大象传媒

Hapgyfeiliornadau

Camgymeriadau gan y sawl sy'n gwneud y mesur yw hapgyfeiliornadau, ac fel arfer maen nhw'n digwydd oherwydd amseru'n anghywir, neu ddarllen yr offeryn yn anghywir. Mae hi'n bwysig ceisio lleihau hapgyfeiliornadau, neu gyfyngu ar eu heffaith, wrth fesur.

Mae cyfeiliornadau amser ymateb a chyfeiliornadau yn enghreifftiau o hapgyfeiliornadau.

Mae darn o gerdyn wedi ei godi a'i osod ar ongl o 45 gradd i'r bwrdd. Ar ben uchaf y cerdyn mae cerbyd. Ar y gwaelod mae adwy golau wedi'i chysylltu 芒 gliniadur.
Figure caption,
Weithiau, gallwn ni leihau cyfeiliornad amser ymateb drwy ddefnyddio adwyon golau ac amseru electronig neu synwyryddion wedi'u cysylltu 芒 chyfrifiadur i gofnodi'r amser mae'n ei gymryd i wrthrychau fel casys cacenni papur ddisgyn neu i gerbyd symud i lawr llethr

Cyfeiliornad paralacs

Tri ph芒r o lygaid yn darllen mesuriad. Mae'r parau uwchben ac o dan lefel y llygaid wedi'u marcio 芒 chroes. Mae'r p芒r sydd ar lefel y llygaid wedi'i farcio'n gywir.

Mae cyfeiliornad paralacs yn digwydd os yw disgybl yn methu 芒 darllen y mesuriad ar lefel llygad. Mae'n gallu achosi i鈥檙 darlleniad fod yn rhy uchel neu'n rhy isel.

Cyfeiliornadau systematig (cyfeiliornadau sero)

Mae cyfeiliornadau sero yn cael eu hachosi gan gyfarpar diffygiol sydd ddim yn ailosod i sero yn iawn.

Cyn i ti ddechrau mesur, gwiria fod yr offer mesur yn rhoi darlleniad o sero ar gyfer mewnbwn o sero.

Byddai cyfeiliornad sero yn effeithio ar bob darlleniad rwyt ti'n ei gymryd. Byddai'r glorian ddigidol 0.02 g allan ohoni ar bob m脿s rwyt ti'n ei fesur a byddai'r mesurydd grym 1 N allan ohoni.