Cynnwys y wers hon
- Un cyflwyniad i sut i ddefnyddio'r treiglad meddal gydag enwau
- Tri gweithgaredd i ymarfer y treiglad meddal gydag enwau
Lesson content
- One introduction on how to use the soft mutation with nouns
- Three activities to practise using the soft mutation with nouns
Y treiglad meddal
Mae treiglo yn elfen bwysig iawn os wyt ti am siarad ac ysgrifennu鈥檔 gywir yn Gymraeg.
Y treiglad mwyaf cyffredin yn Gymraeg yw鈥檙 treiglad meddal.
Mae nifer fawr o reolau ar gyfer pryd i ddefnyddio鈥檙 treiglad meddal, ond bydd y wers hon yn canolbwyntio ar y rheolau sy鈥檔 ymwneud ag enwau yn unig.
Dyma dabl o鈥檙 llythrennau sy鈥檔 treiglo feddal a鈥檙 newid sy鈥檔 cymryd lle.
Llythyren | Enghraifft o enw | Enw wedi ei dreiglo | |
---|---|---|---|
p > b | pen | ben | |
t > d | trwyn | drwyn | |
c > g | ceg | geg | |
b > f | bawd | fawd | |
d > dd | dafad | ddafad | |
g > - | 驳飞锚苍 | 飞锚苍 | |
ll > l | llaw | law | |
m > f | mam | fam | |
rh > r | rhaw | raw |
Wrth ddefnyddio enwau yn Gymraeg, rhaid bod yn ymwybodol o ble i dreiglo鈥檔 feddal. Dyma鈥檙 rheolau dylet ti eu dilyn.
1. Enw benywaidd unigol ar 么l y, yr, 鈥榬
- merch > y ferch
- p锚l > y b锚l
Does dim rhaid i ti dreiglo 'll' ac 'rh' yn yr achos hwn:
- llaw > y llaw
- rhaw > y rhaw
2. Enwau benywaidd unigol ar 么l 鈥榰n鈥
- cath > un gath
- basged > un fasged
3. Enwau benywaidd unigol ar 么l 鈥榙wy鈥
- cadair > dwy gadair
- merch > dwy ferch
4. Enwau gwrywaidd unigol ar 么l 鈥榙au鈥
- gwely > dau wely
- ci > dau gi
5. Enwau gwrywaidd a benywaidd ar 么l 鈥榓il鈥
- 迟欧 > yr ail d欧
- bachgen > yr ail fachgen
- merch > yr ail ferch
- desg > yr ail ddesg
6. Pan fydd rhifolion yn cyfeirio at enw benywaidd, bydd y rhif a鈥檙 enw yn treiglo鈥檔 feddal:
- merch > y bumed ferch
- c芒n > y ddegfed g芒n
- blwyddyn > y nawfed flwyddyn
- gwobr > y drydedd wobr
7. Ar gyfer enwau sy鈥檔 dilyn yr 鈥榶n鈥 traethiadol
Swyddogaeth yr 鈥榶n鈥 traethiadol yw dweud beth yw rhywbeth. Yn Gymraeg, rhaid defnyddio鈥檙 鈥榶n鈥 traethiadol i gyflwyno enw mewn rhai achosion.
- meddyg > mae鈥檙 ferch yn feddyg
- dawns > mae hon yn ddawns anodd iawn
Does dim angen treiglad meddal ar gyfer 鈥榣l鈥 ac 鈥榬h鈥 yn yr achos hwn:
- llwyd > mae鈥檙 siwmper yn llwyd
- lle > mae Penarth yn lle hyfryd
- rhad > mae鈥檙 bwyd yn rhad
Cofia fod yr 鈥榶n鈥 traethiadol yn wahanol i鈥檙 鈥榶n鈥 arall sydd yn golygu 鈥榦 fewn鈥.
8. Ar gyfer enwau sy鈥檔 dilyn yr ansoddeiriau 鈥榟en鈥, 鈥榟off鈥, 'cas' a 鈥榞wahanol鈥
- 迟欧 > hen d欧
- castell > hen gastell
- llaw > hen law
- bwyd > hoff fwyd
- llyfr > hoff lyfr
- peth > cas beth
- rhaglen > cas raglen
- pobl > gwahanol bobl
- llefydd > gwahanol lefydd
9. Ar 么l rhai arddodiaid
Rhaid treiglo unrhyw air, gan gynnwys enwau, ar 么l yr arddodiaid hyn:
am, ar, at
dan, dros, drwy
wrth, gan, hyd
heb, i, o
- bwyd > heb fwyd
- Caernarfon > i Gaernarfon
- Bangor > o Fangor
- llyfr > Mae ganddi lyfr.
- pres > Mae arnyn nhw bres.
I ddysgu rhagor am yr arddodiaid a鈥檙 treiglad meddal, cer i鈥檙 wers ar Arddodiaid.
10. Enwau gwrywaidd neu fenywaidd (unigol neu'n lluosog) ar 么l 鈥榙yma鈥, 鈥榙yna鈥, 鈥榙acw鈥
blodyn - dyma flodyn!
blodau - dyma flodau hardd!
cadair - dyma gadair!
cadeiriau - dyma gadeiriau cyfforddus!
desg - dyna ddesg Rhian!
dyn - dyna ddyn tal!
pechod - dyna bechod!
trueni - dyna drueni!
mam - dacw fam Ryan yn dod oddi ar y tr锚n!
tad - dacw dad Carys yn croesi'r ffordd!
11. Enw sy鈥檔 dilyn 鈥榥a neu 鈥榶na鈥
Mae'r ffurf hon yn cael ei defnyddio gan amlaf ar lafar neu ar gyfer iaith fwy anffurfiol.
- ci > Mae 鈥榥a gi wrth y drws.
- pryf > Mae 鈥榥a bry' yn fy nghawl i!
- bwyd > Mae 鈥榥a fwyd yn y frij.
12. Ansoddair yn y radd eithaf pan wyt ti鈥檔 cyfeirio at enw benywaidd
- tal > y dalaf (er enghraifft, cyfeirio at y person neu鈥檙 peth benywaidd mwyaf tal)
- gorau > yr orau (er enghraifft, cyfeirio at y person neu鈥檙 peth benywaidd gorau)
Gweithgaredd 1 / Activity 1
Cywira鈥檙 brawddegau isod yn 么l yr angen. Nid pob brawddeg sydd angen ei chywiro.
Cofia fod enw benywaidd unigol yn treiglo鈥檔 feddal ar 么l y, yr, 鈥榬. Nid yw enw gwrywaidd unigol yn treiglo鈥檔 feddal ar 么l y, yr, 鈥榬.
- Roedd pawb yn siarad am y cerdd brydferth.
- Rydw i eisiau鈥檙 cyfrifiadur du, nid yr un pinc!
- Harri yw enw鈥檙 pysgodyn glas.
- Mae 鈥榥a band roc newydd yn ffurfio o鈥檙 enw 鈥榊 Tafod Pinc鈥.
- Nid yw鈥檙 rhaff hon yn cael ei defnyddio ar gyfer dringo.
- Mae鈥檙 raglen ddiddorol hon yn boblogaidd iawn.
- Hoffwn newid o鈥檙 ffrog hyll yma.
- Eisteddais i ar y cadair gyfforddus.
Gweithgaredd 2 / Activity 2
Rho 鈥榟off鈥 o flaen yr enwau canlynol:
- cadair
- bag
- car
- person
- 迟欧
Rho 鈥榟en鈥 o flaen yr enwau canlynol:
- llun
- ci
- cath
- dyn
- maneg
- testun
Gweithgaredd 3 / Activity 3
Ffurfia frawddeg yr un ar gyfer yr enwau benywaidd canlynol. Defnyddia rifolion yn dy frawddegau.
- 2il + cadair
- 3ydd + bisged
- 4ydd + banana
- 5ed + cath
- 10fed + barf
Hafan 大象传媒 Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti
Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn
TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11