大象传媒

Now playing video 7 of 7

Hafod Eryri

Description

Adroddiad newyddion am agoriad swyddogol adeilad newydd Hafod Eryri yn 2009. Agorwyd yr adeilad ar gopa鈥檙 Wyddfa gan Rhodri Morgan, Prif Weinidog Cymru ar y pryd. Roedd hwn yn disodli鈥檙 adeilad gwreiddiol a gynlluniwyd gan Syr Clough Williams-Ellis, adeilad oedd yn cael ei alw鈥檔 slym uchaf Cymru erbyn y diwedd.

Classroom Ideas

Gellir defnyddio鈥檙 clip hwn wrth wneud gwaith am Gymru neu wrth drafod gwyliau. Gallai鈥檙 clip fod yn sbardun i drafodaeth ar y cwestiwn: Pam mae pobl yn dod i Gymru ar wyliau? Byddai鈥檔 bosibl defnyddio鈥檙 clip hwn hefyd wrth wneud gwaith am ddigwyddiadau arbennig. Gellir defnyddio鈥檙 clip i gyflwyno gwaith ar ansoddeiriau. Gofynnwch i ddisgyblion feddwl am ansoddeiriau i ddisgrifio鈥檙 teimlad o fod ar gopa鈥檙 Wyddfa a chreu brawddegau sy鈥檔 cynnwys yr ansoddeiriau hynny. Gall y clip hwn fod yn ysgogiad i ysgrifennu am ddigwyddiad arbennig, gan ddefnyddio鈥檙 amser gorffennol a chanolbwyntio ar sut roedd y disgyblion yn teimlo. Gellir gofyn i ddisgyblion baratoi cyflwyniad unigol am ddigwyddiad arbennig.