大象传媒

Beth yw ffoadur?

Ffoadur yw rhywun sy'n cael ei orfodi neu ei ddadleoli o'u mamwlad o ganlyniad i nifer o wahanol ffactorau.

Rhaid iddyn nhw wedyn geisio lloches mewn gwledydd eraill. Gall y rhesymau pam mae rhywun yn gorfod gadael ei wlad fod yn rhai cymdeithasol, ffisegol neu wleidyddol.

Sut mae pobl yn dod yn ffoaduriaid?

Ffactorau cymdeithasol

Mae ffactorau cymdeithasol yn gysylltiedig 芒 chredoau pobl a鈥檜 ffordd o fyw. Gall nifer o bobl gael eu mewn rhai gwledydd oherwydd eu credoau crefyddol. Mae enghreifftiau o ffoaduriaid crefyddol yn cynnwys y Mwslimiaid a gafodd eu herlid ym Myanmar a鈥檙 Hind诺iaid ym Mhacistan.

Mae rhywioldeb hefyd yn gallu bod yn ffactor sy'n llywio penderfyniadau pobl i symud. Mae rhai aelodau o鈥檙 gymuned LHDTC+ o amgylch y byd yn wynebu trais rhywiol a thrais ar sail rhywedd, ymosodiadau corfforol, artaith a gwahaniaethu.

Ffactorau ffisegol

Y ffactor ffisegol mwyaf cyffredin sy鈥檔 effeithio ar boblogaethau ac sy鈥檔 achosi i bobl i ddod yn ffoaduriaid yw鈥檙 hinsawdd.

Mae effeithiau cynyddol newid hinsawdd yn golygu bod mwy a mwy o ardaloedd yn wynebu tywydd eithafol fel llifogydd a stormydd trofannol. Mae sychder mewn nifer o wledydd yn golygu nad oes modd dibynnu ar gynhyrchu bwyd ac mae prinder bwyd a newyn wedi cynyddu.

Yn olaf, gall trychinebau naturiol fel echdoriadau folcanig, daeargrynfeydd a tswnamis hefyd orfodi cymunedau i adael eu cartrefi i chwilio am ddiogelwch, gofal iechyd a lloches.

Ffactorau gwleidyddol

Mae ffactorau gwleidyddol yn aml yn ymwneud 芒鈥檙 ffordd y mae gwlad yn cael ei llywodraethu a鈥檙 penderfyniadau sy鈥檔 cael eu gwneud sy'n gallu effeithio鈥檔 uniongyrchol ar ei dinasyddion.

Efallai y bydd gan rai gwledydd arweinwyr llwgr lle mae penderfyniadau鈥檔 cael eu gwneud heb roi lles ei dinasyddion yn gyntaf. Enghraift o hyn yw gwario arian ar arfau yn hytrach na gofal iechyd a chyfleusterau addysg.

Mae anghytuno gwleidyddol yn gallu arwain at ryfeloedd yn aml. Drwy gydol hanes, mae pobl wedi鈥檜 gorfodi i symud oherwydd rhyfel, naill ai gyda gwledydd eraill neu ryfeloedd cartref. Mae hyn yn peryglu bywydau pobl ac mae鈥檔 rhaid iddyn nhw ffoi er mwyn dod o hyd i ddiogelwch.

Gwylio: Fideo Ffoaduriaid

Gwylia鈥檙 clip byr yma i ddysgu mwy am yr hyn sy'n achosi ffoaduriaid i ffoi.

Ffoaduriaid mewn hanes

Drwy gydol hanes, mae pobl wedi鈥檜 gorfodi i symud o鈥檜 mamwlad, yn aml oherwydd anoddefgarwch crefyddol neu hiliol. Mae鈥檙 syniad o ffoaduriaid yn dyddio n么l cyn belled 芒鈥檙 hen Roegiaid a'r Eifftiaid, pan fyddai unigolyn yn gallu chwilio am noddfa mewn lle sanctaidd, lle byddai goblygiadau pe bai'n cael ei niweidio.

Fe achosodd yr Ail Ryfel Byd i niferoedd anferthol o bobl droi鈥檔 ffoaduriaid. Mae amcangyfrifon yn awgrymu bod tua 60 miliwn o drigolion Ewrop wedi dod yn ffoaduriaid yn ystod y cyfnod hwn. Roedd dadleoli rhai grwpiau wedi dechrau cyn y rhyfel, wrth i arwyddion cynnar o ymddygiad ymosodol y Nats茂aid wthio trigolion yr Almaen, yn enwedig Iddewon, i chwilio am ddiogelwch mewn mannau eraill.

Fe wnaeth mudo gorfodol barhau drwy gydol y rhyfel. Hyd yn oed yn y DU, bu鈥檔 rhaid i lawer o blant adael eu teuluoedd mewn trefi a dinasoedd mwy o faint o ganlyniad i鈥檙 Blitz. Achosodd hyn fewnlifiad mawr o blant i ardaloedd o Gymru a Chernyw.

Ffoaduriaid plant Iddewig yn cyrraedd Llundain o'r Almaen yn 1939.
Image caption,
Plant Iddewig yn cyrraedd Llundain o鈥檙 Almaen fel ffoaduriaid, 1939

Argyfwng ffoaduriaid Syria

Dechreuodd argyfwng ffoaduriaid Syria ym mis Mawrth 2011 ac mae'r effeithiau'n dal i gael eu hwynebu flynyddoedd yn ddiweddarach. Roedd rhai pobl yn y wlad wedi cael eu dadrithio gan reolaeth yr Arlywydd Bashar al-Assad, a olynodd ei dad fel arweinydd y wlad. Daeth teulu鈥檙 Assad i rym yn Syria am y tro cyntaf yn 1971.

Roedd llawer o bobl yn cwyno am y diffyg rhyddid oedd ganddyn nhw a'r oedd yn digwydd. Yna cafwyd protestiadau cyhoeddus ac arestiwyd pobl ifanc yn eu harddegau am beintio graffiti a oedd yn gwrthwynebu鈥檙 llywodraeth.

Fe wnaeth ymdrechion y llywodraeth i atal y gweithredoedd hyn danio tensiynau hyd yn oed ymhellach a thyfodd y gwrthdaro wrth i'r wlad wynebu rhyfel cartref, lle gorfodwyd miliynau o bobl Syria o鈥檜 cartrefi.

Golygfa o'r awyr yn dangos difrod rhyfel cartref Syria yn Idlib.
Image caption,
Llun o鈥檙 awyr sy鈥檔 dangos difrod rhyfel cartref Syria yn Idlib

Mae llywodraethau rhyngwladol eraill fel Iran, Rwsia, Saudi Arabia ac UDA wedi dod yn rhan o鈥檙 gwrthdaro hwn drwy ddarparu cymorth ariannol a milwrol. Mae鈥檙 gweithredoedd hyn ond wedi ymestyn a chynyddu lefel y gwrthdaro.

Ym mis Mawrth 2023 dywedodd Asiantaeth Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig fod:

  • 14 miliwn o Syriaid wedi cael eu gorfodi i ffoi o'u cartrefi
  • 6.8 miliwn o Syriaid wedi cael eu dadleoli o fewn y wlad
  • 5.5 miliwn o ffoaduriaid o Syria yn byw mewn gwledydd cyfagos

Mae rhai ffoaduriaid yn mudo i Ewrop yn anghyfreithlon. Mae hyn yn aml yn golygu dulliau peryglus o deithio, fel talu smyglwyr i鈥檞 cludo i wledydd, naill ar gefn lori neu mewn cychod pysgota bach neu dingis sy'n aml yn orlawn.

Mae hyn yn peryglu bywydau pobl. Anaml y bydd gan y ffoaduriaid hyn unrhyw fwyd neu dd诺r ac anaml y mae rafftiau achub yn cael eu gosod ar y cychod sy鈥檔 cael eu defnyddio. Mae nifer sydd wedi rhoi cynnig ar y teithiau hyn wedi marw ar 么l mygu neu foddi.

Taith y ffoaduriaid ar draws Ewrop.
Figure caption,
Taith y ffoaduriaid ar draws Ewrop.

Rheoli ffoaduriaid

Mae gwledydd ar draws Ewrop yn ceisio helpu gyda鈥檙 argyfwng ffoaduriaid. Mae rhai gwledydd fel yr Almaen a Sweden wedi croesawu ffoaduriaid gan eu bod yn cael eu hystyried yn ddioddefwyr a bod modd cynnig lloches iddyn nhw tra eu bod nhw鈥檔 cyfrannu at economi鈥檙 wlad hefyd.

Mae gwledydd eraill fel Awstria a Hwngari wedi bod yn llai croesawgar ac wedi ceisio cyfyngu y nifer y ffoaduriaid sy'n dod yno. Fe wnaeth Hwngari adeiladu ffens ar hyd ei ffiniau 芒 Serbia a Croatia i leihau mudo anghyfreithlon i mewn i鈥檙 wlad.

Mae nifer o wledydd wedi dadlau y byddai croesawu ffoaduriaid i鈥檞 gwlad yn annog hyd yn oed mwy o ffoaduriaid i symud yno, ac mae鈥檔 bosib na fyddai'r llywodraeth yn gallu darparu ar eu cyfer.

Drwy gydol yr argyfwng, mae cytundebau rhyngwladol wedi'u creu rhwng gwledydd i ddelio 芒'r mewnlifiad mawr o fudwyr. Mae gwylwyr y glannau yn yr Eidal a Gwlad Groeg wedi cydweithio i achub nifer o fudwyr sydd wedi ceisio croesi M么r y Canoldir i Ewrop.

Ers dechrau鈥檙 argyfwng, mae sefydliadau fel Asiantaeth Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig wedi bod yn gweithio yn Syria i gynnig lloches, d诺r gl芒n a gofal meddygol i deuluoedd sydd wedi cael eu gorfodi i ffoi o'u cartrefi.

More on Gwrthdaro a heddwch

Find out more by working through a topic