Fel y Cyfarwyddwr ´óÏó´«Ã½ Cymru, Rhuanedd sy’n arwain Timau Gweithredol ´óÏó´«Ã½ Cymru Wales a hi sydd â’r cyfrifoldeb cyffredinol dros y strategaeth cynnwys a’r blaenoriaethau golygyddol ar gyfer ´óÏó´«Ã½ Cymru ar draws yr holl lwyfannau a gwasanaethau cyfryngau – radio, fideo ac ar-lein – yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Dechreuodd Rhuanedd ei gyrfa gyda ´óÏó´«Ã½ Cymru fel newyddiadurwr, cyn cyflwyno rhai o’i raglenni newyddion a gwleidyddol blaenllaw ar y radio a’r teledu. Yn ystod blynyddoedd cyntaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru, roedd hi’n wyneb cyfarwydd i wylwyr wrth adrodd ar y datblygiadau gwleidyddol ym Mae Caerdydd.
Ar ôl gadael y ´óÏó´«Ã½ yn 2007, bu hi’n gweithio fel cynghorydd arbennig i Lywodraeth Cymru, fel Prif Weithredwr Plaid Cymru, ac yn olaf fel cynghorydd polisi i Lywydd Senedd Cymru.
Yn 2018, dychwelodd Rhuanedd i’r ´óÏó´«Ã½ gan ymgymryd â rôl golygydd Radio Cymru a Cymru Fyw, cyn cael ei phenodi’n Gyfarwyddwr Cynnwys yn 2021.
Yn wreiddiol o Gwm Cynon, aeth Rhuanedd i Ysgol Gyfun Rhydfelen. Aeth ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth a chafodd ysgoloriaeth gan y ´óÏó´«Ã½ i astudio diploma ôl-radd yn Ysgol Newyddiaduraeth Prifysgol Caerdydd. Mae Rhuanedd bellach yn byw ym Mhontypridd gyda’i theulu.
-
Rhuanedd Richards
Cyfarwyddwr, ´óÏó´«Ã½ Cymru -
Nick Andrews
Pennaeth Comisiynu -
Rhys Evans
Pennaeth Materion Corfforaethol a Polisi Cyhoeddus -
Carolyn Hitt
Golygydd Radio Wales a Chwaraeon ´óÏó´«Ã½ Cymru -
Sian Gwynedd
Pennaeth Pobl, Diwylliant a Phartneriaethau -
Pennaeth Gwasanaethau Cymraeg, ´óÏó´«Ã½ Cymru
-
Lisa Tregale
Cyfarwyddwr Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymru -
Gareth Davies
Pennaeth Marchnata, Cynllunio a Chynulleidfaoedd -
Delyth Isaac
Pennaeth Newyddion a Materion Cyfoes -
Sarah Last
Uwch Bartner Busnes Adnoddau Dynol -
Garmon Rhys
Cyfarwyddwr Busnes a Gweithrediadau -
Nia Morgan
Uwch Bartner Busnes, Cyllid