大象传媒

Dysgu Gartref

Ffocws dysgu

Dysga sut i ystyried safbwyntiau awduron gwahanol ar yr un pwnc.

Mae'r wers hon yn cynnwys:

  • tri gweithgaredd

Learning focus

Learn how to compare the viewpoint of different writers on the same topic.

This lesson includes:

  • *three activities *

For an English version of this lesson, scroll below.

Cynllunio adroddiad

Mae cynllunio adroddiad yn bwysig.

Mae'n rhaid cael trefn bendant iddo, rhywbeth yn debyg i si芒p triongl.

Edrycha ar yr enghraifft hon:

  • Beth?
  • Ble?
  • Pryd?
  • Pam?
  • Sut?

Dylai'r adroddiad ddatblygu mewn trefn arbennig a gelli di grynhoi'r stori neu'r digwyddiad erbyn y diwedd.

Llinell / Line

Gweithgaredd 1

Cynllunia adroddiad gan ddilyn y patrwm yn y pyramid.

Dyma'r pwnc dan sylw:

Cartref y cae chwarae - y dref neu'r pentref?

Mae'r pwyntiau bwled wedi cael eu gwneud yn barod i ti:

  • Beth? Protest gan bobl a phlant yr ardal.
  • Ble? O flaen swyddfa Cyngor y Sir.
  • Pryd? Am bedwar o鈥檙 gloch brynhawn Gwener.
  • Pam? Mae aelodau鈥檙 cyngor eisiau rhoi caniat芒d i gwmni mawr i adeiladu archfarchnad enfawr ar y safle.
  • Sut? Pobl a phlant yn protestio gan ddefnyddio placardiau i gefnogi eu hachos.
Llinell / Line

Paragraffau byr

Mae'n bwysig fod gohebwyr yn ysgrifennu brawddegau a pharagraffau byr. Dyma enghraifft o un paragraff byr am y brotest i achub y cae chwaraeon. Sylwa mor fyr yw'r brawddegau er mwyn i'r adroddiad fod yn glir ac yn hawdd i'w ddeall.

Ar ddydd Gwener bu protest fawr yn erbyn cynlluniau i adeiladu archfarchnad yng nghanol y dref. Daeth cannoedd o bobl leol at ei gilydd i achub y cae chwarae.

Llinell / Line

Dwy ochr y geiniog

Mae pobl yn dueddol o weld digwyddiadau o un safbwynt yn unig, felly mae'n bwysig bod y gohebwyr yn edrych ar ddwy ochr y geiniog, sef dwy ochr y stori. Mae'n bwysig cael barn wahanol bobl bob tro.

Dyma sylwadau rhai Cymry am y penderfyniad i ailenwi Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

  • 鈥淢ae鈥檔 bwysig cael enw dwyieithog os mai dyna oedd 70% o鈥檙 bobl wedi gofyn amdano yn yr holiadur.鈥

  • 鈥淒oes dim angen enw dwyieithog. Os chi鈥檔 gofyn i dacsi i fynd 芒 chi i鈥檙 Senedd, mae pob un yn gwybod ble mae鈥檙 Senedd.鈥

  • 鈥淥s nad ydyn ni wedi rhoi enw Saesneg ar Eisteddfod, pam bod angen enw Saesneg ar Senedd. Mae Cymry di-Gymraeg yn deall ac yn gallu dweud y geiriau yma.鈥

  • 鈥淢ae enw dwyieithog yn bwysig fel bod pawb yn deall mai ystyr Senedd yw Parliament.鈥

  • 鈥淩ydyn ni鈥檔 byw mewn gwlad ddwyieithog, felly mae angen enw dwyieithog.鈥

Dydy gohebydd ddim i fod i fynegi ei farn ei hun - mae e neu hi i fod yn hollol ddiduedd, hynny yw, i beidio ochri gydag unrhyw un mewn dadl.

Dyma enghraifft o safbwynt gohebydd ar y pwnc uchod:

"Pa bynnag enw defnyddiwn, does dim gwadu bod Senedd Cymru wedi datblygu llawer ers ei sefydliad yn 1999. Bydd hi鈥檔 ddiddorol gweld y newidiadau a ddaw yn y dyfodol.鈥

Llinell / Line

Gweithgaredd 2

Edrycha ar-lein am stori newyddion. Darllena鈥檙 sylwadau mae pobl wedi eu hysgrifennu ar waelod y stori. Ydyn nhw鈥檔 ddiduedd?Oes rhywun yn y t欧 芒 barn wahanol i ti am stori?

Llinell / Line

Llygad-dystion

Dydy gohebwyr ddim yn gallu bod ym mhob man ar yr un pryd! Dyna pam ei bod yn bwysig cyfweld llygad-dystion, sef pobl sydd wedi gweld rhywbeth yn digwydd.

Mae llygad-dystion yn aml wedi gweld y digwyddiad gyda'u llygaid nhw eu hunain. Hebddyn nhw, mae'n anodd iawn i'r gohebydd gael darlun teg o'r digwyddiad.

Mae'n bwysig dyfynu'n union beth mae'r llygad-dystion yn ei ddweud gan ddefnyddio dyfynodau (鈥溾︹) yn gywir.

Dyma enghraifft:

"Rwy'n byw yma ers 25 o flynyddoedd a dydw i ddim wedi gweld llifogydd fel hyn o'r blaen," meddai Dan Davies, sydd yn byw yng nghanol y pentref. Mae nifer o ffyrdd wedi eu heffeithio gan lifogydd dros nos.

Dywedodd Mrs James, sy'n byw ar y stryd fawr, "Mae'r sefyllfa yn dor-calonnus. Mae'r gegin newydd sbon wedi ei difetha'n llwyr!"

Trwy ddyfynu beth mae llygad-dystion yn ei ddweud, mae hyn yn gwneud y stori'n fwy credadwy i'r darllenydd.

Llinell / Line

Mae gohebwyr yn gallu defnyddio beth mae llygad-dystion yn ei ddweud er mwyn dangos dwy ochr i'r digwyddiad. Mae hyn yn bwysig gan nad yw pawb yn cytuno am beth yn union ddigwyddodd bob tro.

Dychmyga ffordd newydd yn cael ei hadeiladu drwy dref wledig. Mae'n si诺r y byddai rhai o blaid ac eraill yn erbyn!

Dyma enghraifft o ddau safbwynt gwahanol:

"Dan ni am gael y ffordd newydd 'ma! Mae busnese bychan yn cau lawr gan nad ydy loriau mawr yn gallu mynd trwy'r dre' 'ma," meddai Mr Hughes.

Ymateb y cynghorydd oedd na ddylai'r ffordd yma gael ei hadeiladu o gwbl. Dywedodd, "Mae pawb yn gandryll yn y dref! Mi rydan ni'n gwrthwynebu'n chwyrn ac yn ei gweld yn wastraff arian cyhoeddus. 'NA i'r ffordd newydd!' - dyna'n slogan ni."

Llinell / Line

Lluniau

Mae defnyddio lluniau yn ddefnyddiol. Does dim rhaid eu defnyddio bob tro ond mae'n sicr yn gallu ychwanegu at y darlun mae'r gohebydd yn ceisio'i gyfleu.

Dyma enghraifft o lun gafodd ei ddefnyddio yn yr erthygl 'Gwahardd taclo mewn gemau rygbi ysgol?' ar wefan 大象传媒 Cymru Fyw.

Llinell / Line

Gweithgaredd 3

Chwilia am adroddiadau mewn papur newydd neu ar-lein.

Ydy'r lluniau yn ychwanegu at y darlun mae'r gohebydd yn ceisio'i gyfleu?

Planning a report

It's important to plan a report.

It must have a specific order, similar to a triangle shape.

Look at this example:

  • Beth? (What?)
  • Ble? (Where?)
  • Pryd? (When?)
  • Pam? (Why?)
  • Sut? (How?)

The report should develop in a particular order, and you could summarise the story or the event by the end.

Llinell / Line

Activity 1

Plan a report by following the pattern in the pyramid.

Cartref y cae chwarae - y dref neu'r pentref?

(The home of the playing field - town or village?)

The bullet points have already been done for you:

  • Beth? Protest gan bobl a phlant yr ardal.
  • Ble? O flaen swyddfa Cyngor y Sir.
  • Pryd? Am bedwar o鈥檙 gloch brynhawn Gwener,
  • Pam? Mae aelodau鈥檙 cyngor eisiau rhoi caniat芒d i gwmni mawr i adeiladu archfarchnad enfawr ar y safle.
  • Sut? Pobl a phlant yn protestio gan ddefnyddio placardiau i gefnogi eu hachos.

Here's a translation of the bullet points:

  • What? A protest by the people and children of the area.
  • Where? In front of the County Council office.
  • When? At four o'clock on Friday afternoon.
  • Why? Council members want to give permission to a large company to build a huge supermarket on the site.
  • How? People and children protesting using placards to back their cause.
Llinell / Line

Short paragraphs

It's important that reporters write short sentences and paragraphs. Here鈥檚 an example of a short paragraph about the protest to save a sports field. Notice how short the sentences are. This is to ensure the report is clear and easy to understand.

Ar ddydd Gwener bu protest fawr yn erbyn cynlluniau i adeiladu archfarchnad yng nghanol y dref. Daeth cannoedd o bobl leol at ei gilydd i achub y cae chwarae.

(On Friday there was a large protest against the plans to build a supermarket in the town centre. Hundreds of people gathered to save the playing field.)

Llinell / Line

Two sides of the coin

People tend to see events from one perspective only, so it's important that reporters look at both sides of the coin, or both sides of the story in this case. It's important to always include different opinions.

Here are the comments of some Welsh people regarding the decision to rename the National Assembly of Wales:

  • 鈥淢ae鈥檔 bwysig cael enw dwyieithog os mai dyna oedd 70% o鈥檙 bobl wedi gofyn amdano yn yr holiadur.鈥

(鈥淚t鈥檚 important to have a bilingual name if that鈥檚 what 70% of people have asked for in the questionnaire.鈥)

  • 鈥淒oes dim angen enw dwyieithog. Os chi鈥檔 gofyn i dacsi i fynd 芒 chi i鈥檙 Senedd, mae pob un yn gwybod ble mae鈥檙 Senedd.鈥

(鈥淚t doesn鈥檛 need a bilingual name. If you ask a taxi to take you to the Senedd, everyone knows where the Senedd 颈蝉.鈥)

  • 鈥淥s nad ydyn ni wedi rhoi enw Saesneg ar Eisteddfod, pam bod angen enw Saesneg ar Senedd. Mae Cymry di-Gymraeg yn deall ac yn gallu dweud y geiriau yma.鈥

(鈥淚f we haven鈥檛 given the Eisteddfod an English name, why does the Senedd need an English name? Non-Welsh speakers can say and understand these words.鈥)

  • 鈥淢ae enw dwyieithog yn bwysig fel bod pawb yn deall mai ystyr Senedd yw Parliament.鈥

(鈥淚t鈥檚 important to have a bilingual name so that everyone understands that Senedd means Parliament.鈥)

  • 鈥淩ydyn ni鈥檔 byw mewn gwlad ddwyieithog, felly mae angen enw dwyieithog.鈥

(鈥淲e live in a bilingual country so we need a bilingual name.鈥)

The reporter isn鈥檛 supposed to express their own opinion 鈥 they must be completely unbiased, which means they shouldn鈥檛 side with anyone in a debate. Here is an example of a reporter's view on this subject:

"Pa bynnag enw defnyddiwn, does dim gwadu bod Senedd Cymru wedi datblygu llawer ers ei sefydliad yn 1999. Bydd hi鈥檔 ddiddorol gweld y newidiadau a ddaw yn y dyfodol.鈥

(鈥淲hichever name we use, there is no doubt that the National Assembly of Wales has developed a lot since it was established in 1999. It will be interesting to see what changes lie ahead in the future.鈥)

Llinell / Line

Activity 2

Search online for a news story. Read the comments made by readers at the bottom of the story. Are they unbiased? Does someone in the house have a different opinion to you about a story?

Llinell / Line

Eye-witnesses

Reporters can鈥檛 be everywhere at once! This is why it's important to interview eye-witnesses 鈥 people who have seen something happen.

Eye-witnesses have often seen the event with their own eyes. Without them, it's very difficult for the reporter to establish a fair account of the event.

It鈥檚 important to quote exactly what the eye-witnesses say, making correct use of speech marks (鈥溾︹), which are called dyfynodau in Welsh.

Here鈥檚 an example:

"Rwy'n byw yma ers 25 o flynyddoedd a dydw i ddim wedi gweld llifogydd fel hyn o'r blaen," meddai Dan Davies, sydd yn byw yng nghanol y pentref. Mae nifer o ffyrdd wedi eu heffeithio gan lifogydd dros nos.

Dywedodd Mrs James, sy'n byw ar y stryd fawr, "Mae'r sefyllfa yn dor-calonnus. Mae'r gegin newydd sbon wedi ei difetha'n llwyr!"

(鈥淚鈥檝e lived here for 25 years and I鈥檝e never seen floods like these before,鈥 said Dan Davies, who lives in the village centre. Many roads have been affected by the floods overnight.)

(Mrs James, who lives on the high street, said, 鈥淭he situation is heart-breaking. The brand new kitchen has been completely ruined!鈥)

Quoting eye-witnesses makes the story more credible for the reader.

Llinell / Line

Reporters can use what eye-witnesses say to show two sides to the event. This is important because not everyone always agrees on exactly what happened.

Imagine a new road was being built through a rural town. It鈥檚 likely that some would be for and some would be against it!

Here are two examples of different views:

"Dan ni am gael y ffordd newydd 'ma! Mae busnese bychan yn cau lawr gan nad ydy loriau mawr yn gallu mynd trwy'r dre' 'ma," meddai Mr Hughes.

(鈥淲e want this new road! Small businesses are closing down because large lorries can鈥檛 travel through this town,鈥 said Mr Hughes.)

Ymateb y cynghorydd oedd na ddylai'r ffordd yma gael ei hadeiladu o gwbl. Dywedodd, "Mae pawb yn gandryll yn y dref! Mi rydan ni'n gwrthwynebu'n chwyrn ac yn ei gweld yn wastraff arian cyhoeddus. 'NA i'r ffordd newydd!' - dyna'n slogan ni."

(The councillor鈥檚 response that the road shouldn't be built at all. He said, 鈥淓veryone in the town is fuming! We strongly oppose this and consider it a waste of public money. 鈥楴ew road? NO THANKS!鈥 鈥 that鈥檚 our slogan.鈥)

Llinell / Line

Images

It鈥檚 useful to use images. You don't need to use them every time, but they can certainly add to the picture the reporter is trying to portray.

Here鈥檚 an example used in the article 'Gwahardd taclo mewn gemau rygbi ysgol?' (Should tackling be banned in school rugby matches?) on the 大象传媒 Cymru Fyw website.

Llinell / Line

Activity 3

Search for articles in a newspaper or online.

Do the images enhance the story the reporter is trying to convey?

Hafan 大象传媒 Bitesize

Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Hafan 大象传媒 Bitesize

Cynnwys y tymor hwn

Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

Cynnwys y tymor hwn

TGAU

Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11

TGAU