大象传媒

Now playing video 17 of 20

Ymgyrch i Sefydlu S4C

Description

Dangosir yr ymgyrch i roi pwysau ar lywodraeth San Steffan i ddarparu sianel deledu Gymraeg i Gymru. Gwelir y protestiadau yn y 1970au a rhan Gwynfor Evans yn yr ymgyrch wrth iddo fygwth ymprydio ym 1980. Canlyniad yr ymgyrch hon oedd sefydlu S4C ym 1982.

Classroom Ideas

Gall y clip hwn fod yn sbardun i drafodaeth lafar ar werth S4C a barn y disgyblion am raglenni鈥檙 sianel. Pa mor aml y maent yn gwylio S4C a pha raglenni sy鈥檔 apelio atynt hwy? Gellir creu holiadur a chynnal arolwg am y sianel ymysg disgyblion a rhieni鈥檙 ysgol. Byddai鈥檔 bosib troi鈥檙 canlyniadau yn graffiau cyn eu dehongli a鈥檜 dadansoddi. Byddai modd defnyddio鈥檙 canlyniadau i greu adroddiad ysgrifenedig yn cyflwyno syniadau鈥檙 disgyblion am y math o sianel hoffen nhw ei weld. Gall y clip ysbrydoli gwaith creadigol ar destun 鈥榊 Brotest鈥 ar ffurf stori fer, drama, ymson neu ddyddiadur.