In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions
Dr Simon Brooks, cyn-olygydd y Barn a darlithydd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd.
Er mwyn nodi hanner can mlynedd wedi darlith enwog Tynged yr Iaith ar yr hen 大象传媒 Home Service, mae Radio Cymru yn edrych ar amrywiol agweddau tuag at y Gymraeg yn 2012, trwy amrywiol raglenni, gan gynnwys darlith gan bump o Gymry modern a chyfarwydd fydd yn trafod eu barn a'u rhagolygon ynghylch yr iaith. Darlledir y darlithoedd rhain am 12pm.
Darlith Simon Brooks
Llais main, miniog ar y radio yn cymell chwyldro hanner canrif yn 么l. Dyna'r atgof sydd gennym erbyn hyn o ddarlith enwog Saunders Lewis, Tynged yr Iaith, yn cyhoeddi y gellid achub y Gymraeg o dderbyn mai 'trwy ddulliau chwyldro yn unig y mae llwyddo'. Ond nid dyma'r tro cyntaf i Saunders Lewis ddefnyddio'r gair 'chwyldro' wrth geisio ennyn gwrthsafiad yn enw'r Gymraeg. Fe wnaethai hynny o'r blaen yn y 1940au a'r 50au, a bu'r ymateb yn llugoer. Pan draddodwyd Tynged yr Iaith, fe allai'n rhwydd wedi tybio y byddai'n druth aneffeithiol arall mewn olyniaeth hir o alwadau aneffeithiol cyffelyb.
Ond fe fyddai 1962 yn wahanol. Roedd cenhedlaeth y baby boomers a aned ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd yn dod i oed. Roedd ysbryd chwyldro ieuenctid ac ymgyrchoedd hawliau suful America yn yr awyr. Yn fuan wedi'r ddarlith, fe sefydlwyd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, a chynhaliwyd ei phrotest gyntaf flwyddyn yn ddiweddarach pan flociwyd Pont Trefechan yn Aberystwyth.
Y gwir am Tynged yr Iaith yw mai'r weithred o sefydlu Cymdeithas yr Iaith a rydd arwyddoc芒d hanesyddol iddi. Pe na sefydlwyd y Gymdeithas, fe fyddai Tynged yr Iaith yr un mor angofiedig heddiw ag ysgrifau eraill Saunders Lewis ar y Gymraeg. Nid darlith am dynged yr iaith sydd yma, ond darlith am dynged y mudiad iaith, sef am y bobl sydd am adfywio'r Gymraeg, a'u tactegau. Mae'n ddeialog ynglyn 芒 sut i gymell llywodraeth i gydnabod y Gymraeg, ac am sut i drefnu cefnogwyr y Gymraeg yn y dull mwyaf effeithlon. Mae enillion y mudiad iaith modern a ddaeth i fodolaeth wedi'r ddarlith yn niferus: statws swyddogol i'r iaith, sianeli teledu a radio, ysgolion a Choleg cenedlaethol, diwylliant ieuenctid byrlymus, hunan-hyder seicolegol. Yn wir, hwn fu'r mudiad pwysau mwyaf effeithiol yn hanes Cymru. Ac er bod cyrff o bob math wedi bod ynghlwm wrtho, does dim gwadu nad Cymdeithas yr Iaith fu'r asgwrn cefn. Anodd dychmygu sut stad fyddai ar y Gymraeg heddiw heb ei gwytnwch, ei dyfalbarhad ac ar brydiau hefyd ei diawledigrwydd.
Roedd Tynged yr Iaith wedi taro deuddeg 芒'i chynulleidfa am fod ei neges wrthsefydliadol yn gydnaws ag ysbryd yr oes. Mae'r wers i garedigion yr iaith hanner can mlynedd yn ddiweddarach yn amlwg. Os ydy pobl sy'n ymgyrchu dros yr iaith am barhau'n ddylanwadol yn y Gymru sydd ohoni, mae'n rhaid iddyn nhw fod yn rhan o'u cyfnod hefyd. Sut felly mae 2012 yn wahanol i 1962 o ran rhagolygon yr iaith Gymraeg? Ym mha ffordd y llywodraethir Cymru heddiw, a beth yw'r dull mwyaf effeithiol o ddylanwadu ar y penderfyniadau gwleidyddol sy'n berthnasol i'r iaith? Ac, fel yr holodd Saunders Lewis ei hun, pa fath o fudiad sydd fwyaf tebygol o gyflawni hyn?
Mae demograffeg y Gymraeg wedi newid wrth gwrs. Mae'r iaith yn llawer mwy dinesig a threfol, ac i raddau hefyd yn fwy dosbarth canol nag y bu. Ar yr un pryd, bu dirywiad mawr yn y ganran sy'n siarad Cymraeg mewn cymunedau Cymraeg eu hiaith yn y gogledd a'r gorllewin. Yn wir, am y tro cyntaf erioed, fe fydd canlyniadau Cyfrifiad 2011 yn dangos mai lleiafrif yw'r Cymry Cymraeg yng Ngheredigion a Sir Gaerfyrddin.
Mewn oes pan fydd ambell i ysgol gynradd Gymraeg yn y brifddinas ddwywaith maint rhai ysgolion uwchradd yn y Wynedd wledig, strategaeth iaith i Gymru gyfan sydd ei angen, nid un sy'n gyfyngedig i'r Fro Gymraeg yn unig. Ond ffwlbri fyddai cefnu ar y cymunedau Cymraeg traddodiadol oherwydd hynny. Mae'r Gymraeg yn fwy gwydn yng nghefn gwlad nag y mae rhai sylwebyddion yn ei honni, a pheirianwaith adfer yr iaith yn y de-ddwyrain yn ddibynnol o hyd ar linyn bogail llif cyson o fewnfudwyr Cymraeg o'r gorllewin. Ac os oes llai na hanner poblogaeth Ceredigion a Sir G芒r yn siarad yr iaith erbyn hyn, mae'r lleiafrif hwnnw yn cynnwys degau o filoedd o Gymry Cymraeg sy'n byw yn ddigon agos at ei gilydd i gynnal rhwydweithiau cymdeithasol cryfion.
Diffyg mwyaf y mudiad iaith er 1962 fu'r methiant i amddiffyn cymunedau Cymraeg, ac ni ddylem esgusodi'r methiant wrth ein twyllo ein hunain nad yw'n bwysig. Bu'n haws i fudiad protest fel Cymdeithas yr Iaith fynd i'r afael 芒 statws yr iaith nag 芒'r defnydd cymunedol ohoni. Nid nad oes lle ar gyfer sloganau. Os oes modd codi gorsaf niwclear newydd yn Sir F么n, siawns nad yw'n amhosib adleoli S4C i Gaernarfon. Ni chredaf ychwaith y dylai trafod mewnlifiad fod yn dabw. Ond yn y b么n mae a wnelo parhad y Gymraeg yn iaith y gymuned 芒 pholis茂au llywodraethol cymhleth ym meysydd yr economi, cynllunio ac addysg: meysydd y mae'r Cymry ers datganoli yn gyfrifol amdanynt i gyd. Bydd angen adfer economi, gan gynnwys datganoli swyddi proffesiynol Cymraeg eu hiaith o Gaerdydd i rannau eraill o Gymru, ond hefyd wrth annog mentrau masnachol. Fe ddylai'r Gymraeg fod yn ystyriaeth gynllunio llawer mwy canolog nag y mae ar hyn o bryd. A gorau po gyntaf y disodlir addysg ddwyieithog gan addysg Gymraeg mewn ysgolion uwchradd yn yr ardaloedd gwledig.
I unrhyw iaith leiafrifol, mae gwerth enfawr i unigolion a chriwiau ymroddedig sy'n weithgar yn eu cymunedau, a hynny yn wyneb difaterwch y llywodraeth yn aml iawn. Ar lawr gwlad, yn 么l ewyllys y bobl sy'n ei harfer hi mewn sgwrs, mewn cwmni, mewn cymdeithas, y bydd iaith leiafrifol fel y Gymraeg fyw. Heddiw, fel ddoe, gweithred chwyldroadol yw siarad y Gymraeg. Cymdogaeth yw sylfaen yr iaith. Dengys mentrau cymunedol llwyddiannus fel un Gwesty'r Pengwern yn Llan Ffestiniog, neu Saith Seren yn Wrecsam, y ffordd ymlaen. Yn wir, gyda'r farchnad dai ar ei lawr, dyma'r adeg iawn i'r Cymry brynu tai, tafarndai a busnesau yn y Gymru Gymraeg wledig yn 么l. Ac eto, a ninnau wedi brwydro mor galed i sicrhau elfen o hunan-lywodraeth, onid dyma'r amser hefyd i ofyn pam na fu modd manteisio'n fwy effeithiol ar ddegawd o ddatganoli er mwyn ennill consesiynau gwleidyddol i'r Gymraeg a'i chymunedau?
Mae datganoli yn cynnig sawl cyfle i'r Gymraeg a'i diwylliant, ond mae yma sawl her hefyd. Y perygl amlycaf yw y gallai datblygiad gwladwriaeth Gymreig ddisodli'r Gymraeg fel priod arwyddnod hunaniaeth y bobl, yn union fel y digwyddodd yn achos yr Wyddeleg wedi annibyniaeth Iwerddon. Daw Tynged yr Iaith i ben gyda rhybudd Saunders Lewis y gallai tranc yr iaith mewn Cymru annibynnol fod yn gynt na'i thranc dan Lywodraeth Loegr. Mae datblygiad y math o genedlaetholdeb sifig sy'n haeru fod gwahaniaethau ieithyddol yn rhwystr i lwyddiant yr achos cenedlaethol yn elyn marwol i'r Gymraeg. Os pris annibyniaeth yw cefnu ar yr iaith Gymraeg, yna bydd rhaid dweud na wrth annibyniaeth.
Ond siawns nad y peth call fyddai clymu'r ymdaith tuag at ymreolaeth wrth adferiad yr iaith Gymraeg. Dim ond felly y codwn ni Gymru Rydd Gymraeg. Yn y chwedegau, oes aur protest, roedd yn briodol fod y mudiad iaith yn fudiad protest. Ond nid yw ei rhethreg na'i dulliau ymgyrchu wedi newid fawr ddim ers hynny, ac maent yn gweddu mewn gwirionedd i'r dyddiau pan oedd Llywodraeth estron yn Llundain yn sathru ar yr iaith. Fel y dengys helyntion diweddar S4C, fe all Gweinidogion San Steffan ddirmygu'r Gymraeg o hyd. Ond ymhob maes bron heblaw am ddarlledu, Bae Caerdydd sy'n gyfrifol bellach am bolisi iaith. Onid yw'n iawn felly fod y mudiad iaith yn addasu i'r newidiadau cyfansoddiadol a ddaeth yn sgil datganoli? Beth bynnag yw ei rhinweddau neu'i gwendidau, mae'n anoddach o lawer cyfiawnhau torcyfraith yn erbyn Llywodraeth Cymru yn enw'r Gymraeg nag ydoedd yn erbyn Llywodraeth Loegr. Nid oes gennyf unrhyw wrthwynebiad i anufudd-dod sifil sy'n rhan gydnabyddedig o'r drefn ddemocrataidd. Ond fe ddylai Cymdeithas yr Iaith ymateb i dwf ymreolaeth Gymreig wrth ddatgan ei bod yn rhoi'r gorau i rai mathau o dorcyfraith, megis peri difrod troseddol i eiddo Llywodraeth Cymru, pleidiau gwleidyddol a swyddfeydd aelodau o'r Cynulliad. Fe fyddai datganiad o'r fath yn gam symbolaidd o'r pwys mwya ac yn dangos ei bod, fel yr oedd yn y 1960au, yn rhan o ysbryd yr oes.
Ddechrau Ebrill, fe gaiff Bwrdd yr Iaith Gymraeg ei ddirwyn i ben, a throsglwyddir rhai o'i gyfrifoldebau i'r Comisiynydd Iaith newydd, a rhai eraill i'r Llywodraeth. Does dim dwywaith na fu'r Bwrdd yn llais annibynnol pwysig dros fuddiannau'r Gymraeg. Am resymau anesboniadwy, y mudiad iaith ei hun a alwodd am ei ddiddymu. Os yw'r Comisiynydd Iaith yn dehongli ei r么l yn bennaf fel un sy'n plismona statws y Gymraeg yn 么l gofynion y Mesur Iaith newydd, fe fydd y gwaith pwysig o lunio polis茂au mewn meysydd anstatudol fel cynllunio ieithyddol, a dyfodol y Gymraeg fel iaith gymunedol, yn cael ei esgeuluso. Mae angen i ryw sefydliad lenwi'r bwlch yma, a phwyso'n effeithiol ar y llywodraeth. Fe allai Cymdeithas yr Iaith fynd i'r afael 芒 hyn pe mynnai ymddiwygio, neu fe ellid cael grwp newydd. Pwy bynnag sy'n gwneud, mae angen i rywun neu rywrai gyfrannu i'r drafodaeth yn y Cynulliad am ddeddfwriaeth newydd, cynnig syniadau ystyrlon wrth i faniffestos y pleidiau gwleidyddol gael eu llunio, cwrdd 芒 gweision suful i drin polisi, cynnal seminarau er mwyn rhannu gwybodaeth ymhlith gwleidyddion a chyhoeddi dogfennau polisi. Does dim o'r rhamant a geir wrth baentio'r byd yn wyrdd yn y math yma o waith. Ond wrth ennill mwy a mwy o ymreolaeth fel cenedl, mae'n rhaid i ni fel Cymry symud oddi wrth ddiwylliant protestio yn erbyn penderfyniadau pobl eraill tuag at ysgwyddo cyfrifoldeb am ein penderfyniadau ein hunain.
Dyma addasu felly neges chwyldroadol Tynged yr Iaith i'r oes wleidyddol sydd ohoni, pan fo penderfyniadau am y Gymraeg yn cael eu gwneud yng Nghymru gan Gymry. Nid yw brwydr yr iaith ar ben, ond mae'n frwydr wahanol i honno a fodolai ym 1962. Does 'na ddim un ddeddf unigol a fydd yn achub y Gymraeg. Rhaid lob茂o'r Llywodraeth yn barhaus, a cheisio dylanwadu ar ei rhaglen waith, ymhob ffordd ac ar bob cyfle posib: dylanwadu ar ei pholisi economaidd, ei pholisi tai a'i pholisi addysg gymaint felly ag ar ei pholisi treftadaeth. Nid rhan o'r diwydiant treftadaeth yw'r Gymraeg beth bynnag, ond iaith fyw. Cam chwyldroadol fydd gosod y Gymraeg yng nghraidd Llywodraeth Cymru a'n pleidiau gwleidyddol i gyd. Ymdrefnwn fel bo'r Gymraeg ar ganol y llwyfan wleidyddol, yn un o brif bynciau bywyd sifig Cymru, yn rhan annatod o'n democratiaeth Gymreig, yn amlygiad o'n sofraniaeth newydd. Yn ddi-os, chwyldro fyddai hynny, ond trwy ddulliau chwyldro yn unig y mae llwyddo.
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00 Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.
Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.