genedl yn hawlio lle amlwg ar ei strydoedd. Er mwyn i'r Gymraeg fyw, rydw i'n grediniol ei bod hi'n hollbwysig fod ganddi bresenoldeb croyw a chryf yn ei metropolis ei hun. O'r herwydd, fedra i ddim beirniadu na gweld bai ar neb am symud i Gaerdydd, na'u cystwyo nhw am ddyheu byw yma. Mae hynny'n dod yn fwyfwy eglur i mi wrth weld sefyllfa addysg Gymraeg yn y ddinas ac wrth glywed yr iaith o fy nghwmpas i bob dydd yn Nhreganna a Glan-yr-afon, ym Mhontcanna, Grangetown a'r Bae.
Yn hytrach, efallai mai nad y cysyniad o le ydi'r peth pwysicaf wedi'r cyfan. Onid yr hyn y mae pobl yn ei wneud 芒'u hiaith a'u Cymreictod sy'n cyfrif? Mae hynny'n wir ym mhob maes, boed yn y dre, yn y wlad neu'r ddinas. Neu, yn wir, ar y rhyngrwyd. Mae ffenomenon fel Twitter, sy'n gymuned ynddi hi'i hun, yn enghraifft wych o'r modd y mae'r Gymraeg wedi hawlio'i lle yng nghanol m么r o drydar byd-eang. Siawns nad ydi honno'n gymuned fyw sy'n amlygu'r hyn sy'n bosib drwy ddangos mymryn o frwdfrydedd a thrwy ddewis defnyddio'r iaith.
Ym mhob cwr o'r wlad, ar bob lefel, sefyll yn y bwlch sy'n bwysig. Gan fod y bylchau hynny'n agor ym mhobman, nid cecru ydi'r ateb na bod yn ddi-hid o oddefol chwaith. Yn hytrach, mae'n rhaid rhoi o'n hamser a bod yn weithgar yn ein cymunedau ym mha le bynnag y mae'r rheini. Y peryg, wrth gwrs, ydi y byddwn ni'n gadael i bobl eraill gario'r baich ac yn hynny o beth mae gennym ni i gyd ein cyfraniad bach i'w wneud.
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00 Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.
Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.