´óÏó´«Ã½

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Dalennau prysur

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 08:14, Dydd Iau, 7 Mai 2009

Cylchgronnau

Beth bynnag sy'n digwydd ar ddalennau'r wasg Gymraeg ar hyn o bryd mae digon o newyddion oddi ar y tudalennau - gyda newid yn sawl lle.

Ers pythefnos mae Y Cymro wedi ennill golygydd newydd wrth i William Owen drosglwyddo'r awenau i Dylan Halliday a fu gyda Phapurau'r Herald.

Dros yr un cyfnod collodd y papur ddau o'i golofnwyr, y pigog Colin B Jones a'r di-flewyn ar dafod Gwilym Owen.

Cafwyd olynydd i'r pigog ym Madog Mwyn ond hyd yn hyn ni chyhoeddwyd a ddaw rhywun mwynach yn lle Gwilym Owen hefyd.

Gwelodd Barn newidiadau hefyd wrth i Dyfrig Jones ymollwng â'r olygyddiaeth yn sgil cael ei benodi'n aelod o awdurdod S4C gan adael ei ddau gyd-olygydd, Vaughan Hughes a Menna Baines mewn gofal.

Fodd bynnag, penodwyd tua'r un pryd Bethan Mair - Gwasg Gomer gynt a Chwlwm Cyhoeddwyr Cymru bellach - yn "Gyfarwyddwr Cyhoeddi" Barn gan addo, yn Golwg y bydd yn "rhoi fy mys ym mhob briwes ynglŷn â'r cylchgrawn" gan ymresymu fod "pâr o lygaid newydd yn gallu goleuo pobol sydd wedi bod yn gwneud yr un peth ers amser i'r math o bethau alle gael eu gwneud yn well."

Mae rhywun yn teimlo fel ychwanegu ! at osodiad fel yna - ac efallai fod y golygyddion eisoes wedi gwneud - ond wna i ddim. Dim ond gwylio Barn am oleuni pellach.

A sôn am Golwg mae hi'n ddyddiau difyr yno hefyd gyda gwefan newydd y cylchgrawn yn gweld golau dydd Mai 15 - Golwg 360, a sefydlwyd gyda grant y Cynulliad. Arian, y mae rhai yn dal i feddwl ddylai fod wedi mynd i Ned Thomas greu Byd newydd.

A sôn am grantiau mae Taliesin eisoes yn teimlo'r esgid fach yn gwasgu yn dilyn dyfarniad diweddaraf y Cyngor Llyfrau i gylchgronau.

I wneud iawn am gwtogiad mewn grant bu'n rhaid codi pris y cylchgrawn o £4 i £6.95 gyda'r golygyddion yn "mynegi ein pryder ynghylch y penderfyniad i godi'r pris i'r fath raddau mewn un naid".

Ond y maen nhw hefyd yn ymrwymo i ymdrechu "fel erioed" i ddarparu'r gwerth gorau am arian ym mhob rhifyn - "o ran cynnwys a diwyg".

A chyda'r fath ymroddiad pwy a ŵyr na fydd cynnydd mewn cylchrediad a'r incwm newydd yn caniatáu gostyngiad yn y pris.

Dyna fyddai stori.

A thybed ai yn y cylchgrawn newydd o'r Lolfa y gwêl hi olau dydd.

Bydd y Lolfa yn treialu ei gylchgrawn newydd, Sylw, dros gyfnod yr Eisteddfod Genedlaethol gyda £3,000 o arian y Cyngor Llyfrau yn talu am yr ymarferiad. Y tro cyntaf i'r math yna o beth ddigwydd ac yn rhywbeth nad yw'n cael ei ystyried y ffordd decaf o weithredu yng ngwersyll Barn a'r cylchgrawn hwnnw yn ystyried ei fod ef wedi ei roi ar flwyddyn o brawf gan y Cyngor ac yn ben-ben a Sylw.

Ydi wir, mae'r wasg Gymraeg yn un i gadw llygaid arni - ond un cylchgrawn na fydd yn gwneud hynny eleni yn ôl y sôn ydi Dim Lol gan nad yw'n fwriad cyhoeddi un ar gyfer y Steddfod.

Dim Dim Lol efo ! yn bennawd sy'n cynnig ei hun .

A rhag i neb feddwl mai ond yn y Gymraeg mae cynyrfiadau. Mae Planet wedi datgan y bydd yn cael ei gyhoeddi bob chwarter o hyn allan.

Cyhoeddiad sy'n syndod arbennig i'r rhai hynny oedd yn meddwl mai chwarterol oedd o beth bynnag!

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.