Agoriad y cyflwyniad
Yn ogystal ag agor yn effeithiol, dyma bwyntiau eraill i ti eu hystyried wrth fynd ati i ddatblygu dy ddarn:
- defnyddio lluniau drwy dechnoleg gwybodaeth neu sioe sleidiau
- cofia beidio defnyddio gormod o luniau neu ni fydd y gynulleidfa'n gallu canolbwyntio ar yr hyn rwyt ti'n ei ddweud
- cyflymder 鈥 mae'n bwysig peidio 芒 siarad yn rhy gyflym
- siarad yn glir a dim mwmian
- iaith addas 鈥 heb fratiaith, rhegfeydd na geiriau Saesneg
- iaith greadigol 鈥 ansoddeiriau da, cyffelybiaethau, trosiadau ayyb
- siarad gyda dy gynulleidfa, eu cyfarch ar y dechrau a diolch iddyn nhw am wrando ar ddiwedd y darn
- Amseru dy ddarn i sicrhau nad yw'n rhy hir neu'n rhy fyr.
- Cloi yn effeithiol er mwyn i'r gynulleidfa dy gofio di a dy ddarn.
- Ymarfer yn gyson o flaen ffrind neu aelod o dy deulu cyn gwneud y cyflwyniad.
Rhaid cofio mai tasg cyflwyno gwybodaeth yw hon ac nid mynegi barn (yn yr ail dasg y byddi di鈥檔 gwneud hynny) er bod disgwyl i ti ddadansoddi鈥檙 pwnc. Rhaid i ti ddewis y pwnc yn ofalus felly. Hefyd naturioldeb sy鈥檔 bwysig ac nid dysgu ar y cof na darllen.