Y drafodaeth
Fel gr诺p, cewch gyfle i baratoi cyn sefyll yr arholiad ac mae鈥檔 bwysig eich bod yn manteisio ar y cyfle i fynegi eich barn ac i drafod eich gwaith ymchwil.
Rhaid i ti gymryd sylw o sylwadau aelodau鈥檙 gr诺p. Cymera nodiadau byrion wrth wrando er mwyn ysgogi dy gof pan mai dy dro di fydd hi i gyfrannu.
Dyma rai brawddegau i dy helpu:
- rwy鈥檔 cytuno gyda鈥檙 hyn soniaist ti amdano ond鈥
- hoffwn ychwanegu at dy bwyntiau鈥
- pan drafodaist am鈥 meddyliais鈥
- yn ychwanegol at dy sylwadau am鈥
Cofia, nid oes angen i chi gytuno gyda鈥檆h gilydd. Pwrpas y dasg yw i ddechrau trafodaeth am bwnc arbennig ac i glywed barn amrywiol. Yn yr achos hwn galli di ddefnyddio鈥檙 brawddegau isod:
- rwy鈥檔 deall dy safbwynt am鈥 ond rwy鈥檔 credu鈥
- anghytunaf gyda dy bwynt am鈥
- dydw i ddim yn cytuno gyda dy safbwynt am鈥 credaf i鈥
- pan ddywedaist鈥 tybed a wnest di ystyried鈥
Mae gwrando yr un mor bwysig 芒 siarad. Mae鈥檔 bwysig dy fod yn annog ac yn rhoi鈥檙 cyfle i eraill rannu eu syniadau.