Cynnwys y wers hon
- Gwybodaeth ar strwythur ac arddull cyflwyniad llafar
- Un gweithgaredd yn ymarfer berfau gorchmynnol
- Un fideo ar Cranogwen, sydd yn sail i weithgaredd
- Un gweithgaredd i ymarfer creu cyflwyniad
Lesson content
- An introduction to the style and structure of an oral presentation
- One activity on imperative verbal forms
- One video on Cranogwen, which will form the basis of an activity
- One activity to practise formatting a presentation
Rhoi cyflwyniad
Mae鈥檙 gallu i gyflwyno syniad i dy gyd-ddisgyblion yn sgil bwysig.
Dyma drefn syml i ti ei dilyn i greu cyflwyniad:
agoriad cadarn 鈥 dyma'r ffordd i ddenu sylw鈥檙 gynulleidfa o鈥檙 eiliad gyntaf
prif gorff y cyflwyniad 鈥 rhaid cynnwys gwybodaeth a ffeithiau diddorol yn y darn hwn, felly cofia ymchwilio鈥檔 iawn i鈥檙 testun
casgliad i gloi 鈥 ceisia grynhoi beth rwyt ti wedi ei ddweud ym mhrif gorff dy gyflwyniad mewn paragraff byr ar y diwedd
Mae rhagor o wybodaeth ar sut i fynd ati yn y wers Cyflwyniad llafar.
Arddull cyflwyniad
Bydd angen i ti gofio cyfeirio at y gynulleidfa fel 鈥榗hi鈥, ee:
- oeddech chi鈥檔 gwybod?..
- meddyliwch am hyn鈥.
- a ydych chi鈥檔 teimlo bod鈥.
- fe glywoch fod鈥.
Y rheswm am hyn yw:
- mae mwy nag un person yn rhan o gynulleidfa, felly mae angen defnyddio ffurf luosog y ferf
- fyddi di ddim o angenrheidrwydd yn adnabod pawb yn y gynulleidfa, felly mae angen defnyddio iaith ffurfiol gyda phobl nad wyt yn eu hadnabod
Ffurfiau berfol 'ti' a 'chi'
Ti (ffurf anffurfiol)
I greu berfau gyda'r ffurf anffurfiol/unigol, rhaid i ti ychwanegu -a at f么n y ferf:
- cerdded: cerdd____+ a > cerdda
- penderfynu: penderfyn____ + a > penderfyna
- cysgu: cysg____ + a > cysga
Os yw berfau鈥檔 gorffen 芒 -io, mae angen cadw鈥檙 i ar gyfer b么n y ferf:
- ceisio: ceisi____+ a > ceisia
- gweithio: gweithi____ + a > gweithia
Weithiau bydd angen ychwanegu -a at ddiwedd berfenw:
- siarad: siarad____ + a > siarada
- eistedd: eistedd____ + a > eistedda
Chi (ffurf ffurfiol/lluosog)
I greu berfau gyda'r ffurf ffurfiol/lluosog, rhaid ychwanegu -wch at f么n y ferf:
- cerdded: cerdd____+ wch > cerddwch
- penderfynu: penderfyn____ + wch > penderfynwch
- cysgu: cysg____ + wch > cysgwch
Os yw berfau鈥檔 gorffen 芒 -io, mae angen cadw鈥檙 i ar gyfer b么n y ferf:
- ceisio: ceisi____+ wch > ceisiwch
- gweithio: gweithi____ + wch > gweithiwch
Weithiau bydd angen ychwanegu -wch at ddiwedd berfenw:
- siarad: siarad____ + wch > siaradwch
- eistedd: eistedd____ + wch > eisteddwch
Wrth roi cyflwyniad, mae beth sydd gen ti i鈥檞 ddweud yn bwysig wrth gwrs, ond cofia hefyd fod angen:
- siarad yn glir ac yn eglur - bydd angen i'r gynulleidfa glywed a deall pob gair
- sefyll yn gadarn ac yn syth fel bod y gynulleidfa yn cymryd sylw ohonot
- bob hyn a hyn, cerdda yn 么l ac ymlaen ar y llwyfan er mwyn sicrhau bod pawb yn medru dy weld a dy glywed
- dal llygad aelodau o'r gynulleidfa, yn enwedig os wyt ti am bwysleisio ffaith arbennig neu holi cwestiwn sy'n mynd i brocio'r cydwybod
- mwynhau鈥檙 profiad!
Gweithgaredd 1 / Activity 1
Defnyddia鈥檙 rheolau uchod i dy helpu i lenwi鈥檙 tabl.
Berfenw | Ffurf 'chi' (ffurfiol/lluosog) | Ffurf 'ti' (anffurfiol/unigol) | |
---|---|---|---|
Teimlo | |||
Penderfynu | |||
Edrych | |||
Ystyried | |||
Meddwl | |||
Gwrando | |||
Gwylio |
Fideo / Video
Gwylia鈥檙 fideo yma am hanes Cranogwen, sef un o fenywod amlycaf Cymru yn y 19eg a'r 20fed ganrif.
Gweithgaredd 2 / Activity 2
Dychmyga dy fod wedi cael dy wahodd i wneud cyflwyniad ar Cranogwen o flaen criw o dy gyd-ddisgyblion. Mae disgwyl i ti s么n am ei bywyd a鈥檌 doniau.
Ysgrifenna dy gyflwyniad ohoni ar sail y wybodaeth yn y ffilm gan gofio bod angen:
- agoriad bachog
- cyflwyniad sy鈥檔 llawn gwybodaeth a ffeithiau
- diweddglo cadarn sy鈥檔 crynhoi
- cyfeirio at y darllenydd fel 鈥榗hi鈥
Her: Cer ati i greu cyflwyniad pwerbwynt i gyd-fynd gyda dy gyflwyniad a rho gynnig ar gyflwyno鈥檙 testun o flaen teulu a ffrindiau.
Nodiadau ar gyfer rhieni
Ar 么l gorffen y wers, bydd disgyblion yn:
- deall sut i strwythuro cyflwyniad syml
- medru ysgrifennu cyflwyniad yn seiliedig ar y wybodaeth sydd ar gael yn fideo Cranogwen
- ymwybodol o gynulleidfa ac yn medru cyfeirio ati鈥檔 briodol
Notes for parents
After completing the lesson, students will be able to:
- understand how to structure a simple presentation
- write a presentation based on the information given in the video of Cranogwen
- refer to their audience appropriately
Hafan 大象传媒 Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti
Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn
TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11