Bob dydd, rydyn ni鈥檔 wynebu dewisiadau ac yn gwneud penderfyniadau. Pethau fel pa fwyd i鈥檞 fwyta, beth i鈥檞 wisgo, beth i鈥檞 wneud, ble i fynd a gyda phwy i dreulio amser. Mae ein penderfyniadau yn effeithio ar ein bywydau ni. Maen nhw hefyd yn gallu effeithio ar bobl rydyn ni鈥檔 eu hadnabod a hyd yn oed pobl ar draws y byd.
Gwylio: Sut mae ein penderfyniadau yn effeithio arnon ni ac eraill?
Penderfyniadau sy鈥檔 effeithio ar bobl a chymdeithas鈥
Mae dinesyddPerson sy'n byw mewn lle ac yn cymryd rhan fel aelod o'r gymuned. da yn rhywun sy鈥檔 meddwl yn ofalus ac sy鈥檔 ceisio gwneud y penderfyniadau iawn.鈥疢aen nhw鈥檔 meddwl am effaith eu penderfyniadau a鈥檜 gweithredoedd, cyn eu gwneud.
Mae ein penderfyniadau yn gallu gwella bywydau pobl eraill.
Cymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol
Drwy helpu i wneud i bethau da ddigwydd yn y gymuned, gallwn ni wella bywydau pobl. Gallai hyn fod drwy wirfoddoli neu helpu pobl yn yr ardal leol.
Un enghraifft yw helpu i greu gardd gymunedol drwy blannu coed, blodau a llysiau mewn ardaloedd sy鈥檔 cael eu rhannu fel bod pawb yn gallu eu mwynhau.
Cefnogi elusennau
Mae dewis codi arian, rhoi eitemau neu wirfoddoli gydag elusenSefydliad sy'n helpu pobl eraill ac sy'n codi arian ar gyfer y rhai sydd mewn angen.yn gallu gwneud pethau'n well i bobl eraill.
Mae rhai elusennau鈥檔 helpu pobl yng Nghymru neu鈥檙 Deyrnas Unedig gyfan.
Mae codi arian at elusen fyd-eang, fel Oxfam, yn fath o weithredu cymdeithasol sy鈥檔 helpu pobl ar draws y byd.
Gwneud dewisiadau da am y pethau rydyn ni鈥檔 eu prynu neu鈥檔 eu defnyddio
Mae pobl yn gallu gwneud pethau'n well pan maen nhw鈥檔 gwneud penderfyniad am beth i鈥檞 brynu. Un enghraifft yw prynu cynnyrch masnach degCynlluniau sy鈥檔 gwneud yn si诺r bod y cynhyrchwyr yn cael eu talu鈥檔 deg am y nwyddau maen nhw yn eu cynhyrchu..
Mae鈥檙 bobl sy鈥檔 tyfu cynnyrch masnach deg fel coffi, ffa coco neu fananas yn cael pris teg am eu gwaith. Mae masnach deg hefyd yn helpu i wneud yn si诺r nad yw鈥檙 bobl sy鈥檔 cynhyrchu鈥檙 pethau rydyn ni鈥檔 eu prynu yn cael eu gorweithio nac yn byw mewn amodau gwael.
Mae llawer o鈥檙 bobl sy鈥檔 cynhyrchu eitemau masnach deg yn byw mewn gwledydd yn Affrica, Asia neu Dde America. Felly mae dewis defnyddio cynnyrch masnach deg yn helpu pobl ar draws y byd.
Weithiau mae ein penderfyniadau ni yn gallu gwneud niwed i bobl neu wneud eu bywydau鈥檔 waeth.
Sut rydyn ni鈥檔 ymddwyn
Mae鈥檙 ffordd rydyn ni鈥檔 dewis siarad 芒 phobl a thrin pobl yn gallu achosi llawer o boen. Mae galw enwau, peidio 芒 chynnwys pobl mewn pethau, neu fwlio yn gallu brifo teimladau a gwneud pobl yn drist.
Ymddygiad gwrthgymdeithasol
Mae hyn yn cynnwys gwneud gormod o s诺n, rhegi, gweiddi, ymddygiad bygythiol, neu ymladd.
Dyma un enghraifft o sut mae penderfyniadau a gweithredoedd pobl yn gallu achosi pryder neu niwed i bobl eraill.鈥疢ae rhai mathau o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cael eu hystyried yn troseddRhywbeth sydd yn erbyn y gyfraith, er enghraifft dwyn rhywbeth. , a galli di gael dy gosbi am wneud y pethau hyn.
Torri'r gyfraith
Mae troseddau fel fandaliaeth Difrodi neu niweidio rhywbeth yn fwriadol. neu ddwyn hefyd yn cael effaith negyddol ar y dioddefwr a鈥檙 gymuned ehangach. Maen nhw鈥檔 gallu gwneud i bobl deimlo鈥檔 anniogel, neu鈥檔 ofnus.
Penderfyniadau sy'n effeithio ar yr amgylchedd鈥
Mae llawer o鈥檙 penderfyniadau rydyn ni鈥檔 eu gwneud yn cael effaith ar y byd naturiol. Gallai hyn fod yn yr ardal leol, neu yn rhywle arall yn y byd.
Mae rhai penderfyniadau sy鈥檔 cael effaith negyddol ar yr amgylchedd.
Gollwng sbwriel
Mae gollwng sbwriel, fel caniau diod, pecynnau bwyd, poteli a phapur melysion yn gallu achosi niwed i anifeiliaid. Mae hefyd yn gallu llygru鈥檙 tir, afonydd a llynnoedd.
Mae sbwriel yn gwneud i鈥檙 ardal leol edrych yn anniben.鈥 Mae hefyd yn berygl t芒n, ac mae pethau fel bagiau siopa yn gallu mynd yn sownd mewn draeniau ac achosi llifogydd.
Prynu eitemau untro
Pethau sy鈥檔 cael eu defnyddio unwaith ac yna鈥檔 cael eu taflu yw eitemau untro.鈥疢ae llawer o鈥檙 eitemau hyn fel pecynnau creision, poteli, cwpanau, gwellt yfed a chynwysyddion bwyd wedi鈥檜 gwneud o blastig.
Maen nhw鈥檔 broblem fawr, oherwydd mae eitemau untro yn troi鈥檔 llawer o sbwriel yn gyflym iawn. Yn 2023, pasiodd Senedd Cymru ddeddf sy鈥檔 gwahardd gwerthu rhai eitemau plastig untro.
Mae llawer iawn o blastig untro yn cyrraedd y moroedd a鈥檙 cefnforoedd.Oherwydd y llanw a鈥檙 gwynt, mae llawer o'r sbwriel plastig hwn yn cyrraedd llefydd sydd yn bell o ble y dechreuodd.鈥疢ae rhan o鈥檙 Cefnfor Tawel wedi cael ei enwi鈥檔 鈥淟lecyn Sbwriel Mawr y Cefnfor Tawel鈥 oherwydd bod cymaint o lygredd plastig yno.
Gwastraffu bwyd
Mae tua thraean o鈥檙 holl fwyd yn cael ei wastraffu.鈥疢ae gwastraffu bwyd yn golygu bod yr holl ynni a d诺r sydd wedi mynd i mewn i baratoi neu dyfu鈥檙 bwyd yn cael ei wastraffu hefyd.
Os yw gwastraff bwyd yn cyrraedd safleoedd tirlenwi, mae鈥檔 pydru ac yn cynhyrchu nwy o鈥檙 enw methan. Methan yw un o鈥檙 nwyon sy鈥檔 achosi newid hinsawddY newid tymor hir yn nhymheredd y byd ac yn yr atmosffer sy'n gwneud i'r blaned gynhesu.. Mae newid hinsawdd yn effeithio ar Gymru a鈥檙 byd i gyd.
Un man lle mae newid hinsawdd yn cael effaith yw鈥檙 Maldives yng Nghefnfor India. Mae鈥檙 rhan fwyaf o鈥檙 tir yn yr ynysoedd hyn lai na metr uwchlaw lefel y m么r. Mae hyn yn golygu y bydd y stormydd ffyrnig a鈥檙 cynnydd yn lefelau鈥檙 m么r sy鈥檔 cael eu hachosi gan newid hinsawdd yn effeithio arnyn nhw.
Sut i gael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd
More on Cymuned a chymdeithas
Find out more by working through a topic