´óÏó´«Ã½

Archifau Gorffennaf 2009

Adroddiad traffig

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 14:01, Dydd Gwener, 31 Gorffennaf 2009

Sylwadau (0)


Dydi tagfeydd traffig ddim yn bethau y mae rhywun yn eu cysylltu â maes yr eisteddfod.

Ar y ffyrdd oddi allan sy'n arwain at y maes, ie. Mae rhywun wedi hen arfer sefyll yn stond mewn ciw ar y rheini.
tagfa

Y meysydd parcio hefyd. Ond nid maes yr Eisteddfod ei hun.
Ond bnawn Gwener roedd un rhan o'r maes yn atgoffa rhywun o gornel go brysur yng Nghaerdydd ar ddechrau neu derfyn dydd.

Ond bydd y traffig wedi clirio a'r dagfa wedi diflannu erbyn y bydd eisteddfodwyr yn cyrraedd ddydd Sadwrn. Wel, tagfa'r maes o leiaf. Cawn weld sut y bydd hi ar y ffyrdd.

Maesu llwyddiannus

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 11:01, Dydd Gwener, 31 Gorffennaf 2009

Sylwadau (0)

Wrth gwrs bod yna fwd ar faes yr Eisteddfod.
"Ac fe ddowch chi o hyd iddo fo ond ichi chwilio'n iawn," fel y dywedodd rhywun.

A chyda'r haul yn wincio'n chwareus heddiw chwysu yn hytrach na chadw'n sych mae traed rhywun yn ei esgidiau glaw,

Ac mae'r trefnwyr wedi gwneud joban cystal â'r rheng flaenaf o ffiwsilwyr Macalpein i drefnu ffyrdd sychion y gall cerbydau eu defnyddio i stocio'r amryfal stondinau.

Mae'n gwneud ichi feddwl iddyn nhw fod wedi gneud rhywbeth tebyg o'r blaen!

Hel merched?

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 10:19, Dydd Gwener, 31 Gorffennaf 2009

Sylwadau (0)

Fy mwriad bore yw bod yn y Babell Lên am ddau o'r gloch y pnawn.

Ar ôl clywed mai pwnc sesiwn yno yw, "O M Edwards a merched yn 1909".

Ond rwy'n amau nad yw'r darlithydd, Mari Emlyn, yn meddwl ar yr un llinellau - ac er y teitl addawol awgrymog tebyg bydd y drafodaeth yn llai Sun ac yn fwy Cymru Coch!

Cawn weld.

Sain gwybod

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 01:44, Dydd Gwener, 31 Gorffennaf 2009

Sylwadau (0)

Felly, mae hi'n ddeugain mlynedd ers sefydlu Sain. Pwy feddyliai yn 1969 y byddai'r cwmni a sefydlodd Dafydd Iwan, Huw Jones a Brian Morgan Edwards 'yma o hyd' fel petai.

A hynny'n dilyn sgwrs ar stesion Afonwen os ydw i'n cofio'n iawn!

Beth bynnag, mae yna gyngerdd i ddathlu'r achlysur yn y Pafiliwn nos Lun am wyth.

Record Huw Jones, ¶Ùŵ°ù, oedd un gyntaf y cwmni gyda Fy Ngwlad fy Hun ar yr ochr arall.

Record gyntaf Sain

Ac yr oedd Huw yn ôlddeuddeng record ar hugain yn ddiweddarach gyda Dwi Isio Bod yn Sais ar Sain 33.

Un arall o'r sefydlwyr, Dafydd Iwan, oedd yr ail i recordio, Myn Duw mi a Wn y Daw .

Ar y bedwaredd record y clywyd un arall sy'n dal yn enw mawr heddiw ac a fydd yn y cyngerdd nos Lun, Mike Stevens gyda'r Brawd Houdini.

Mae amryw yn cysylltu cân wrth-arwisgo feiddgar Dafydd Iwan, Carlo - gyda'r Dyn Pwysig yr ochr arall - efo'r cwmni newydd a mentrus, Sain, hefyd ond ar label Recordiau Teldisc rai misoedd cyn bodolaeth Sain y cyhoeddwyd y rheini.

Tybed faint o'r recordiau hyn sy'n dal yn eich meddiant chi - a pha mor ddi-dor yw eich casgliad o recordiau Sain?

Un, dau, bwlch, pedwar, bwlch, chwech, saith ac yn y blaen gyda nifer o fylchau ydi'n 'record' salw i fel casglwr!

Moli Meirion ond Môn yn y Meddwl

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý,Ìý

Glyn Evans | 16:50, Dydd Mercher, 29 Gorffennaf 2009

Sylwadau (0)

Yn ei feddwl mae rhywun yn cysylltu Meirionnydd ag eisteddfodau da.

Ond ers dechrau'r ganrif ddiwethaf dim ond pedair gwaith yr ymwelodd y Brifwyl â'r 'cyffiniau' - Corwen 1919, Dolgellau 1949, Y Bala 1967 a'r Bala eto yn 1997.

Mae Eisteddfod Dolgellau 1949 o ddiddddordeb arbennig i mi gan mai yno yr enillodd John Eilian ei goron genedlaethol.

Daeth y ddau ohonom yn eithaf ffrindiau pan oeddem yn cydweithio ar bapurau'r Herald yng Nghaernarfon ddiwedd y Saithdegau - ef yn olygydd y grwp a minnau'n gynorthwydd iddo.

John  Eilian

Enillodd ei goron am bryddest ar y teitl Meirionnydd gyda Gwenallt, William Morris a Iorwerth Peate yn beirniadu.

Yr oedd wedi ennill y gadair ym Mae Colwyn ddwy flynedd ynghynt, 1947, am ei awdl Maelgwn Gwynedd a gyfansoddodd ar 'fesur Madog' anodd ei arwr T Gwynne Jones.

Un o Fôn oedd John Eilian ac yn ymhyfrydu yn hynny ac rwy'n ei gofio'n dweud iddo gael ei holi wedi buddugoliaeth Dolgellau sut y gwyddai un o Fôn gymaint am leoedd ym Meirionnydd a gallu canu mor dwymgalon amdanyn nhw .

Eglurodd uro iddo fod yn astudio map ordnans yn drwyadl i gael yr enwau i'w defnyddio yn y bryddest.

Ond ychwanegodd mai ei deimladau tuag at Fôn sydd yn y gerdd mewn gwirionedd - pryddest sy'n dangos perthynas dyn â'i fro ac y dywedodd William Morris amdani "na threiddiodd yr un o'r beirdd cyn ddyfned i fywyd Meirionnydd" ag y gwnaeth ei hawdur!

Yn Dori rhonc, yn frenhinwr i'r carn yr oedd John Eilian yn ddyn a ystyriai berthynas â bro yn rhywbeth tu hwnt o bwysig.

Dyn o natur bendefigaidd, nad oedd yn gymeradwy yng ngolwg llawer oherwydd ei ddaliadau gwleidyddol, ond dyn a oedd yn ddyn bro ymhell cyn bo sôn am bapurau ac ysgolion bro!

Hen luniau'n dwyn atgofion

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 09:34, Dydd Mercher, 29 Gorffennaf 2009

Sylwadau (0)

Mae Rhaglen y Dydd Y Bala yn dangos traul yn barod wrth i rywun chwilio a chwalu am bethau i'w gwneud yn ystod yr wythnos.

Yr arwyddion hyd yn hyn yw y bydd eithaf cefnogaeth i weithgareddau dan do - y Babell Lên, Theatr Fach y Maes, Y Lle Celf ac yn y blaen - gan ei bod yn ymddangos ar y funud na fydd y tywydd yn ffafrio crwydro'r maes.

Yn wir, ella y cawn ni bafiliwn llawn - rhywbeth na ddigwyddodd yn ystod y blynyddoedd diwethaf hyd yn oed ar gyfer y prif seremonïau.

Ychwanegiad hynod ddifyr i Raglen y Dydd ers rhai blynyddoedd bellach yw'r detholiad o hen luniau sy'n cael eu cynnwys - a dydi Rhaglen Eisteddfod Meirion a'r Cyffiniau ddim yn eithriad. Mae yma sawl llun difyr.

Y diweddar Tom Jones Llanuwchllyn, ifanc iawn yr olwg, yn Ysgrifennydd Cyffredinol Eisteddfod 1949 ym Meirionnydd er enghraifft a'r Archdderwydd Wil Ifan yn cadeirio Rolant o Fôn yn yr un Eisteddfod.

Coroni Eluned Phillips.jpg

O'r Bala, mae llun coroni Eluned Phillips yn 1967 gyda Cynan, cofiadur yr Orsedd ar y llwyfan a Dilwyn Miles urddasol, fwstasiog, yn geidwad y cledd.

Ond faint ohonyn nhw yn y llun ydych chi'n eu hadnabod - yr Archdderwydd er enghraifft, pwy oedd o yn '67?

Ioan Gruffudd ymhlith yr helyg

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý,Ìý

Glyn Evans | 07:54, Dydd Gwener, 24 Gorffennaf 2009

Sylwadau (0)

Cyhoeddwyd ddechrau'r wythnos mai ffilm nesaf Ioan Gruffudd fydd un am awdur y nofel Saesneg, The Wind in the Willows.

Mae'n rhywfaint o syndod sylweddoli fod digon o hanes i Kenneth Grahame - ysgrifennydd Banc Lloegr yn ei ddydd - i'w wneud yn destun ffilm.

Ond yr oedd yn fywyd digon diddorol i ddenu'r cyfarwyddwr Bruce Beresford a fu'n gyfrifol am Driving Miss Daisy yn y Nawdegau. Ymddengys y bydd yn canolbwyntio ar ymdrechion Grahame a'i wraig i fagu plentyn awtistig droad y y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Crybwyllwyd Samantha Morton fel yr actores sydd debycaf o chwarae, Elspeth, gwraig Grahame, gyferbyn a Ioan Gruffudd.

Ioan Gruffudd

Yn llyfr i blant mae The Wind in the Willows yn cael ei ystyried yn 'glasur' Saesneg ond a ddifethwyd i filoedd o blant trwy gael ei gyflwyno fel rhan o'n gwersi ysgol!

Un o Gaeredin oedd Kenneth Grahame er iddo gael ei fagu yn yn Argyll lle symudodd y teulu pan oedd Kenneth gwta flwydd oed.

Ond doedd ei blentyndod yn Inveraray yn y sir honno ddim yn un hapus. Pan oedd yn bump oed bu farw ei fam o'r dwymyn goch yn 1864 gan beri i'w dad, Cunningham, droi at y botel am gysur.

Gan na allai edrych ar ôl ei bedwar o blant symudwyd hwy at eu nain, o ochr eu mam, oedd yn byw yn Berkshire.

Dywedodd mai ei ddwy flynedd yno mewn ty sylweddol wedi ei osod mewn gardd fawr ar lannau Tafwys yn Cookham Dene oedd rhai hapusaf ei fywyd.

Yma y tyfodd ei gariad at yr afon ac at hwylio ond bu' rhaid symud i dÅ· llai rai milltiroedd i ffwrdd pan gwympodd y simnai.

Symudwyd eto yn 1866 - at eu tad yn Argyll ond a'r ddiod yn dal yn wendid symudodd hwnnw i Ffrainc gan adael y plant.

Kenneth oedd yr unig un o'i blant i fynychu ei angladd yn 1887 wedi ugain mlynedd heb gysylltiad o gwbl.

Er gwaethaf cychwyn sâl disgleiriodd Kenneth Grahame yn academaidd gan ragori mewn diwinyddiaeth a Lladin ond pan wrthododd ei ewythr dalu iddo fynd i Rydychen trodd ei olygon at fancio yn hytrach na gyrfa academig ond y mae yr unig un erioed yn hanes Banc Lloegr i ennill marciau llawn am draethawd Saesneg yn yr arholiad mynediad..

Ymunodd â'r Banc yn glerc yn 1879.

Yr oedd ei waith sgrifennu cynnar yn ymnweud a theulu o blant amddifad ond er iddo gyhoeddi straeon nid oes amheuaeth mai The Wind in the Willows yw ei gofadail.

Ond yr oedd yn ddyn y mynnai bywyd droi yn ei erbyn rywsut. Priodas anhaopus oedd ei un ef ag Elspeth Thomson gyda'u hunig blentyn, Alastair, yn blentyn salw anodd ei drin ac yn ddall o'i enedigaeth mewn un llygaid.

Lladdodd ei hun ar ochr rheilffordd pan yn fyfyriwr yn Rhydychen ddeuddydd cyn ei ben-blwydd yn ugain oed yn 1920.

Salwch ddaeth â gyrfa Grahame i ben ym Manc Lloegr hefyd, gyda'i ymddeoliad yn 1908 ac yntau'n ysgrifennydd y banc.

Cyn hynny, yn 1903, saethwyd ato deirgwaith pan gerddodd dyn i'r banc ryw ddiwrnod a gofyn am weld y Rheolwr. Gan nad oedd hwnnw yno, Grahame, fel yr ysgrifennydd, aeth i'w weld a thynnodd y dyn wn o'i boced. Yn ffodus, methodd y dyn a'i daro gyda'r un o'i dair ergyd.

Manteisiodd ar ei ymddeoliad i gwblhau The Wind in the Willows wedi ei sylfaenu ar straeon amser gwely fyddai'n eu hadrodd i'w fab.

Fel sy'n digwydd mor aml, gwrthodwyd y straeon sawl tro gan gyhoeddwyr nes i Methuen weld eu gwerth yn 1908.

Er mai claear, ar y gorau, oedd ymateb yr adolygwyr yr oedd darllenwyr cyffredin wrth eu boddau a bu'n rhaid ail argraffu sawl gwaith. Ymhlith yr edmygwyr yr oedd yr Arlywydd Roosevelt a ofynnodd am gael cyfarfod yr awdur pan ddaeth i ddarlithio yn Rhydychen yn 1910.

Wedi'r 'opus'sgrifennodd Grahame fawr ddim wedyn. Bu farw Gorffennaf 6, 1932, a'i gladdu yn yr un bedd a'i fab ym mynwent Holywell, Rhydychen gyda'r geiriau, "To the beautiful memory of Kenneth Grahame, husband of Elspeth and father of Alistair, who passed the river on the 6th of July 1932, leaving childhood and literature through him the more blest for all time."

Mae The Wind in the Willows yn dal mewn print ac wedi ei addasu sawl gwaith ar gyfer radio a theledu.

Sefydlwyd y Kenneth Grahame Society er cof amdano ac i hyrwyddo ei nofel - neu fel y dywed y gymdeithas yn ei hamcanion "i hyrwyddo a lledaenu y bydysawd o amgylch The Wind in the Willows" Cyhoeddodd ei 75 mlynedd wedi ei farwolaeth yn 2007.

Dyma'r cymeriad astrus y bydd Ioan Gruffudd yn mynd i'r afael ag ef.
Edrychwn ymlaen.

Nofel Steddfod i'r Steddfod

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 08:32, Dydd Iau, 23 Gorffennaf 2009

Sylwadau (1)

Nid yn aml yr ydym yn cael llyfr ar gyfer wythnos yr Eisteddfod sydd yn gwbl berthnasol i'r digwyddiad ei hun.

Eleni, fodd bynnag, mae nofel ddiweddaraf Lleucu Roberts yn ymwneud â dau gwpwl sy'n aros ar faes carafanau Steddfod Y Bala.

Yn Y Ferch ar y Ffordd mae'r wraig yn fenyw barchus hunandybus sy'n hyfforddi partïon cerdd dant a llefaru ond ei gŵr â mwy o ddiddordeb mewn meddwi na chystadlu.

"Cawn ddigwyddiadau llawn hiwmor wrth dreulio wythnos yn y Maes Carafanau yng nghwmni'r cwpwl, a chwpwl arall sy'n hen ffrindiau iddynt, ond wrth i'r atgofion lifo'n ôl mae yna greithiau o'r gorffennol yn dod i'r wyneb," meddai Lefi Gruffudd o Wasg y Lolfa sy'n cyhoeddi'r llyfr sy'n cael ei ddisgrifio fel un "ymddangosiadol ysgafn" ond yn cynnwys "elfennau difrifol a sinistr".

"Mae'r nofel yn llawn hiwmor a dychan fydd yn siŵr o daro tant gyda phawb fydd yn heidio i'r Bala yn eu carafannau, gydag un llygad wedi ei hoelio ar weithgareddau'r Pafiliwn a'r llall yn crwydro i far Brains, meddai Lefi.

LLeucu Roberts, canol, yn derbyn Gwobr Tir naNog yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2009

Mae Lleucu Roberts yn prysur ennill ei phlwyf fel awdur gyda'i nofel Annwyl Smotyn Bach wedi ennill un o wobrau Tir na Nog eleni.

Ac i'r rhai hynny sy'n ecio tipyn o dw - neu am rywbeth i'w wneud heblaw eistedd yn eu carafan yn Y Bala - bydd disgwyddiad i nodi cyhoeddi'r nofel ar Faes C nos Sul y Steddfod am 7:30.

Mae'n debyg mai'r nofel ddiwethaf i'w cyhoeddi yn ymwneud yn uniongyrchol â'r Eisteddfod Genedlaethol oedd Un Diwrnod yn yr Eisteddfod gan Robin Llywelyn a enillodd Wobr Goffa Daniel Owen yn yng Nghasnewydd 2004.

Nofel eisteddfodol arall, sydd siŵr o fod hen allan o brint erbyn hyn, yw nofel dditectif y diweddar John Ellis Williams am brifardd y Gadair yn cael ei saethu ar y llwyfan yn ystod y seremoni - nofel a gyfieithwyd i'r Saesneg dan y teitl Murder at the Eisteddfod ac a gyhoeddwyd gan Wasg Gomer yn 1973.

Un peth yr oedd yr awdur yn falch iawn ohono am yn nofel honno oedd sut y gallodd 'guddio' yr ergyd o wn y llofrudd mewn pafiliwn llawn o filoedd o bobl.

Wnai ddim bradychu'r gyfrinach - dim ond dweud na allai'r nofel fod wedi gweithio y dyddiau hyn o gamerâu digidol.

Tybed oes gennych chi hoff lyfr steddfod - anfonwch air.

Brwydr Sylw-Barn - bwrw'r goelbren gyntaf

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 11:08, Dydd Mawrth, 21 Gorffennaf 2009

Sylwadau (0)

Saith i un o blaid Barn oedd hi yn y gystadleuaeth â Sylw ar y rhaglen radio Wythnos Gwilym Owen.

Gwahoddwyd wyth i'r stiwdio i bwyso a mesur y ddau gylchgrawn fydd yn cystadlu am grant cylchgrawn materion cyfoes y Cyngor Llyfrau Cymraeg.
Grant sydd ar hyn o bryd yn mynd i Barn.

Bydd panel grantiau'r Cyngor yn dod i benderfyniad fis Tachwedd a fydd Barn yn cadw'r nawdd ynteu a fydd yn mynd i'r cylchgrawn newydd Sylw y cyhoeddwyd rhifyn enghreifftiol ohopno gan Y Lolfa ar gyfer Eisteddfod Y Bala.

Cysgod Syle tu ol i Barn
Daw y panel grantiau i benderfyniad wedi cymharu hwnnw â rhifyn o Barn ac yn dilyn ymateb grwpiau ffocws a drefnir gan gwmni ymgynghoriaeth annibynnol Wavehill a fydd hefyd yn holi arbenigwyr ac unigolion.

Ond mae coelbren panelwyr Wythnos Gwilym Owen eisoes wedi ei thaflu.

Yn gynta fe fuo nhw'n trafod tegwch - neu annhegwch - y ffordd o bennu'r grant a dyma oedd ganddyn nhw i'w ddweud:

Meg Elis - llenor:
Ddim yn broses ddelfrydol ond byddai unrhyw broses yn cael ei phledu gan rywun.

Hywel Davies, newyddiadurwr:
O leiaf dan y dull gellir gweld dau gylchgrawn i'w cymharu.

Catrin Evans, cynhyrchydd teledu:
Yn broses y gallech godi cwestiynau ynglyn â hi oherwydd i Sylw gael yr holl amser i lunio un rhifyn. Byddai wedi bod yn well cymharu dau rifyn perthnasol ar gyfer yr un mis.

Catrin Fflur Hughes, darlithydd yn y gyfraith:
Manteision ac anfanteision i'r dull ond y maes chware heb fod yn lefel o safbwynt cymharu.

Gwyn Griffiths , colofnydd ac adolygydd:
Mewn gwlad lle mae llenyddiaeth a gwasg i bob pwrpas wedi eu gwladoli dywedodd y byddai'n anodd meddwl am unrhyw ffordd arall ond gwelai Sylw yn ffodus o fod wedi cael £5,000 i baratoi rhifyn lle gellidyn disgwyl iddynt wneud y peth am ddim a chynnal cylchgrawn heb grant am rai blynyddoedd fel ag yn hanes Barn na chafodd grant am rai blynyddoedd yn y Chwedegau. Y drefn heb fod yn deg â'r naill na'r llall.

Hafina Clwyd, newyddiadurwraig:Yn ymddangos yn system greulon dros ben ond yn cyfaddef na allai feddwl am ffordd arall well.

Adrian Morgan, myfyriwr ymchwil:
Ddim yn ddull delfrydol o bell ffordd. Wedi hoffi gweld rhedeg Sylw am ychydig o fisoedd er mwyn gweld amrywiaeth o rufynnau.

David Meredith, swyddog cysylltiadau cyhoeddus:
Gan y Cyngor mae'r arian a chanddyn nhw mae'r grym.

Pan ddaeth hi'n bleidlais o blaid y naill neu'r llall fel hyn yr aeth hi:
Meg Elis
Barn o drwch blewyn

Hywel Davies
Sylw ond pe byddai Barn yn cael ei ddewis fe fyddai ef yn tanysgrifio iddo am y tro cyntaf erioed

Catrin Evans
Barn oherwydd yn rhoi fforwm i bethau yng Nghymru lle nad oes na fforwm ar hyn o bryd. Ond mae angen cic yn y pen ôl

Catrin Fflur Huws
Barn oherwydd yn fwy ysgolheigaidd a meddylgar ond yn cytuno y gallai Sylw fod yn gic ym mhen ôl Barn trwy ddenu cynulleidfa ieuengach. Barn â gwersi i'w dysgu.

Gwyn Griffiths
Barn yn bendant oherwydd sgrifennu eithaf gwael yn Sylw - does dim sgwennu da ynddo fe.

Hafina Clwyd
Aros yn ffyddlon i Barn. Nid am fod y llall yn wael ond oherwydd bod cymaint o golofnau na allai eu darllen oherwydd y diwyg.

Adrian Morgan
Barn oherwydd bod yr ysgrifennu lawer yn well er bod Sylw yn rhoi llwyfan i leisau newydd ond Barn angen dylunydd newydd achos er bod y sgrifennu yn wych mae'n edrych yn ddiflas.

David Meredith
Wyth a hanner i Barn a saith a thrichwarter i Sylw a galw ar y Cyngor Llyfrau i beidio â rhannu'r genedl a rhoi digon o arian i gynnal y ddau.

Drosodd at y grwpiau ffocws ac at y panel grantiau yn awr a fydd yn gorfod penderfynu a fydd cynhaliaeth bywyd Barn yn cael ei dwyn oddi arno ar yr union adeg y mae'r cylchgrawn yn cychwyn cyfnod gyda golygyddion newydd nad ydynt wedi cael amser i brofi eu hunain hyd yn hyn.

Yn y pen draw bydd yn rhaid i'r Cyngor Llyfrau benderfynu a yw Sylw yn rhagori cymaint ar Barn ag i gyfiawnhau rhoi'r arian i'r Lolfa ac o bosib ladd Barn er mwyn i Sylw gael byw.

Dyw'r rhifyn enghreifftiol ddim yn awgrymu bod hynny'n digwydd - ond tybed beth feddyliwch chi . . .

Bydd yn bwnc trafod difyr ar faes y Steddfod.

Dic Jones a'r Bala

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 17:14, Dydd Llun, 20 Gorffennaf 2009

Sylwadau (0)

Heb amheuaeth bydd yn siom arbennig nad yw'r Archdderwydd Dic Jones yn gallu bod yn Eisteddfod Y Bala eleni.

Yn siom i eisteddfodwyr ac yn siom iddo yntau'n bersonol hefyd oherwydd wrth gael ei urddo'n Archdderwydd datgelodd fod i'r Bala, o bobman, le cynnes iawn yn ei galon.

Yn wir cyhoeddodd o'r Maen Llog y pnawn hwnnw i gymeradwyaeth y gynulleidfa;

"Pe bai'n rhaid imi i mi symud bro o'r fan lle'r ydw i'n byw fe fyddwn i naill ai'n mynd i fyw i Grymych neu i ardal Y Bala."

Dic Jones


Rheswm da pam bod Y Bala yn golygu cymaint iddo.

Yn Eisteddfod yr Urdd 1954 yn Y Bala yr enillodd ei gadair eisteddfodol gyntaf erioed.

"Ac yn yr Eisteddfod honno, noson lleuad lawn, ac edrychwch chi'n ôl yn eich almanaciau ichi gael gweld fy mod i'n dweud y gwir, fan hynny y dechreuodd Sian [ei wraig] a minnau 'ganlyn' ys dywedwch chi yn yr ardal hon ac fe fyddwn ni'n dal i wneud ambell i bererindod yn ôl i bentref Glanrafon," meddai.

Arhosai'r ddau ohonynt gyda theuluoedd o fewn ychydig ddrysau i'w gilydd yn y pentref hwnnw.

"Yma yn Y Bala hefyd y cefais i'n nerbyn i'r Orsedd , yma yn y Y Bala hefyd y cwrddais i a chymeriadau fel Ifan y Fet a Llwyd o'r Bryn ac yr es i i lefydd fel Tai'r Felin, Trawsfynydd a Hafod yr Esgob. Felly, rwy'n hoff iawn o'r Bala," meddai.

Cyhoeddi Eisteddfod Y Bala 2009


Cymuno o'r lleuad

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 16:49, Dydd Llun, 20 Gorffennaf 2009

Sylwadau (0)

Er cymaint yr hel atgofion fu yna am ddyn yn cyrraedd y lleuad ddeugain mlynedd yn ôl welais i neb yn cyfeirio at un peth braidd yn annisgwyl yr aeth Edwin Aldrin gydag ef i'r lloer.

Aeth ef â thamaid o fara cymun gydag ef.

Ac yntau'n flaenor yn Eglwys Bresbyteraidd Webster yn Houston, a'i wraig a'i dri o blant yn aelodau yno, aeth ef â darn o'r bara a ddefnyddiwyd mewn cymun cyn iddo ymadael.

Y bwriad oedd creu undod symbolaidd rhwng y gofodwr a'i gyd aelodau unwaith y cyrhaeddai'r lleuad.

Offrymwyd gweddïau am lwyddiant Apollo-11 ym mhob un o eglwysi'r Ganolfan Ofod yn Houston gyda gwraig Michael Collins a'u plant yn dathlu'r offeren yn Eglwys Gatholig Sant Paul.

Ond priod Neil Armstrong a'r plant yn cynnal eu "defosiwn" hwy mewn ystafell wely yn eu cartref wedi ymneilltuo am ychydig oddi wrth wahoddedigion oedd yno'n dathlu'r daith.

Ac yn y TÅ· Gwyn gyda'r Arlywydd Nixon yn bresennol darllenwyd deg adnod gyntaf Genesis gan y Cyrnol Borman a ddarllenodd yr un adnodau pan oedd lloeren Apollo-8 y gofalai amdani yn cylchu'r lleuad noswyl y Nadolig cynt.

Rhyfedd. Yng nghanol yr holl wyddoniaeth a hyder yng ngalluoedd dyn gwelwyd yr angen i chwilio hefyd am gymorth galluoedd na all yr un gwyddonydd eu hegluro.

Cariad Dafydd ap Gwilym?

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 07:06, Dydd Gwener, 17 Gorffennaf 2009

Sylwadau (0)

Nofel newydd hyfryd - gan awdur newydd - yr ydw i newydd fod yn ei darllen ydi Nest gan B Siân Reeves.

Cyfareddwyd yr awdur gan gyfeiriad at ferch o'r enw Efa yn un o gywyddau Dafydd ap Gwilym ac o holi tybed ai hi oedd gwir gariad Dafydd a'r ysbrydoliaeth y tu ôl i'w farddoniaeth lluniodd nofel sy'n datblygu'r syniad hwnnw.

Bethan Sian Reeves.jpg

Mae'n ddamcaniaeth sy'n gwefreiddio a thrwy'r nofel sy'n olrhain y berthynas rhwng y y Dafydd go iawn a'r Efa ddychmygol cawn olwg neilltuol ar gyfnod arbennig yn ein hanes sydd dan fygythiad Y Pla Du a'r berthynas rhwng gwahanol bobl a'i gilydd sy'n cynnwys Nest, merch Efa.

Mae Adolygiad o'r llyfr ar ein gwefan ac Atebion yr awdur i'n holiadur.

Beth tybed fydd eich barn chi am Nest.

Pen-blwydd Ben Hur

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 07:54, Dydd Mawrth, 14 Gorffennaf 2009

Sylwadau (0)

"Welsoch chi Oscar erioed?"
Cwestiwn Elen Roger Jones wrth imi adael ei chartref yn Sir Fôn ar ôl bod yn ei holi ar gyfer Y Cymro.

Yno, ar fwrdd ger y drws ffrynt, yr oedd y ddelw fechan a enillodd ei brawd am ei ran yn un o glasuron y sinema, Ben Hur yr ydym yn dathlu ei hanner canrif eleni.

Enillodd y ffilm 11 o Oscars i gyd ond dim ond un sy'n cryfrif i ni - yr un a enillodd Hugh Griffith am chwarae rhan Sheik Ilderim - perchennog y pedwar ceffyl gwyn a fenthycodd Ben Hur - Charlton Heston - i ennill y ras fawr sy'n uchafbwynt y ffilm.

Mae'r Oscar y cyfeiriodd y ddiweddar Elen Roger Jones ati gyda chymaint o edmygedd wrth fy annog i'w chodi a theimlo'i phwysau erbyn heddiw yng nghartref nai Hugh Griffith yn Llanbedrog.

Y mae Ben Hur yn un o'r ffilmiau hynny yr ydych yn dal i gofio lle gwelsoch chi hi gyntaf - Y Plaza ym Mangor gan eich bod chi'n holi - ond er mai Charlton Heston oedd yr arwr yng ngolwg y byd does dim amheuaeth mai rhan fechan Hugh Griffith 'wnaeth' y ffilm i ni.

Y Cymro Cymraeg a'r llygaid tân a barf branddu yn 'dwyn' y sioe wrth chwarae rhan yr Arabiad - a hynny heb golli dim o'i acen Gymraeg.

Ac yr oedd hynny yn wir am yr holl rannau a chwaraeodd ar lwyfan ac ar ffilm - waeth pa genedl a chwaraeai Cymraeg fyddai'r acen bob amser.

A'r hanes yw iddo dwyllo ei gyd actorion a chriw Ben Hur i gredu fod ganddo afael sicr ar yr Arabeg trwy sisial geiriau Cymraeg yng nghlustiau'r ceffylau a anwylai.

Yn gorffilyn bach yr oedd Hugh Griffith yn anferth o gymeriad a allai 'wneud' ffilm fel y gwnaeth gyda chynyrchiadau fel Tom Jones (Squire Western).

Ganwyd Hugh Emrys Griffith ddiwedd Mai 1912 ym Marianglas, Môn. Wedi gadael ysgol aeth i weithio yn y banc wedi iddo gael ei wrthod gan y btrifysgol am fethu ei arholiad Saesneg.

Yr oedd actio yn ei waed a symudodd i Lundain i fod yn nes at bethau ac ennill ei le yn y Royal Academy of Dramatic Arts. Wedi gwasanaeth yn yr India yn ystod yr Ail Ryfel Byd ymddangosodd mewn dros 40 o ffilmiau.
Bu farw ychydig cyn ei ben-blwydd yn 68 yn 1980.

Hanner can mlynedd yn ôl yr oedd Ben Hur yn garreg filltir o bwys. Nid yn unig yr oedd y fwyaf dramatig o 'epics' y cyfnod ond bu'n fodd i 'achub' stiwdio Metro Goldwyn Meyer a oedd mewn trafferthion ariannol dybryd ar y pryd.

Seilwyd y ffilm ar nofel gan Lew Wallace, Ben Hur - A Tale of the Christ a gyhoeddwyd yn 1880.

Milwr, cyfreithiwr a gwleidydd oedd Wallace ac yn fab i Lywodraethwr Illinois.

Bu'n ymladd mewn rhyfel rhwng yr Unol Daleithiau a Mecsico ac yn y Rhyfel Cartref. Wedi'r rhyfel hwnnw fe'i gwnaed yn llywodraethwr New Mexico pryd y cynigiodd bardwn i'r enwog William Bonney - Billy the Kid er na fanteisiodd Bonney ar y cynnig hwnnw.

Sgrifennodd nifer o lyfrau ond yn sgil y nifer o ffilmiau a chynhyrchaid Broadway ohoni Ben Hur sydd enwocaf.
Ac heb amheuaeth yr enwocaf o'r cynyrchiadau hynny yw ffilm 1959 - ffilm Hugh Griffith,
Wel, a Charlton Heston hefyd.

Tynnu Sylw i herio Barn

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 16:45, Dydd Llun, 13 Gorffennaf 2009

Sylwadau (0)

Y sôn yw y bydd y cylchgrawn newydd Sylw ar werth ddydd Mercher - Gorffennaf 15.

Dyma'r cylchgrawn a fydd yn cystadlu fis Medi am yr arian grant y mae'r Cyngor Llyfrau yn ei roi i gynnal Barn ar hyn o bryd.

Cyhoeddir Sylw gan Y Lolfa a'r golygydd yw Gwyn Jenkins awdur Prif Weinidog Answyddogol Cymru, y cofiant i Huw T Edwards a gyhoeddwyd 2007.

Arferai weithio yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.

Cafodd Y Lolfa £5,000 i baratoi y rhifyn enghreifftiol hwn o Sylw - trefniant sydd wedi peri anesmwythyd ymhlith cefnogwyr Barn.

Hefyd newydd gyrraedd y siopau mae rhifyn dwbl can tudalen o Barn sy'n cael ei olygu gan Vaughan Hughes a Menna Baines.

Barn - wynebu her newydd

Bydd y ddau gylchgrawn yn cael eu pwyso a'u mesur gan banel o wyth ar y rhaglen radio Wythnos Gwilym Owen ddydd Llun nesaf.

Y panelwyr fydd Gwyn Griffiths, newyddiadurwr, Adrian Morgan, myfyriwr, Hywel Davies golygydd Y Papur Gwyrdd, David Meredith cyn swyddog cysylltiadau cyhoeddus, Hafina Clwyd colofnydd a chyn olygydd Y Faner, Meg Elis, llenor a chyfieithydd, Catrin Evans, newyddiadurwraig a Ceri Fflur Huws, darlithydd.

Hefyd bydd Gwyn Jenkins a Vaughan Hughes yn ymateb i'w sylwadau.

Gellir gwrando ar gyfweliad gyda Mr Jenkins yn sôn am ei gylchgrawn newydd ac Elwyn Jones o Gyngor Llyfrau Cymru yn trafod y grant sydd ar gael ei gylchgronau ar ein gwefan Llyfrau.

Barn fu'r prif gylchgrawn materion y dydd Cymraeg ers ei sefydlu yn 1962 dan olygyddiaeth Emlyn Evans a ddaeth wedyn yn bennaeth Gwasg Gee.

O bosib mai cyfnod mwyaf dylanwadol y cylchgrawn oedd dan olygyddiaeth Alwyn D Rees yn Chwech a'r Saith degau ond bu i Barn .

Un arall o olygyddion nodedig y cylchgrawn fu'r un diwethaf ond un, Simon Brookes a fu'n gyfrifol am ei drawsnewid wedi cyfnod braidd yn hesb.

Yn ystod y cyfnod anesmwyth presennol un o'n newyddiadurwyr mwyaf craff a phendant ei farn, Vaughan Hughes, sydd yn y gadair - mewn partneriaeth â Menna Baines, .

Cadair boeth ar adeg pan fo Barn yn destun newyddion yn ogystal â bod yn gyfrwng i'w drafod. a'i ddadansoddi.

Dyddiau difyr i'r rhai sy'n sefyll ar y cyrion . . .

.

Llarpio'r Llewod

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 08:06, Dydd Gwener, 10 Gorffennaf 2009

Sylwadau (0)

Mae'n ystrydeb yr ydym wedi ei chlywed hyd syrffed, bod rygbi yn grefydd yng Nghymru.

Felly, ni ddylem synnu fod y gêm yn cael sylw yn y ddau bapur enwadol, Y Tyst a'r Goleuad.

Ymdriniaeth y wasg o gemau'r Llewod sydd wedi mynd dan groen D T Lewis ac mae'n cysylltu'r don anedifeiriol o gefnogaeth i'r tîm Prydeinig ag, o bopeth, y Rhyfel yn Irac.

Eglura mai'r geiriau, "Nid yn fy enw i" sy'n cysylltu'r ddeubeth.

Slogan a oedd yn wreiddiol yn mynegi gwrthwynebiad pobl i'r penderfyniad o fynd i ryfel yn erbyn Irac.

A dyna'i union ymateb yntau, meddai, i'r don o gefnogaeth i'r Llewod ar ddalennau papurau a thonnau'r awyr.

"Hefo'r holl heip ar radio a theledu ynglŷn â thaith y Llewod Prydeinig - a rhaid cydnabod fod y cyfryngau Cymreig ar flaen y gad yn hyn o beth - mae'r un slogan yn crynhoi f'ymateb i eto - 'Nid yn fy enw i'," meddai D T Lewis.

Yn ddyn hoff o rygbi aiff ymlaen i ddweud na all ddeall sut y gall Cymry twymgalon wirioni â thîm rygbi Prydeinig ac mae'n canmol pêl-droedwyr am ymwrthod â'r un meddylfryd.

"Yn ddiweddar gwrthododd y Gymdeithas Bêl Droed yr alwad i Gymry fod yn rhan o dîm Prydeinig ar gyfer y Gemau Olympaidd yn Llundain," meddai gan ychwanegu, "Da iawn nhw."

Does dim amheuaeth bod Mr Lewis yn taro tant gyda sawl un ac fel gellid disgwyl mae'n troi ei ddadl yn ddameg grefyddol.

"Mae gwneud rhywbeth yn enw rhywun yn golygu gweithredu yn ei le ac er ei fwyn, fel cynrychiolydd iddo. Onid dyma yw hanfod Efengyl Iesu Grist?" meddai.

Bid a bo hynny, edrych ymlaen y bydd ambell un yn awr at ymateb Mr Lewis yn rhifynnau nesaf Y Tyst a'r Goleuad i Heip Lludw'r wasg a'r cyfryngau yng Nghaerdydd yr wythnos hon.

A beth fydd o'n ei wneud o'r Cymry hynny sy'n cefnogi Awstralia yn hytrach na thîm Lloegr-Cymru.

Yr hen, hen, feddylfryd honno o gefnogi mewn unrhyw ymrafael pa bynnag dim sy'n chwarae yn erbyn Lloegr.

Fyddan nhw'n plesio?

Cyfrol yr amcanion da

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 08:14, Dydd Iau, 9 Gorffennaf 2009

Sylwadau (0)

Yn syth ar ôl eu cyhoeddi mae Rhestr Testunau Eisteddfod Genedlaethol Cymru Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd 2010 yn ail ar siart gwerthwyr gorau Cyngor Llyfrau Cymru .

Mae hon bob amser yn gyfrol â diddordeb mawr ynddi wrth i ddarpar lenorion a phrifeirdd ei phori am rywbeth i gystadlu arno a dod a bri iddyn nhw yn ystod wythnos gyntaf Awst y flwyddyn ganlynol.

Yn hanes y rhan fwyaf ohonom swm a sylwedd yr ymarferiad yw rhoi croes wrth ochr ambell i destun addawol a sylweddoli yn gynt na'r disgwyl ei bod hi'n ddiwrnod olaf anfon yr ymgeision yfory a chwithau heb ddechrau'n iawn heb sôn am fod yn barod i anfon.

Diau y bydd eraill yn chwilio a chwalu mewn droriau a thrwy silffoedd am 'hen gesig' a gollodd yn y gorffennol y gellid eu hanfon eto dan deitl newydd.

Mae beirniaid rheolaidd a beirniaid a fu'n pori'n gydwybodol drylwyr drwy Gyfansoddiadau'r gorffennol yn adnabod y rhain yn syth, wrth gwrs,

Coroni yng Nghaerdydd y llynedd

Y pedair cystadleuaeth y mae'r prif ddiddordeb ynddyn nhw, mae'n debyg, ydi'r Gadair, Y Goron, Y Fedal Ryddiaith a'r Daniel Owen - sy'n gofyn bob amser am nofel - a'r testunau ar gyfer Glynebwy eleni yw:

  • Awdl - Ennill Tir
  • Casgliad o Gerddi - Newid
  • A chyfrol o ryddiaith dan y testun Adfywiad am y Fedal Ryddiaith.

Fe ddywed cystadleuwyr selog wrthych bod dewis eich beirniaid cyn bwysiced a'ch dewis o destun ac yn y ddwy gystadleuaeth fawr Robat Powell, Elwyn Edwards ac Idris Reynolds a Mererid Hopwood, T James Jones ac Iwan Llwyd fydd angen eu plesio.

Bodloni Elfyn Pritchard, John Gruffydd Jones a Caryl Lewis fydd raid i ymgeiswyr y Fedal Ryddiaith .

Cystadleuaeth lenyddol hynod boblogaidd bob blwyddyn yw un yr Englyn wrth gwrs. Dysgwr yw'r testun yng Nglynebwy a'r beirniad yw Tudur Dylan Jones.

Ar gyfer Y Bala eleni anfonwyd 75 o englynion i'r gystadleuaeth a 42 i'r gystadleuaeth englyn ysgafn.

Ond un syndod mawr yn Y Bala yw'r nifer sydd wedi ymgeisio am y Goron - 44 i gyd o gymharu â saith am y gadair ac wyth am y Fedal Ryddiaith a saith am Wobr Goffa Daniel Owen.

Heb os, enillydd y Goron fydd yn teimlo iddo wneud y diwrnod gorau o waith yn dod yn gyntaf o blith cynifer.

Cymru i'r byd

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Kate Crockett | 12:23, Dydd Llun, 6 Gorffennaf 2009

Sylwadau (1)

Gair o'r Smithsonian
Cyfraniad olaf Kate Crockett, cyflwynydd Stiwdio, o Å´yl y Smithsonian, Washington

Erbyn hyn bydd y pyst rygbi coch a'r waliau cerrig wedi'u dymchwel, y stondinau wedi'u datgymalu, a'r Mall yn wag unwaith eto wedi i Å´yl y Smithsonian yn Washington DC ddod i ben.

Go brin y bydd y 160 a rhagor o Gymry fu'n cymryd rhan eleni yn anghofio'r profiad, a gobeithio y bydd y filiwn a mwy o Americanwyr sydd bellach yn gwybod rhywbeth am Gymru yn cofio'r achlysur hefyd.

Pobl fel Lilith, merch ifanc gafodd ei "chadeirio" gan Ceri Wyn Jones, Ifor ap Glyn ac Aneirin Karadog, mewn sesiwn fythgofiadwy i egluro'r traddodiad eisteddfodol a rhoi gwersi cynghanedd i rai a oedd, mae'n debyg, yn gwybod dim am ein bodolaeth cyn y diwrnod hwnnw.

Wedi'r sesiwn, cawsom sgwrs gyda Ceri Wyn Jones ac Ifor ap Glyn ar gyfer y rhaglen Stiwdio, a thrafod y sefyllfa gartref.

Cadeirio Lilith

Roedd nifer o'r artistiaid di-Gymraeg o Gymru oedd yn cymryd rhan yn y Smithsonian yn cael eu profiad cyntaf o'r diwylliant Cymraeg ei iaith allan yn Washington. O safbwynt miloedd o drigolion Cymru, boed yn frodorion di-Gymraeg neu'n fewnfudwyr, mae'r diwylliant Cymraeg yn anweledig - is ddiwylliant go iawn nad yw'n cyffwrdd â'u bywydau o gwbl.

Ar ddiwedd pythefnos o ddathlu Cymru ym mhrif ddinas yr Unol Daleithiau, mae'n bosib iawn bod mwy o Americanwyr nac o Gymry di-Gymraeg yn gwybod am Gwyneth Glyn ac am Barti Cut Lloi.

Pontio dau ddiwylliant - Parti Cut Lloi - Llun: Tegwyn Roberts

Oes angen gwneud mwy felly i bontio'r ddau ddiwylliant, ac i gynnig cynulleidfaoedd ehangach yng Nghymru i'r llenorion a'r cerddorion gwych sy'n creu eu gwaith yn bennaf trwy'r Gymraeg?

Yr Eisteddfod Genedlaethol yw ffenest siop ein diwylliant ond mae'r rheol Gymraeg yn golygu nad dyna'r lle i gyflwyno'r diwylliant hwnnw drwy'r Saesneg.

Mae Gŵyl y Gelli'n un sy'n ymhyfrydu yn y gair ond yn wahanol i'r Smithsonian mae'r rhai sy'n mynd i'r Gelli yn talu am bob sesiwn yn unigol, gan ei gwneud hi'n anoddach denu pobl sy'n gwybod dim am y testun yn y lle cyntaf.

Yn y Sioe wrth gwrs mae'r croestoriad gorau o Gymry Cymraeg a'r di-Gymraeg ond wn i ddim a fyddai'n bosib rhoi llwyfan teg i'r beirdd drws nesaf i'r bustych.

Felly a oes angen gŵyl newydd?

Yn yr hinsawdd bresennol gyda nifer o'r gwyliau mwyaf yn gwegian yn ariannol, person dewr fyddai'n ceisio trefnu hynny ar raddfa fawr.

Ond os oes angen prawf bod angen gwneud mwy i bontio diwylliannau does ond angen cofio beth ddigwyddodd i Ysgol Glanaethwy wrth berfformio yn Venue Cymru yn Llandudno yn ddiweddar.

Pan fo aelodau di-Gymraeg o gynulleidfa yn gwrthwynebu clywed Cymraeg, ac eraill yn gwrthwynebu defnyddio Saesneg i gyflwyno cerddoriaeth Gymraeg i'r di-Gymraeg, mae'n amlwg bod yma broblem sydd angen sylw brys.

Yng nghanol gwres a Chymreictod

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Blogiwr Gwadd | 06:35, Dydd Gwener, 3 Gorffennaf 2009

Sylwadau (0)

Margaret Roberts yn sgrifennu o Å´yl y Smithsonian yn Washington

Fel maes Steddfod!

Fel un o blant y Chwedegau mae'n wefr bod yn Washington y flwyddyn yr urddwyd Obama yn Arlywydd Yr Unol Daleithiau a rhan o freuddwyd Martin Luther King yn dod yn wir.
Aethom i ddiwrnod cyntaf ail wythnos Gŵyl Werin y Smithsonian ar y Mall rhwng y Washington Memorial a Capitol Hill.

Yn rhyfedd iawn pan gerddon ni i fynny o'r Metro beth oedd yn ein hwynebu ond nifer o bebyll bychain yn union fel maes Eisteddfod.

Ac, yn wir, wrth siarad â rhai oedd yn cymryd rhan roeddent hefyd yn teimlo eu bod yn yr Eisteddfod gan alw'r lle oeddynt yn 'Faes'. Ond Eisteddfod heb yr elfen gystadleuol.
Roedd nifer o bebyll yn dangos gwahanol bethau ac yn rhoi cyfle i ymhelwyr roi cynnig ar wahanol sgiliau o wneud clocsiau a thelynau i goginio a hollti llechi!

Dywedodd Karl Chattington, gwneuthurwr cwryglau o Aberdâr iddo fwynhau'r profiad o ddod i'r ŵyl i arddangos ei grefft ir Americanwyr.

Karl Chattington a'i gwrwgl

Pan ddaeth a'i gwrwgl allan o'r storfa ar ei gefn un bore dechreuodd teulu o Americanwyr dynnu ei luniau yn egniol ac ar ôl sbelen dyma'r tad yn holi yn hollol ddifrifol; "Is this a form of your National headress?"
Allai Karl ddweud dim, meddai, a'r dagrau yn rhedeg i lawr ei wyneb!

Mewn pabell fwyd gwerthir pethau fel cawl a selsig Morgannwg gyda chwrw Tomos Watkins - er, rhaid dweud ei bod yn fwy o dywydd hufen iâ na chawl ond roedd yr Americanwyr yn ei fwynhau wrth y galwyni!

Mae dwy babell lle mae'r gwahanol gerddorion yn perfformio; Y Clwb Rygbi a Phabell y Ddraig Goch gyda chynulleidfa dda a gwerthfawrogol yn y ddwy.

Buom yn gwrando ar Yr Henesseys a criw Cut Lloi - a'r Americanwyr yn mynd i hwyl.
Ond yn y gwres llethol roedd hi'n anodd iawn i'r perfformwyr ar adegau.
Ond dywedodd criw Cut Lloi iddynt fwynhau'r profiad yn fawr - ond yn dechrau hiraethu am adref!

Derbyniad da

Cafodd perfformiad cyntaf Only Men Aloud dderbyniad arbennig o dda a phabell Y Ddraig Goch yn orlawn.

Diolchodd eu harweinydd, Tim Rhys Evans, i'r Smithsonian am gymeryd Cymru fel gwlad, o ddifrif.

Perfformiodd y côr amrywiaeth o ddarnau yn opera, emynau a darnau ysgafn, a'r gynulleidfa ar ei thraed ar y diwedd.

Y siarad yw i'r ŵyl fod yn llwyddiant gyda llawer o nwyddau a ddaeth o Gymru wedi eu gwerthu yn ystod yr wythnos gyntaf.

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.