Cynnwys y wers hon
- Un cyflwyniad ar sut i ddisgrifio person neu gymeriad
- Tri gweithgaredd i ymarfer y sgiliau sydd eu hangen wrth ddisgrifio
Lesson content
- One introduction on how to describe a person or character
- Three activities to practise the skills needed when describing a person or character
Portread o berson
Beth yw portread?
Mewn portread mae angen i ti ddisgrifio person yn fanwl. Felly, mae angen i ti ystyried disgrifio'r pethau canlynol am berson:
- edrychiad
- personoliaeth
- hanes
- rhywbeth diddorol am y person, ee digwyddiadau o'u bywyd, neu eu gwaith
Mae angen i ti gynnwys nodweddion arddull amrywiol i wneud dy waith yn ddiddorol.
Iaith ac arddull portread
Mae angen i ti:
- ysgrifennu yn y trydydd person, ee Mae e鈥檔 fachgen drwg, Mae hi鈥檔 ferch fywiog a brwdfrydig
- treiglo鈥檔 feddal ar 么l 'ei' gwrywaidd, ee ei ben moel ef, ei goesau cadarn ef
- treiglo鈥檔 llaes ar 么l 'ei' benywaidd, ee ei chyhyrau mawrion hi, ei chefn crwm hi
- treiglo鈥檔 feddal ar 么l yr arddodiad 'gan' 鈥 mae ganddo wallt hir, mae ganddi drwyn smwt
Bydd nodweddion arddull fel y rhai hyn yn gwneud dy waith yn ddiddorol.
Ansoddeiriau
- Llygaid 鈥 disglair, drygionus, hapus, llwyd, cyfrwys
- Gwallt 鈥 anniben, tywyll, golau, syth, seimllyd
- Personoliaeth 鈥 amyneddgar, direidus, pryfoclyd, gweithgar, hapus, caredig
Cymariaethau
- Gwallt bl锚r fel gwrych.
- Corff esgyrnog fel sgerbwd.
- Llygaid fel dwy farblen sgleiniog.
Trosiadau
- Tas wair yn gorffwys ar ei ben.
- Mae鈥檔 gawr o ddyn.
- Draig o ddynes ydy hi.
Personoli
- Gwallt yn dawnsio yn y gwynt wrth iddo redeg drwy鈥檙 stryd.
Cofia roi trefn ar dy waith drwy ei strwythuro'n ofalus. Dyma strwythur gelli di ei ddilyn bob tro rwyt ti'n mynd ati i ddisgrifio person neu gymeriad:
- paragraff cychwynnol
- darlun nodweddiadol - hanesion diddorol, personoliaeth, arferion
- pryd a gwedd - llygaid, wyneb, gwallt, corff, dillad
- pam fod y person yma yn arbennig?
Gweithgaredd 1 / Activity 1
Newidia'r brawddegau isod o鈥檙 person cyntaf i鈥檙 trydydd person.
- Mae gen i wallt byr a syth.
- Rydw i鈥檔 swnllyd.
- Dydw i ddim yn ofni dangos fy nheimladau.
- Mae gen i deulu cefnogol.
- Does gen i ddim un blewyn ar fy mhen.
Gweithgaredd 2 / Activity 2
Darllena'r darn disgrifiadol hwn:
Roedd Gareth yn fachgen digon plaen. Roedd ganddo lygaid llwyd bychain ac roedd ei wallt byr tywyll yn daclus bob amser. Roedd yn mynd i eistedd ar yr un fainc yn y parc bob dydd i fwyta ei ginio gan anwybyddu pawb oedd o鈥檌 gwmpas. Doedd neb am geisio cynnal sgwrs ag ef. Er ei fod yn fachgen caredig roedd rhywbeth yn od amdano.
Nawr, darllena fersiwn o'r portread uchod, sydd wedi cael ei addasu rywfaint.
Heb os, bachgen digon plaen oedd Gareth. Roedd ganddo lygaid llwyd bychain fel botymau ar grys ac roedd ei wallt byr tywyll yn eistedd yn daclus ar ei ben. Yn ddi-ffael, roedd Gareth yn ymlwybro at yr un fainc i fwyta ei ginio yn ddyddiol. Anaml iawn y byddai Gareth yn cynnal sgwrs ag unrhyw un a doedd dim un o drigolion y parc yn meiddio siarad ag ef. Er gwaethaf ei bersonoliaeth garedig, roedd rhywbeth yn od am Gareth.
Pa un o'r portreadau uchod yw鈥檙 gorau yn dy farn di? Noda'r rhesymau pam bod un yn well na'r llall.
Gweithgaredd 3 / Activity 3
Ysgrifenna bortread o gymeriad o dy hoff lyfr neu o rywun enwog rwyt ti'n ei edmygu, gan ddefnyddio'r strwythur canlynol i dy helpu:
- darlun nodweddiadol - hanesion diddorol, personoliaeth, arferion
- pryd a gwedd - llygaid, wyneb, gwallt, corff, dillad
- pam fod y person yma yn arbennig?
Cofia hefyd ddefnyddio Ansoddeiriau a chymariaethau i atgyfnerthu dy ddarn disgrifiadol.
Hafan 大象传媒 Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti
Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn
TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11