大象传媒

Cyflwyniad

Yn ystod misoedd yr haf, mae鈥檙 moroedd oddi ar arfordir Cymru yn gartref i lawer o grwpiau o ddolffiniaid. Maen nhw鈥檔 cael eu denu gan y moroedd cynnes a鈥檙 heigiau enfawr, neu grwpiau o bysgod bach sy鈥檔 dod i fwydo yma.

Dolffiniaid trwyn potel yn neidio yn y d诺r.

Mae dolffiniaid yn greaduriaid cymdeithasol iawn. Mae gan bob un ohonyn nhw bersonoliaeth unigol, ac mae gwyddonwyr yn meddwl eu bod hyd yn oed yn gallu teimlo emosiynau, yn union fel ni. Yn wir, mae llawer o arbenigwyr yn credu bod y creaduriaid anhygoel hyn yn rhai o鈥檙 anifeiliaid mwyaf clyfar ar y Ddaear.

Ffeithiau am y teulu

Dolffiniaid yn nofio yn y m么r.
  • Mamaliaid yw dolffiniaid.
  • Mae dolffiniaid yn byw mewn haid, neu mewn grwpiau teuluol. Mae pob haid yn gallu cynnwys mwy na 10 o aelodau.
  • Fel arfer, mae dolffiniaid yn rhoi genedigaeth i un babi, neu lo. Mae lloi yn gallu nofio cyn gynted ag y maen nhw wedi cael eu geni.
  • Mae鈥檙 fam a鈥檙 llo yn aros gyda鈥檌 gilydd am flynyddoedd. Mae gwyddonwyr yn meddwl bod hyn yn rhoi cyfle i鈥檙 dolffin ifanc ddysgu sut i hela a chyfathrebu鈥檔 effeithiol.

Cyfathrebu

Mae dolffiniaid yn wych am gyfathrebu. Maen nhw鈥檔 anfon negeseuon at ei gilydd drwy wichian a chwibanu. Yn ystod y 1960au, aeth gwyddonwyr ati i astudio dolffiniaid mewn caethiwed. Fe wnaethon nhw sylwi eu bod yn gallu 鈥榮gwrsio鈥 芒鈥檌 gilydd, neu anfon negeseuon o un tanc i鈥檙 llall. Yn anffodus, mae鈥檙 hyn mae dolffiniaid yn ei ddweud yn dal yn ddirgelwch, gan nad ydyn ni wedi datrys cod y dolffiniaid eto.

Y gwyddonydd Dr Sarah Perry yn eistedd ar gwch, allan yn y m么r.

Mae鈥檙 gwyddonydd, Dr Sarah Perry, a鈥檌 th卯m o Ganolfan Bywyd Gwyllt Bae Ceredigion yn ceisio deall mwy am sut mae dolffiniaid yn cyfathrebu. Mae Sarah, a llawer o wyddonwyr eraill, wedi sylwi bod gan bob dolffin ei chwiban unigryw ei hun. Bydd dolffin yn defnyddio鈥檙 chwiban unigryw hwn fel enw iddo.

Creda neu beidio, mae Sarah a鈥檌 th卯m yn dysgu bod haid o ddolffiniaid trwyn potel ym Mae Ceredigion yn siarad 芒鈥檌 gilydd ar draw uwch nag unrhyw gr诺p arall o ddolffiniaid unrhyw le yn y byd.

Fideo: Creadur rhyfeddol y dyfnder

Darganfydda fwy am sut mae gwyddonwyr wedi gweithio gyda dolffiniaid dros y blynyddoedd a'r hyn rydyn ni'n ei wybod am sut maen nhw'n cyfathrebu 芒'i gilydd.

Ecoleoliad

Mae鈥檙 synau clicio uchel y mae dolffiniaid yn eu cynhyrchu yn eu helpu hefyd i symud o un lle i'r llall a dod o hyd i fwyd. Yr enw ar y broses hon ydy ecoleoliad.

Diagram i ddangos ecoleoliad. Mae dolffin yn anfon tonnau sain allan ar ffurf synau clicio, ac yn derbyn atsain o'r pysgod o'i flaen.

Mae dolffiniaid yn gwneud cymaint 芒 1,000 o synau clicio bob eiliad. Pan fydd y s诺n clicio yn taro gwrthrych yn y d诺r, mae鈥檙 s诺n yn bownsio鈥檔 么l at y dolffin fel atsain. Bydd y dolffin defnyddio鈥檙 wybodaeth hyn i weithio allan lleoliad, maint a si芒p y gwrthrych.

Yr anifail mwyaf deallus yn ein moroedd

Dolffin yn tasgu yn y m么r ym Mae Ceredigion.

Mae gwyddonwyr wedi dysgu bod dolffiniaid yn wych am gyfathrebu, ac er eu bod yn edrych yn wahanol, maen nhw鈥檔 debyg iawn i ni. Mae dolffiniaid wrth eu bodd yn rhyngweithio 芒鈥檌 gilydd, a dweud y gwir maen nhw鈥檔 un o鈥檙 ychydig anifeiliaid sy鈥檔 dal i chwarae pan maen nhw wedi tyfu鈥檔 oedolion. Erbyn hyn, mae gwyddonwyr yn gwybod bod y mamaliaid anhygoel hyn yn sgwrsio 芒鈥檌 gilydd, yn dysgu pethau i鈥檞 gilydd, yn chwarae ac hyd yn oed yn breuddwydio pan fyddan nhw鈥檔 cysgu.

Cwis: Beth yw鈥檙 anifail mwyaf deallus yn ein cefnforoedd?

Gweithgaredd

Ledled y byd, mae gwyddonwyr a biolegwyr morol yn dal i ddysgu a chanfod mwy am sut mae dolffiniaid yn ymddwyn. Mae鈥檙 darganfyddiadau hyn yn aml yn y newyddion.

Darllena鈥檙 adroddiadau newyddion hyn i gael rhagor o wybodaeth am y creaduriaid anhygoel hyn. Bydd y dolenni hyn yn dy helpu gyda dy ymchwil. Gwna restr o鈥檙 pwyntiau newydd rwyt ti鈥檔 eu dysgu a chreu dy ffeil ffeithiau dy hun am ddolffiniaid.

Ble nesa?

Beth sy'n digwydd i blastig yn y m么r?

Dysga pa effaith mae gwastraff plastig yn y m么r yn ei gael ar fywyd gwyllt.

Beth sy'n digwydd i blastig yn y m么r?

Ydy pysgota cimychiaid yn gallu bod yn gynaliadwy?

Sut mae pysgota wedi newid yng Nghymru, a pha effaith mae'n ei gael ar y gadwyn fwyd?

Ydy pysgota cimychiaid yn gallu bod yn gynaliadwy?

Cynaliadwyedd 8-11 oed

Casgliad o wersi ar gyfer disgyblion rhwng 8 ac 11 oed

Cynaliadwyedd 8-11 oed