大象传媒

Cyflwyniad

Mae plastig o鈥檔 cwmpas ni i gyd. Mae鈥檙 rhan fwyaf ohonon ni yn ei ddefnyddio bob dydd. Mae鈥檔 ddeunydd defnyddiol iawn sydd wedi trawsnewid ein bywydau i gyd, ond yn anffodus mae'r plastig rydyn ni'n ei ddefnyddio yn mynd i鈥檙 m么r. Yn y pen draw, mae'n gallu achosi pob math o broblemau i fywyd y m么r a mamaliaid morol. Ond sut mae ein gwastraff plastig yn gwneud llanast yn y m么r?

Poteli plastig a sbwriel arall wedi'u golchi i fyny ar draeth yn sir Cork, Iwerddon.
Image caption,
Sbwriel yn cael ei olchi ar y traeth yn sir Cork, Iwerddon

Mae gwastraff plastig yn gallu para am gannoedd o flynyddoedd. Drwy gydweithio a gwneud ein rhan, mae gan bob un ohonon ni ran bwysig i鈥檞 chwarae er mwyn lleihau鈥檙 broblem blastig hon.

Oeddet ti鈥檔 gwybod?

Hyd yn oed os wyt ti鈥檔 byw cannoedd o filltiroedd i ffwrdd o鈥檙 m么r, mae'r plastig rwyt ti鈥檔 ei ddefnyddio yn gallu ymddangos yn y m么r. Mae cymaint ag 80% o鈥檙 plastig yn ein moroedd yn dod o鈥檙 tir. Beth mae hyn yn ei olygu? Dydy'r plastig o reidrwydd ddim yn cael ei daflu鈥檔 syth i鈥檙 m么r, ond mae鈥檔 dal i gyrraedd yno.

Sut mae hyn yn digwydd?

Pedwar eicon yn dangos bin sbwriel, pecyn creision, toiled a pheiriant golchi.

Biniau sbwriel

Mae sbwriel plastig yn ysgafn iawn ac mae'n gallu cael ei chwythu oddi ar safleoedd tirlenwi neu finiau sbwriel, yna mae鈥檔 mynd i mewn i ddraeniau ac afonydd ac yn cyrraedd y m么r.

Taflu sbwriel

Dydy sbwriel plastig sy鈥檔 cael ei ollwng ar y stryd ddim yn aros yno. Mae'r gwynt a glaw yn gallu cario gwastraff plastig i nentydd ac afonydd neu i ddraeniau 鈥 ac o鈥檙 fan honno mae鈥檔 gallu teithio i鈥檙 m么r.

Fflysio'r toiled

Mae llawer o gynnyrch rydyn ni鈥檔 eu defnyddio, fel ffyn cotwm, yn cael eu fflysio i lawr y toiled ac yn ffeindio eu ffordd i'r m么r. Ond, dydy鈥檙 cynnyrch yma ddim yn cael ei dorri鈥檔 ddarnau m芒n mewn d诺r, felly ni ddylid eu fflysio i lawr y toiled.

Peiriannau golchi

Mae hyd yn oed golchi ein dillad yn gallu rhyddhau bach plastig sydd o fewn defnydd ein dillad ni. Mae'r microffibrau bach yma yn gallu cael eu golchi鈥檔 hawdd i lawr y draen ac i mewn i鈥檙 m么r.

Priodweddau plastig

Sut byddet ti鈥檔 disgrifio gorchudd bwyd plastig?

Pecyn creision wedi'i labelu: Cryf, Para鈥檔 dda, Ysgafn, Gallu dal d诺r.

Mae鈥檔 gryf, yn para鈥檔 dda, yn ysgafn ac yn dal d诺r. Dyma鈥檔 union pam mai hwn yw'r deunydd perffaith ar gyfer diogelu ein bwyd. Ond y priodweddau hynny sydd hefyd yn achosi problemau i鈥檙 amgylchedd.

Mae plastig wedi cael ei ddylunio i bara am amser hir iawn. Dydy e ddim yn . Mae hynny鈥檔 golygu dydy e ddim yn gallu dadelfennu na phydru.

Effaith

Gwirfoddolwr yn casglu microplastigau a malurion mesoplastig wrth lanhau traeth yn Tenerife.
Image caption,
Gwirfoddolwr yn helpu i lanhau traeth llawn microblastigau yn Tenerife

Ar 么l i鈥檙 plastig gyrraedd y m么r, mae鈥檔 dadelfennu, neu'n pydru'n araf iawn. Mae'r broses yn gallu cymryd dros 400 o flynyddoedd. Mae鈥檙 plastig yn torri鈥檔 ronynnau m芒n, sy鈥檔 gallu bod yn niweidiol iawn i bob math o fywyd y m么r. Enw鈥檙 gronynnau bach hyn yw . Maen nhw'n gallu bod mor fach fel byddai angen microsgop i鈥檞 gweld yn aml.

Fideo: Padlfyrddwraig yn casglu plastig ar draethau Ynys M么n

Mae Sian Sykes, padlfyrddwraig proffesiynol, yn dangos sut allwn ni leihau effaith plastig yn y m么r.

Sut mae plastig yn mynd i鈥檙 gadwyn fwyd?

Diagram llif: Potel blastig > Microblastig > Plancton > Pysgod > Pl芒t.

Mae鈥檙 plancton yn treulio鈥檙 microblastig, mae pysgod yn bwyta鈥檙 plancton ac rydyn ni鈥檔 bwyta鈥檙 pysgod.

Sut mae plastig yn y m么r yn effeithio ar fywyd gwyllt?

Image gallerySkip image gallerySlide 1 of 4, Adar yn hedfan dros ben bentwr o sbwriel mewn canolfan sbwriel yn Indonesia., Mae adar yn bwyta plastig ac maen nhw鈥檔 aml yn cael eu canfod gyda鈥檜 boliau'n llawn ohono.

Awgrymiadau gwych

Dod 芒鈥檔 bagiau ein hunain i鈥檙 siop

Erbyn hyn yng Nghymru, mae'n rhaid talu am bob bag plastig. Ers i hyn ddigwydd, mae鈥檙 nifer o fagiau sy'n cael eu defnyddio gennyn ni wedi gostwng dros 80%.

Defnyddio llai o blastigau untro

Ym mis Mawrth 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai鈥檔 ymdrechu i wahardd plastigau untro, sy鈥檔 anodd eu hailgylchu ac sy鈥檔 cael eu taflu fel sbwriel yn aml.

Sut wyt ti'n gallu helpu?

  • Lledaenu鈥檙 gair - mae draeniau'n arwain at y m么r.
  • Rhoi dy sbwriel mewn bin bob amser a鈥檌 ailgylchu.
  • Mae llawer o blant yn ymgyrchu yn eu hysgolion a鈥檜 cymunedau, ac mae rhai hyd yn oed yn peintio鈥檙 draeniau.

Mae newidiadau mawr yn dechrau gyda chamau bach. Beth wyt ti am ei wneud i ddechrau cael gwared 芒鈥檙 plastig yn dy fywyd?

Ble nesaf?

Ydy pysgota cimychiaid yn gallu bod yn gynaliadwy?

Sut mae pysgota wedi newid yng Nghymru, a pha effaith mae'n ei gael ar y gadwyn fwyd?

Ydy pysgota cimychiaid yn gallu bod yn gynaliadwy?

Sut allwn ni dynnu plastig o'r m么r?

Mae tunelli o wastraff plastig yn mynd i鈥檙 moroedd bob blwyddyn. Be allwn ni ei wneud i fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 broblem?

Sut allwn ni dynnu plastig o'r m么r?

Cynaliadwyedd 8-11 oed

Casgliad o wersi ar gyfer disgyblion rhwng 8 ac 11 oed

Cynaliadwyedd 8-11 oed

More on Gwastraff a llygredd

Find out more by working through a topic