´óÏó´«Ã½

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Barn uwchlaw Sylw

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 09:49, Dydd Gwener, 27 Tachwedd 2009

Dwy flynedd o ras a chyfle i brofi eu hunain i Barn a'r Cymro felly.

Dyna benderfyniad Cyngor Llyfrau Cymru: a gyhoeddodd y bore ma fod dwy flynedd o grant cylchgrawn materion cyfoes wedi'i ddyfarnu i Barn er gwaethaf cystadleuaeth Sylw.

Cyfle i Vaughan Hughes a'i griw anadlu a chael mynd i'r afael o ddifrif i roi'r cylchgrawn ar ei draed.


Wnaeth rhifyn Steddfod Sylw, ddim digon felly i argyhoeddi y byddai'n well cylchgrawn na Barn a fu efo ni er 1962.

Fel rhan o'r broses i ddewis comisiynodd y Cyngor Llyfrau gwmni Wavehill o Aberaeron i gynnal ymchwil marchnad ymysg darllenwyr drwy holiadur, galwadau ffôn a chynnal grwpiau ffocws.

"Cafwyd canmoliaeth i'r ddau gylchgrawn gan y rhai a holwyd," meddai'r Athro M Wynn Thomas, cadeirydd y Cyngor Llyfrau.

"Ac roedd pobl yn sylweddoli bod yma ddau gylchgrawn cryf yn delio â materion cyfoes mewn ffyrdd gwahanol. Mae adroddiad ymchwil Wavehill yn dangos yn glir fod yna gryn ddiddordeb gan ddarllenwyr mewn cylchgrawn safonol sy'n dadansoddi a thrafod pynciau amrywiol y dydd drwy gyfrwng y Gymraeg.

"Roedd ymateb cadarnhaol y darllenwyr i'r ddau gylchgrawn hefyd yn arwydd o'r bywiogrwydd ym maes cylchgronau y dyddiau hyn."

Ond soniodd o ddim o gwbl am werthiant yn ei ddatganiad.

Mae'n ymddangos mai profiad golygyddol Barn enillodd y dydd i'r cylchgrawn.

Ac fe soniodd cadeirydd Panel Grantiau'r Cyngor Llyfrau, Gareth Davies Jones, am gynnydd yng nghylchrediad Barn ond heb nodi niferoedd:

"Roedd aelodau'r Panel yn ymwybodol iawn o ymrwymiad a brwdfrydedd y ddau gwmni i gynhyrchu cylchgrawn oedd yn trafod materion cyfoes mewn ffordd fywiog ac apelgar. Pan ddaethpwyd at y penderfyniad yr oedd profiad newyddiadurol tîm golygyddol Barn ynghyd â safon y cynnwys a'i natur ddadansoddol yn ffactorau hollbwysig.

"Croesawyd yn fawr hefyd y modd yr oedd y cwmni wedi ymdrechu i ehangu apêl y cylchgrawn yn ystod y flwyddyn ddiwethaf gan ddangos cynnydd o 20% yn y cylchrediad.

"Mae cyfle iddynt yn awr, fel deiliaid y drwydded am y ddwy flynedd nesaf, adeiladu ar eu cynulleidfa graidd ac edrych eto ar ddiwyg y cylchgrawn.'

Cadarnhaodd y Cyngor Llyfrau hefyd fod papur newydd Y Cymro a'r cylchgrawn Y Selar wedi sicrhau arian am ddwy flynedd arall.

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.