´óÏó´«Ã½

Archifau Mawrth 2009

Rhaid wrth dri

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 06:48, Dydd Mawrth, 31 Mawrth 2009

Sylwadau (0)

Pam y penderfynwyd mai tri fyddai'n llosgi'r Ysgol Fomio ym Mhenyberth yn oriau mân Medi 8, 1936?

Mae'r ateb yn symlach nag y byddech wedi meddwl.

Wrth gofio'r dramodydd a'r sgriptiwr William -Wil Sir Fôn - Jones yn rhifyn mis Ebrill o Barn mae John Hefin yn dwyn i gof y cyfnod pan oedd yr awdur yn paratoi ei ddrama Penyberth ar gyfer y teledu.

Rhan o'r ymchwil oedd ymweliad y ddau â Saunders Lewis trwm ei glyw yn ei gartref ym Mhenarth.

Wedi'r holi, a chyflwyno potel ddrud o win i Saunders Lewis, dyma ddod at y cwestiwn olaf un:

"Ac erbyn hyn, oherwydd y byddardod, roedd Wil a minnau o fewn ychydig fodfeddi i'r Cenedlaetholwr Mawr. 'Pam fod tri ohonoch wedi mynd y noson honno i'r ysgol fomio?' bloeddiodd Wil.

"Dim ateb y tro hwn - a dyma Wil a fi'n edrych ar ein gilydd gan geisio dyfalu pa ateb dwys a oedd ar fin dod (y Drindod, Tri Chymro, y Tri yn Un . . .).

"Dyma fi'n ceisio helpu Wil drwy ofyn y cwestiwn eto . . . a dyma'r gŵr mawr yn gwenu, yn edrych yn syth i lygaid Wil ac yn dweud yn syml iawn, 'Oherwydd doedd dau ddim yn ddigon'."

Cyfle am deyrnged

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 09:21, Dydd Gwener, 27 Mawrth 2009

Sylwadau (0)

I feddwl ei bod yn gyfres sydd wedi ymestyn dros chwarter canrif mae'n dipyn o ganmoliaeth i Cof Cenedl na fu gan neb air cas i'w ddweud am yr un o'r 24 o gyfrolau a gyhoeddwyd. Dim ond canmol fu yna ers ymddangosiad ygyntaf fis Mawrth 1986!
Geraint H Jenkins

Yn wir, bydd mwy nag un yn gweld colli'r gyfres yn awr bod ei golygydd, Yr Athro Geraint H Jenkins, wedi penderfynu ei dirwyn i ben.

Ar wahân i'r bwlch y bydd yn ei adael mae'n siŵr gen i y bydd casglwyr llyfrau yn gofidio hefyd iddo ddewis cau pen y mwdwl gyda'r bedwaredd ar hugain yn hytrach na'i gwneud yn chwarter cant crwn a thaclus.

Ond dyna fo, un peth da am hynny yw ei fod yn gadael bwlch i'r wasg gyhoeddi cyfrol olaf un a fyddai'n gyfrol deyrnged i'r golygydd diwyd a chyrraedd y chwarter cant yr un pryd.

Yn sicr, mae'n haeddu cyfrol o'r fath.
Ac fe fyddai cyfrol arall yn plesio'r darllenwyr.
Ond pwy i'w golygu?

'Cof Cenedl' - rhifyn olaf

Dewis lyfr?

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 08:16, Dydd Gwener, 27 Mawrth 2009

Sylwadau (0)

Bethan Jones ParryLlongyfarchiadau arbennig i Bethan Jones Parry ar gael ei phenodi i ofalu am ganolfan Cae'r Gors, hen gartref Kate Roberts sy'n awr yn ganolfan treftadaeth.

O gofio am gyfnod Bethan yn bennaeth cysylltiadau cyhoeddus Heddlu Gogledd Cymru cyn dod i'r swydd hon, mae rhywun yn cael ei demtio i holi ai'r nofel Traed Mewn Cyffion gan Kate Roberts fydd ar ben rhestr ddarllen Cae'r Gors o hyn allan.

Penodi Bethan

Cilio o'r golau

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 13:51, Dydd Iau, 26 Mawrth 2009

Sylwadau (0)

Mae'r wasgfa ariannol yn gwasgu yn y lleoedd mwyaf annisgwyl.

Yr wythnos hon Y Goleuad, newyddiadur yr Eglwys Bresbyteraidd, sy'n teimlo'r pinsh fel petai.

"Trist yw gweld sawl elusen ac achos da yn dioddef yn enbyd yn yr hinsawdd yma ac mae llawer yn hollol ddiymadferth i allu gwneud dim. Fel pob amser y gwanaf mewn cymdeithas sy'n gorfod dioddef," meddai'r golygydd gan fynd ymlaen:

"Yn y cyswllt yma, trist oedd cael neges o swyddfa S4C yn dweud nad ydynt bellach am archebu'r Goleuad am eu bod yn cwtogi ar y nifer o gylchgronau a ddaw i law."

Diddorol fyddai gwybod, meddai wedyn, pa gylchgronau eraill sydd wedi dioddef.

"Pa fath o gylchgrawn tybed sy'n dderbyniol gan ein sianel ni?" yw ei gwestiwn.
Amen.

Neges y dôn

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 08:32, Dydd Gwener, 20 Mawrth 2009

Sylwadau (0)

Yn ein hadran Tramor yr ydym yn sôn am y croeso twymgalon a gafodd Llysgennad Prydain yn yr Ariannin yn ystod ymweliad a'r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia.

Croesawyd Shan Morgan, sydd â'i gwreiddiau yn Aberaeron, gan seiniau seindorf bres yn canu Gwŷr Harlech a Calon Lân yn Esquel.

Cyfraniad arall, llai diplomyddol efallai, gan y seindorf oedd Malvinas Argentinas - ond roedd y neges yn eglur i bawb oedd yn adnabod y dôn!

Gorau oll

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 08:16, Dydd Gwener, 20 Mawrth 2009

Sylwadau (0)

Cwestiwn.
Beth sy'n cysylltu Brian Clough, y rheolwr pêl-droed, yr actor o Gymru Michael Sheen a phennaeth Virgin, Richard Branson?

Mae'r ddau gyntaf yn hawdd. Michael Sheen sy'n chwarae rhan y rheolwr pêl-droed yn y ffilm newydd amdano, The Damned United - ffilm nad yw teulu Clough eisiau dim i'w wneud â hi gyda llaw.

Ond Richard Branson?

Trown yn awr at hysbyseb ddiweddar cwmni awyrennau Virgin Atlantic sy'n cyhoeddi i'r byd; "We're not saying we're the best Premium Economy in the world, but we're certainly in the Top 1.

Geiriau sy'n adlais o ddisgrifiad Clough ohono'i hun wedi i'w dîm anffasiynol Derby County ddod yn bencampwyr cynghrair ac wedi i'w dîm arall, Nottingham Forrest ennill dau gwpan Ewropeaidd:

"I wouldn't say," medda fo,"I'm the best manager in the business, but I'm in the top one."

Prawf pellach fod hir oes i ddywediadau bachog. A diolch i Clough am hwnna - oni wyddoch chi yn wahanol.

Oriau'r plant

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 13:27, Dydd Iau, 19 Mawrth 2009

Sylwadau (0)

Cwestiwn poblogaidd rai blynyddoedd yn ôl oedd, "Pa awr sydd ag ond 55 munud iddi hi?"

A'r ateb cywir fyddai Awr y Plant ar y radio gan y byddai honno yn cychwyn am bump ac yn gorffen am bum munud i chwech gyda'r "Weather" am bum munud cyn 'Niws chwech'.

Diflannodd yr hen Awr y Plant yn y Chwedegau a daeth hynny i gof gyda'r cyhoeddiad yr wythnos hon i raglenni plant Radio 4 gyrraedd pen eu talar hwythau gyda phenderfyniad y ´óÏó´«Ã½ i daro yn ei thalcen y rhaglen i rai dan 14 oed, Go4It, oherwydd prinder gwrandawyr.

Dywedwyd mai dim ond rhyw 20,000 fyddai'n gwrando ar y gorau - a nifer o'r rheini dros eu hanner cant oed.

Ail blentyndod yn wir ac yn "arwydd o'r amserau," yn agweddau plant rhwng pedair a 14 oed tuag at y radio heddiw.

Ac yn gyfle heb ei ail i rai o oed arbennig ymdrybaeddu mewn rhywfaint o hiraeth ac i ramantu'r gorffennol.

Achos yr ydym ni o'r genhedlaeth honno yr oedd radio yn gyffredinol ac Awr y Plant ar nosweithiau Mawrth ac Iau yn benodol yn rhan bwysig o'n cynhysgaeth.

Yn ganolog i'n byd gydag amser chwarae yn cael ei drefnu o gwmpas rhaglenni poblogaidd fel SOS Galw Gari Tryfan pan fyddai'n orfodol cyrraedd adref mewn da bryd o'r ysgol ar gyfer nodau cyntaf y bennod gyffrous nesaf a galwad ddramatig yr actor O T Williams.

Ac nid pethau i wrando arnynt tra'n gwneud rhywbeth arall oedd y dramâu hyn. Golygai ganolbwyntio'n llwyr i wrando mor astud ag i sicrhau na fyddai sill yn cael ei godi.

Ymhlith yr arwyr a grëwyd ar donnau'r awyr yr oedd Edgar Franen - Robin Hood Cymraeg - Anabela Penn, arwyr o'r Mabinogion a marchogion chwedlau Arthur, Luned Bengoch a chymeriadau eraill nofelau Elizabeth Watkin-Jones yn gyffro i gyd.

Cymeriadau nos Iau fyddai Wil Cwac Cwac a'i griw.

Yr hyn sy'n aros yn y cof ydi tyndra - ar ofn weithiau - gwirioneddol y byddai'r rhaglenni hyn ei greu ac yn union fel ag y byddai Dr Who ar y teledu genhedlaeth neu ddwy wedyn yn gyrru plant i guddio y tu ôl i soffas felly hefyd lais triagl du Moc y Blaidd a rhai o ddihirod Gari Tryfan ar Awr y Plant!

Ond dyna ddigon o hen hiraeth - gan fod hynny hefyd yn dychryn a chodi ofn ar rai pobl!

Ond os oes gennych chi atgofion . . .

Llyfrau blwyddyn 'Barddas'

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 10:44, Dydd Llun, 16 Mawrth 2009

Sylwadau (0)

Mae cylchgrawn Cymraeg wedi achub y blaen ar feirniaid swyddogol Llyfr y Flwyddyn trwy gyhoeddi ei restr hir ei hun o lyfrau'r flwyddyn.

Gyda'r rhestr hir swyddogol i'w chyhoeddi fis Ebrill mae yn y rhifyn diweddaraf o Barddas restr o ddeg o lyfrau wedi eu dewis gan aelodau Barddas.

Gofynnodd y golygydd, Alan Llwyd, i 18 ddewis eu tri hoff lyfr ac wedyn lluniwyd rhestr derfynol wedi ei sylfaenu ar y dewisiadau hynny.

Y dewiswyr oedd; Dai Rees Davies, J Elwyn Hughes, Wil Lloyd Griffith, Iolo Wyn Williams, Robin Gwyndaf, Cynan JonesD Islwyn Edwards, Tony Bianchi, Aled Lewis Evans, Dafydd Williams, Dafydd Evan Morrios, Annes Glynn, Ifor ap Dafydd, John Glyn Jones, Cen Williams, Dafydd Morgan Lewis, Norman Closs Parry a Hywel Griffiths, a cheir sylwadau difyr ganddynt am eu dewisiadau.

Wedi'r prysur gyfrif Petrograd, nofel Wiliam Owen Roberts, sydd ar ben y rhestr - nofel a gyhoeddwyd gan gymdeithas Barddas fel pump o gyfrolau eraill y rhestr o ddeg.

Dyma'r rhestr gyflawn:

  1. Petrograd gan William Owen Roberts ( Barddas)
  2. Prifysgol y Werin: Hanes Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1900-1918 gan Alan Llwyd (Barddas)
  3. Nawr gan T James Jones (Barddas)
  4. Teulu Lord Bach gan Geraint Vaughan Jones (Gomer)
  5. Yn Hon Bu Afon Unwaith gan Aled Jones Williams (Bwthyn)
  6. Llyfr Glas Eurig gan Eurig Salisbury (Barddas)
  7. Plu gan Caryl Lewis (Lolfa)
  8. Byd Go Iawn Un Nos Ola Leuad gan J Elwyn Hughes
  9. O Ran gan Mererid Hopwood (Gomer)
  10. Bore Newydd gan Myrddin ap Dafydd (Carreg Gwalch) a Hanner Amser gan Nigel Owens (Lolfa) yn gydradd.

Bydd yn ddiddorol iawn cymharu'r rhestr hon gyda'r un a gyhoeddir gan Gwyn Thomas, Luned Emyr a Derec Llwyd Morgan nos Fercher, Ebrill 22 2009.

Petrograd - adolygiad Kate Crockett.

Llyfr y Flwyddyn 2008

Twyll drama dywyll!

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 10:30, Dydd Sul, 15 Mawrth 2009

Sylwadau (0)

Yr oedd o y twyll, neu'r tynnu coes, llenyddol gyda'r gorau erioed.

Y ddrama Y Ffynnon a berfformiwyd yn ail Gŵyl Ddrama Colegau Cymru yn 1964 yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin.

Fe'i cyflwynwyd fel cyfieithiad o un o weithiau cynnar y dramodydd abswrdaidd, Ionesco - ond yr hyn oedd hi mewn gwirionedd oedd lobsgóws wedi ei daflu at ei gilydd gan griw o fyfyrwyr.

Gydag ambell i ddramodydd 'go iawn' yn edrych dros eu hysgwydd.

Ac fe dwyllodd sawl un â'i gwelodd, i feddwl ei bod yn glasur avant garde.

Dafydd Glyn Jones

Y Dr Dafydd Glyn Jones, un o'r myfyrwyr a gymerai, sydd yn mynd i lygad Y ffynnon trwy ddweud y stori yn ei chyflawnder yn rhifyn Mawrth 2009 o Barn.

Ac mae'n dda cael y cyfan ar gof a chadw yn ei holl gywirdeb ac mae'r erthygl hon ar ei phen ei hun, heb sôn am un arall ar yr un pwnc gan un arall o'r myfyrwyr, Rhiannon Price, fel yr oedd a Parry erbyn heddiw, yn gwneud y rhifyn hwn o Barn yn un gwerth ei gael.

Mae Dafydd Glyn, a oedd yn fyfyriwr ym Mangor ar y pryd, yn egluro sut yr aeth y criw o fyfyrwyr ati yn yr Å´yl yng Nghaerfyrddin i lunio lol o ddrama ar gyfer ei pherfformio y diwrnod wedyn a honni mai un o gampau cynnar Ionesco oedd hi.

Ac fe lwyddodd y myfyrwyr, gyda rhywfaint o help gan John Gwilym Jones, Huw Lloyd Edwards, Wil Sam a Gwenlyn Parry y tu draw i bob disgwyl i "wneud rhywbeth hollol wirion" wrth i'r Ffynnon gael ei derbyn fel y peth go iawn.

Yn actio ynddi yr oedd Rhiannon Price, Geraint Jones, Iorwerth Roberts, John Roberts a Dafydd Glyn Jones a chafwyd caniarad Gareth Miles i roi ei enw wrth y cyfieithiad!

Yr oedd yn dric a hawliodd benawdau yn y wasg Gymraeg a Chymreig ac er nad oedd efallai yn yr un cae a ffugiadau Iolo Morganwg y mae'n haedda ei grybwyll ar yr un gwynt.

Ond wrth adrodd yr hanes mae Dafydd Glyn Jones yn codi un cwestiwn pryfoclyd iawn;

"Y peryg yw," meddai, "ei bod hi'n ddrama dda. Byddaf yn dal i ofyn, a fyddwn i wedi ei llyncu pe bawn i ar ben arall y twyll?"

Ac ar nodyn yr un mor ddifrifol mae o'n manteisio ar y cyfle hefyd i alaru am y trai a fu yn y diddordeb mewn drama ymhlith myftyrwyr prifysgol Cynmraeg heddiw.

"A all rhywun heddiw ddychmygu criwaiau o Gymry'r colegau yn dod at ei gilydd am wythnos yng Nghaerfyrddin neu ble bynnag, gyda phedwar neu bump o gynyrchiadau safonol. A welwn ni fyth eto dric cystal - neu cynddrwg - â'r ffynnon?"

mae rhyw fath o her fan yna, does bosib.

Merched yn bennaf?

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 16:31, Dydd Mercher, 11 Mawrth 2009

Sylwadau (0)

A oes gan ferched ormod o afael ar y byd cyhoeddi Cymraeg?

Mae'n gwestiwn fu'n cael ei wyntyllu yn dilyn sylwadau Lefi Gruffudd o wasg y Lolfa yn y Western Mail ychydig yn ôl.

"Mae'n eithaf amlwg mai menywod sy'n gwneud y cyfraniad amlycaf i'r byd llenyddol yng Nghymru boed o ran sgwennu, hyrwyddo neu werthu llyfrau," meddai Lefi gan fynd ymlaen i nodi mai 14 o ferched a dim ond tri dyn sydd ar staff yr Academi ac mai merched sy'n "arwain y ffordd" yng Nghyfnewidfa Lên Cymru.

Merch hefyd sy'n bennaeth Cyngor Llyfrau Cymru a merched, meddai Lefi, sy'n golygu Tu Chwith, Taliesin, Planet a'r New Wales Review.

Mae'n tynnu sylw at y wasg honno, Honno, hefyd - sy'n derbyn grant gan y Cyngor Llyfrau i gyhoeddi llyfrau i ferched yn unig - gan ofyn:

"Onid yw'n sefyllfa anodd i awduron gwrywaidd gyhoeddi eu gwaith os yw un o'r prif weisg sy'n cael arian cyhoeddus yn dilyn polisi o beidio cyhoeddi unrhyw lyfrau gan ddynion?"

Awgryma rhwng difrif a chwarae tybed na ddaeth yn amser sefydlu gwasg Hwnnw!

Ond ei bwynt mawr yw; "A ddylai dynion feiddio gofyn ydyn nhw dan anfantais annheg y dyddie hyn?"

Y gyntaf a'i bys ar y bysar i ateb y cwestiwn hwnnw oedd Bethan Gwanas yn ei cholofn wythnosol hithau yn y Daily Post.

"Hm. Go brin," meddai'n gryno iawn!

Bethan Gwanas, ar y chwith,  noson cyhoeddi  'Tinboethach'.

Ond y mae hi'n mynd â'r drafodaeth gam ymlaen trwy ddweud mai un rheswm pam y mae merched mor amlwg yn y maes yw "mai merched, ar y cyfan, sy'n prynu a darllen llyfrau".

Ie, er mai dynion - fel Lefi Gruffudd! - sy'n rhedeg y tai cyhoeddi dywed Bethan mai merched "sy'n bendant yn prynu'r rhan fwyaf o nofelau".

Ond go brin y dylai hynny ein synnu'n ormodol gyda chymaint o'n hawduron Cymraeg cyfoes yn ferched.

A chyda hynny mewn cof mae Bethan yn holi ymhellach pam tybed mai dim ond dwy ferch oedd ar restr hir Llyfr y Flwyddyn y llynedd.

"A dim ond un nofel newydd gan ferch oedd yn y siopau dros y Nadolig gyda llaw," meddai gan ychwanegu:

"Dydi'r sefyllfa ddim cymaint o blaid y genod a hynny, gyfeillion."

Mae rhywun yn dechrau hel meddyliau; tybed oes yna ddeunydd nofel - dinboeth - y tu ôl i'r holl helynt.

Ond gwell peidio a dweud, "Parhaed brawdgarwch"!

O Notting Hill i donnau roc

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 09:14, Dydd Mercher, 11 Mawrth 2009

Sylwadau (0)

rhys-ifans-226-127.jpgYn hogan ddrwg y Chwedegau newidiodd Caroline gwrs darlledu ym Mhrydain.


I bobl ifainc y cyfnod a oedd yn awchu am gerddoriaeth bop flaengar ar y tonfeddi yr oedd 'Radio Caroline' yn ddewis cyntaf - yr antidôt i ledneisrwydd y 'Light Programme' gan Anti'r ´óÏó´«Ã½.

Dechreuodd Radio Caroline ddarlledu - yng anghyfreithlon - fis Mawrth 1964 wedi ei sefydlu gan Wyddel o'r enw Ronan O'Rahilly ar long yn y môr ger Felixstowe.

Angorwyd Radio Caroline y gogledd oddi ar arfordir Ynys Manaw a honno oedd i'w chlywed yng ngogledd Cymru.

Ar amrantiad bedyddiwyd y fenter ryfeddol yn 'Pirate Radio' gyda rhai o DJs amlycaf y dyfodol yn caboli eu dawn ar y tonnau, Tony Blackburn yn ymuno a'r criw yn 21 oed fis Gorffennaf 1964 er enghraifft. Un arall o'r morladron oedd Johnnie Walker.

Er yn anghyfreithlon yr oedd Caroline y tu hwnt o boblogaidd a phan gaewyd hi a gorsafoedd eraill a'i hefelychodd yn dilyn pasio'r 'Marine Broadcasting Offences Act' yn 1967 sefydlodd y ´óÏó´«Ã½ Radio 1 yn syth gyda sawl un o'r morladron fel Tony Blackburn, Kenny Everett a John Peel yn cael torri eu cwys eu hunain yn gyfreithlon ar dir sych!

Ar fin ymddangos mae ffilm gan Richard Curtis a fydd yn ail fyw peth o gyffro a rhamant Radio Caroline, The Boat that Rocked gyda'r Cymro, Rhys Ifans (llun uchod) yn chwarae rhan DJ Gavin y mae Americanes a chwaraer gan January Jones yn syrthio mewn cariad ag ef.

Cyfle unwaith eto i arwr 'Notting Hill' wneud ei farc.

Kate Crockett yn westai

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 10:47, Dydd Mercher, 4 Mawrth 2009

Sylwadau (0)

Gwahoddwyd Kate Crockett, cyflwynydd Stiwdio ar ´óÏó´«Ã½ Radio Cymru i gyfrannu i'r blog yr wythnos hon. Bydd yn cyfrannu'n rheolaidd yn y dyfodol hefyd.

Deiliad cyntaf Cadair Emyr Humphreys
Ar Stiwdio'r wythnos hon, rydym yn clywed gan ddeiliad cyntaf Cadair Emyr Humphreys ym Mhrifysgol Abertawe - M Wynn Thomas.

Mae'r gadair, sydd wedi'i henwi er anrhydedd i'r nofelydd sydd yn dathlu ei ben-blwydd yn 90 oed cyn hir, yn gydnabyddiaeth i waith Wynn fel Cyfarwyddwr cyntaf canolfan CREW - Canolfan Ymchwil i Lên ac Iaith Saesneg Cymru.

Ar un adeg, ymylol iawn oedd unrhyw astudiaethau ar lenyddiaeth o Gymru yn adrannau Saesneg ein prifysgolion - ond mae'r darlun wedi gwella dros y blynyddoedd diolch i ymdrechion academyddion fel Wynn.

Ond faint o blant ysgol sydd yn dysgu am lenorion fel Emyr Humphreys, Alun Lewis, ac Idris Davies? Ychydig iawn, meddai wrthyf yn bryderus.

Cerddi R.S.Thomas a rhyw dwts o Dylan oedd yr unig lenyddiaeth Saesneg o Gymru i fi astudio yn yr ysgol ers talwm - byddai'n braf credu bod pethau wedi gwella erbyn hyn.

Awdur ifanc sy'n gwneud ei marc yn Saesneg yn ogystal ag yn Gymraeg yw Catrin Dafydd. Ei bwriad wrth ysgrifennu Random Deaths and Custard oedd portreadu bywyd disgyblion ysgolion Cymraeg y cymoedd - a bellach mae'r llyfr wedi cyrraedd rhestr fer cystadleuaeth Spread the Word: Books to Talk About 2009.

Aelodau o'r cyhoedd sy'n pleidleisio yn y gystadleuaeth hon - a bydd enw'r llyfr buddugol yn cael ei gyhoeddi mewn seremoni nos Iau - diwrnod y llyfr.

Pob hwyl Catrin!

Kate Crockett yn westai

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 10:39, Dydd Mercher, 4 Mawrth 2009

Sylwadau (0)

rowena-edwards.jpg

Cadw'r pethau bychain
Os bydd yr artist ifanc o Landwrog, Rowena Edwards, yn llwyddo i ennill cymaint o enwogrwydd a'i harwres, Tracey Emin, yna fydd dim angen twrio i unrhyw fin i ddod o hyd i fân betheuach ei bywyd hi.

Yn ei stiwdio fechan yng nghartref ei rhieni yn Llandwrog, mae Rowena wedi casglu pob math o fflwcs - pethau a fyddai'n sbwriel i chi a fi, ond rhywsut, o'u gosod gyda'i gilydd, sy'n creu cyfanwaith artistig.

Gwnewch y pethau bychain meddai Dewi, ond cadwch y pethau bychain yw arwyddair Rowena, wnaeth arddangos ei gwaith yn Oriel Dafydd Hardy yng Nghaernarfon yn ddiweddar.

Mae Rowena, sydd yn fyfyrwraig yng ngholeg celf Chelsea, ar fin teithio i Siapan i chwilio am ysbrydoliaeth - fe gewch chi glywed mwy ganddi ar Stiwdio ar nos Iau Mawrth 5, 2009.

Kate Crockett yn westai

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 10:24, Dydd Mercher, 4 Mawrth 2009

Sylwadau (0)

Gwahoddwyd Kate Crockett, cyflwynydd Stiwdio ar ´óÏó´«Ã½ Radio Cymru i gyfrannu i'r blog yr wythnos hon. Bydd yn cyfrannu'n rheolaidd yn y dyfodol hefyd.

Deunydd Material Girl
Does dim angen darllen Vogue y diwrnodau hyn er mwyn darllen am ffasiwn.

Drannoeth yr Oscars, mae'r papurau newydd - tabloids a thrymion - yn llawn lluniau o'r ffrogiau, gyda geiriau arbenigwyr naill ai'n eu barnu'n arobryn neu'n eu cael yn syrthio'n brin o'r nod.

Nid pawb sy'n gwirioni'r un fath ac mae hynny'n arbennig o wir am feirniaid ffasiwn - sy'n galondid i'r rhai fel fi sy'n deall y nesaf peth i ddim am ddillad.

Ond yn ddiweddar cefais gwmni un sydd yn gallu gwahaniaethu rhwng ei bias cuts a'i princess seams - Elin Davies, y doctor steil, wrth ymweld ag arddangosfa o ddillad Madonna mewn hen fragdy oddi ar Brick Lane yn nwyrain Llundain.

madonna.jpg

Rhaid cyfaddef fy mod ar hyd y blynyddoedd, fel miloedd o ferched eraill ar draws y byd - wedi prynu ambell ddilledyn er mwyn efelychu'r arwres hon - ond yn ôl Elin, mae Madonna hefyd wedi dylanwadu'n fawr ar gynllunwyr ffasiwn ac ar yr hyn sy'n cael ei werthu ar y stryd fawr.

Ymhlith trysorau'r arddangosfa roedd y ffrog a wisgodd yn y fideo eiconig i'r gân Material Girl , y jîns a achosai'r hyn a elwir ar lafar gwlad yn builder's bum yn y fideo American Pie, a chasgliad go helaeth o'r dillad hyfryd a wisgodd Madonna i chwarae rhan Eva Peron yn y ffilm Evita.

Byddai'r casgliad hwn ynddo'i hun yn werth ymweliad i unrhyw ffan - ond rhaid cyfaddef i'r profiad gael ei ddifetha i raddau gan fod y dillad wedi'u gosod ar ddymis di-chwaeth gyda gwallt gosod synthetig.

Edrychai'r ddau ffigwr a chwifiai oddi ar falconi'r Casa Rosada yn debycach i Ken a Barbie nag i Jonathan Pryce a Madonna (heb sôn am Juan ac Eva Peron).

Yn ogystal â'r dillad, mae'r arddangosfa hefyd yn cynnwys cloriau cylchgronau a recordiau, posteri, crysau T, a phob math o fân drugareddau fyddai wedi hen gyrraedd y bin sbwriel pe baen nhw'n eiddo i feidrolyn cyffredin:
Hen gerdyn credyd (wedi'i dorri'n ei hanner, wrth gwrs) a thudalennau o Ffeil o Ffaith Madonna o'r 80au. Mae'n amlwg y byddai gweithio fel dyn y bins yn Hollywood yn swydd allai dalu'i ffordd.

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.