Cynnwys y wers hon
- Un cyflwyniad i sut i dreiglo'n feddal gydag ansoddeiriau ac adferfau
- Tri gweithgaredd i ymarfer treiglo'n feddal gydag ansoddeiriau ac adferfau
Lesson content
- One introduction on how to use the soft mutation with adjectives and adverbs
- Three activities to practise using the soft mutation with adjectives and adverbs
Y treiglad meddal
Mae treiglo yn elfen bwysig iawn os wyt ti am siarad ac ysgrifennu鈥檔 gywir yn Gymraeg.
Y treiglad mwyaf cyffredin yn Gymraeg yw鈥檙 treiglad meddal.
Mae nifer fawr o reolau ar gyfer pryd i ddefnyddio鈥檙 treiglad meddal, ond bydd y wers hon yn canolbwyntio ar y rheolau sy鈥檔 ymwneud ag ansoddeiriau ac adferfau yn unig.
Dyma dabl o鈥檙 llythrennau sy鈥檔 treiglo feddal a鈥檙 newid sy鈥檔 cymryd lle.
Llythyren | Ansoddair/Adferf | Ansoddair/Adferf wedi ei dreiglo'n feddal | |
---|---|---|---|
p > b | pwysig | bwysig | |
t > d | trwm | drwm | |
c > g | cyflym | gyflym | |
b > f | budr/brwnt | fudr/frwnt | |
d > dd | diddorol | ddiddorol | |
g > - | gweddol | weddol | |
ll > l | llithrig | lithrig (ond ddim ar 么l 'yn') | |
m > f | mewnol | fewnol | |
rh > r | rhyfeddol | ryfeddol (ond ddim ar 么l 'yn') |
Cofia mai:
- gair sy鈥檔 disgrifio enw yw ansoddair
- gair sy'n disgrifio berf yw adferf
Wrth ddefnyddio ansoddeiriau ac adferfau, mae rheolau penodol dylet ti eu dilyn.
1. Ar 么l rhai arddodiaid
Rhaid treiglo ansoddeiriau sy鈥檔 dechrau gyda c, p, t, g, b, d, ll, m, rh ar 么l yr arddodiaid hyn:
am, ar, at
dan, dros, drwy
wrth, gan, hyd
heb, i, o
- bendigedig > am fendigedig!
- rhad > ofnadwy o rad
- gwahanol > Anfonwyd y gwahoddiadau i wahanol bobl.
I ddysgu rhagor am yr arddodiaid a鈥檙 treiglad meddal, cer i鈥檙 wers ar Arddodiaid.
2. Ansoddeiriau, ansoddeiriau cymharol ac adferfau yn dilyn yr 鈥榶n鈥 traethiadol
Swyddogaeth yr 鈥榶n鈥 traethiadol yw cyflwyno beth yw rhywbeth. Mae'r 'yn' traethiadol yn gallu cyflwyno ansoddair neu adferf. Rhaid defnyddio'r treiglad meddal ar 么l yr 'yn' traethiadol.
Ansoddeiriau: enghreifftiau
Yn Gymraeg, rhaid defnyddio鈥檙 鈥榶n鈥 traethiadol i gyflwyno ansoddair os nad yw鈥檔 dilyn enw.
- coch > yn goch
- bendigedig > yn fendigedig
- parhaol > yn barhaol
- tal > yn dal
- tal > yn dalach na(g)鈥
- creulon > yn greulon
- creulon > yn fwy creulon na(g)鈥
Ond cofia, does dim rhaid defnyddio鈥檙 treiglad meddal ar gyfer 鈥榣l鈥 a 鈥榬h鈥 pan maent yn dilyn yr 鈥榶n鈥 traethiadol:
- llym > mae'r athro yn llym
- rhad > mae'r llyfr yn rhad
Adferfau: enghreifftiau
Mae adferfau yn disgrifio berfau ac yn cynnig mwy o wybodaeth am y weithred. Mae'r 'yn' traethiadol yn cyflwyno adferf.
Cofia fod angen treiglad meddal ar 么l yr 'yn' traethiadol:
- cyflym > rhedeg yn gyflym
- tawel > siarad yn dawel
- parhaus > cwyno yn barhaus
- trwm > cysgu yn drwm
Does dim rhaid defnyddio鈥檙 treiglad meddal ar gyfer adferfau sy鈥檔 dechrau gydag 鈥榣l鈥 a 鈥榬h鈥 pan maent yn dilyn yr 鈥榶n鈥 traethiadol:
- llyfn > nofio yn llyfn
- rheolaidd > darllen yn rheolaidd
3. Ansoddeiriau sy鈥檔 dilyn 鈥榞weddol鈥, 鈥榣led鈥, 鈥榬hy鈥
- cryf > yn weddol gryf
- tenau > yn rhy denau
- byr > yn lled fyr
- caled > yn rhy galed
4. Ar 么l 鈥榤or / cyn鈥 wrth gymharu ansoddeiriau neu ddefnyddio ansoddeiriau cyfartal
- tywyll > mor dywyll / cyn dywylled 芒/ag鈥
- poeth > mor boeth / cyn boethed 芒/ag
- tal > cyn daled 芒/ag鈥
- creulon > mor greulon 芒/ag
5. Mae angen treiglad meddal ar gyfer ansoddeiriau sy鈥檔 dilyn enw benywaidd unigol
Mae ansoddeiriau yn disgrifio enwau, ac weithiau mae modd defnyddio ansoddair yn syth ar 么l enw, ee cath dda.
- merch + tal > merch dal
- gardd + mawr > gardd fawr
- cath + bach > cath fach
- ffrog + coch > ffrog goch
6. Ansoddair yn y radd eithaf pan wyt ti鈥檔 cyfeirio at enw benywaidd
- tal > y dalaf (er enghraifft, cyfeirio at y ferch fwyaf tal)
- gorau > yr orau (er enghraifft, cyfeirio at y gath orau)
Gweithgaredd 1 / Activity 1
Llenwa'r bylchau canlynol gyda鈥檙 ansoddair wedi鈥檌 dreiglo鈥檔 feddal.
- Roedd y dyn yn _______. (cryf)
- Nid oedd Dafydd yn _______ iawn am golli鈥檙 bws. (trist)
- Mae Mari鈥檔 _______ heddiw am iddi fynd i鈥檙 gwely鈥檔 hwyr neithiwr. (cysglyd)
- Dydw i ddim yn hoffi afalau 鈥 maen nhw鈥檔 _______. (ofnadwy)
- Roedd yr athrawes yn hoffi ei hystafell yn _______ (taclus) ac yn _______. (trefnus)
- Mae鈥檙 llyfr hwn yn cynnwys gwybodaeth sy鈥檔 _______ i mi. (diddorol)
- Hoffwn i fod yn _______ (tal) fel Dad.
- Roedd Myrddin y dewin yn _______ (medrus) tu hwnt.
Gweithgaredd 2 / Activity 2
Noda鈥檙 enwau benywaidd unigol sydd yn y rhestr isod.
- merch bert
- llyfr glas
- basged binc
- coes flewog
- blodyn tal
- drws mawr
- hosan gynnes
Pa reol sy'n dy helpu di i adnabod enw benywaidd unigol o鈥檙 rhestr?
Gweithgaredd 3 / Activity 3
Llenwa鈥檙 bylchau isod gyda鈥檙 adferfau coll. Mae'r opsiynau wedi eu rhestu isod.
- Roedd Mair fel arfer yn rhedeg yn ________.
- Cysgais yn ________ neithiwr!
- Rwyt ti鈥檔 gweithio鈥檔 ________ ar gyfer dy arholiadau.
- Edrychais ar y llun yn ________ er mwyn gweld y maylion arbennig.
- Siaradodd Sam yn ________ pan gerddodd i mewn i'r llyfrgell.
Opsiynau
- tawel
- caled
- cyflym
- trwm
- manwl
Hafan 大象传媒 Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti
Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn
TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11