´óÏó´«Ã½

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Blooming grêt

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 09:39, Dydd Gwener, 5 Mehefin 2009

Mae'n arferiad dweud, pe byddai dinas Dulyn yn cael ei dinistrio y gellid ei hailgreu unwaith eto o ddilyn dalennau nofel fawr James Joyce, Ulysses, gan mor fanwl yw'r disgrifad o'r ddinas yn honno
.
Y mae Ulysses a gyhoeddwyd yn 1922 yn un o nofelau'r ugeinfed ganrif y bu'r mwyaf o drafod ac anghydweld ynglyn â hi.

A Joyce wedi troi'n alltud erbyn hynny; ym Mharis y cyhoeddwyd hi gyntaf gan berchen siop lyfrau o'r enw Shakespeare, Sylvia Beach.

Cyn hynny ymddangosodd fesul darn mewn cylchgrawn Americanaidd, The Little Review, tra'r oedd Joyce yn dal i'w sgwennu.

A'r Little Review eisoes wedi ei erlyn am gynnwys darn yn disgrifio hunan-foddhad rhywiol meddiannodd swyddogion y tollau gopiau o'r llyfr gorffenedig a'i wahardd yn yr Unol Daleithiau tan 1933.

Yn naturiol, doedd o ddim yn dderbyniol yn Iwerddon Babyddol ychwaith.

Gyda 264,834 o eiriau mae'r nofel wedi ei rhannu'n ddeunaw pennod sy'n dilyn diwrnod ym mywyd y prif gymeriad, Leopold Bloom, yn Nulyn ar Fehefin 16, 1904 gyda'r ddinas ei hun cyn bwysiced a'r bobl yng ngolwg Joyce wrth iddo roi sylw i'r manylyn lleiaf wrth sgrifennu.

Hynny barodd iddo ddweud wedyn: "Pe byddai i Ddulyn ddiflannu'n ddisymwth oddi ar wyneb Daear fe ellid ei hailadeiladu o'r llyfr hwn."

Y farn gyffredinol yw nad yw hi'n nofel 'hawdd' er bod rhai yn cwyno i ormod gael ei wneud o'r syniad ei bod yn anodd i'w darllen - ond fe fyddech yn ei chael yn anodd dod o hyd i rywun sydd wedi ei darllen bob gair a'i deall!

Dilyn mae'r stori ddiwrnod arferol o fore gwyn tan nos ym mywyd casglwr hysbysebion, Leopold Bloom o dras Iddewig, a'i grwydriadau drwy strydoedd Dulyn.

O'r teitl mae'r gyferbyniaeth â chwedl Roegaidd Ulysses yn amlwg gyda phob pennod yn y nofel yn cyfateb i benodau yn Odyssey Homer.

Ei wraig anffyddlon, Molly, yw Penelope yr Odyssey a Stephen Dedalus, yr olaf o'r triawd o brif gymeriadau ydi Telemachus y chwedl Roegaidd.

Er y gyferbyniaeth amlwg tramgwyddus fyddai ceisio priodi holl elfennau yr Odyssey a holl elfennau Ulysses ond y mae'n arwyddocaol nad oes bodlonrwydd ar ddiwedd dydd i Leopold na Stephen wedi eu crwydriadau drwy'r ddinas/bywyd.

Un o hynodion y nofel yw myfyrdod maith Molly ynglyn â phwrpas bywyd tua'r diwedd. Un frawddeg faith heb unrhyw atalnodi ar ei chyfyl ac yn gorffen gyda'r un gair Yes.

Mae dau reswm dros hel meddyliau fel hyn yn awr.

Yr ydym am drothwy Mehefin 16 sy'n cael ei ddathlu bob blwyddyn er 1954 yn Nulyn fel Bloomsday gyda phob math o weithgareddau - gan gynnwys ymweliadau â lleoedd yn y nofel gyda nifer o'r rhai sy'n cymryd rhan wedi eu gwisgo yn nillad y Dauddegau.

Gyda'r gweithgareddau eleni yn cychwyn ar Fehefin 7 gan ymestyn i Fehefin 16 fe fydd yna frecwestau, darlleniadau, ffilmiau ac yn y blaen yn ogystal â theithiau tywys.
Fel rheol mae'n wythnos / diwrnod gwych i fod yn Nulyn!

Rheswm arall dros sôn am gampwaith Joyce yw fod llyfr newydd wedi ei gyhoeddi am y nofel; Ulysses and Us: The Art of Everyday Living gan Declan Kiberd (Faber. £14.99) sy'n dadlau i lyfr Joyce gael ei gamddarllen a'i gamddeall gan genedlaethau o ddarllenwyr a beirniaid gan ddweud mai nofel am bobl gyffredin i bobl gyffredin yw hi.

Ac ynglyn â'r cyhuddiad o fod yn llyfr anodd mae'n gofyn:
"Pam mae o wedi cael ei alw yn anarllenadwy gan y bobl gyffredin y'i agrfennwyd ar eu cyfer?"

Er mwyn sicrhau gwell dealltwriaeth yn y dyfodol mae'n cynnig eglurhad bennod wrth bennod yn ei lyfr ar gyfer y darllenwyr cyffredin hynny fel y gallant weld o'r newydfd nofel "a sgrifennwyd i ddathlu byw bob dydd pobl gyffredin".

Pa well rheswm i dynnu'r nofel drwchus oddi ar y silff unwaith eto a rhoi cynnig arall ar ei darllen?

Ond rhowch ddigon o amser i chi'ch hun!

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.