´óÏó´«Ã½

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Dyfyniadau'r wythnos

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 09:25, Dydd Sadwrn, 23 Ionawr 2010

Ar ddiwedd wythnos - ail fyw'r saith diwrnod diwethaf trwy flasu rhai o'r pethau a ddywedwyd gan wahanol bobl. A gwahoddiad i chwithau rannu y doniol, y difyr neu'r dwys â ni.

  • Mae unrhyw un sydd yn mwynhau chwynnu yn sicr o fod yn llwyddiannus mewn gwleidyddiaeth - Rhodri Morgan yn egluro apêl garddio.
  • Coch, gwin a gwyrdd - pennawd Y Cymro i stori ffrae yfed Maes yr Urdd.
  • Mae'n drist meddwl fod aelodau Cyngor yr Urdd - nifer ohonynt yn ddiaconiaid a blaenoriaid wedi ildio i'r fath bwysau - Wynford Ellis Owen, Prif Weithredwr Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau.
  • Da ni bobl Ceredigion gyfan wedi cyfrannu'n ariannol i gefnogi'r Eisteddfod. Ble mae ein hawl ni? Dim ond drwy ofyn am ein pres yn ôl a dyna beth yr wyf i wedi ei wneud ac rwyf yn eich annog chi i wneud yr un peth - Beryl Hughes, Bow Street wedi i'r Urdd ennill caniatâd i werthu alcohol ar faes Eisteddfod 2010.
  • Edrychwn ymlaen at Eisteddfod lwyddiannus iawn yng Ngheredigioon fis Mai - Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr Urdd.

  • Mae gan blant Haiti ofn am eu bywydau ac maent mewn perygl - Gareth Owen o fudiad Achub y Plant.
  • Fyddai gen i ddim cywilydd cerdded i lawr y stryd law yn llaw â dyn. Fe fyddwn yn caru bod mewn perthynas lle gallwn ddangos serch a chariad fel yna - Gareth Thomas y chwaraewr rygbi a gyhoedodd yn ddiweddar ei fod yn hoyw ac yn awr yn chwilio am bartner.
  • Fe fuo bron imi a methu'i gwneud hi ond yn awr, wedi dod drwyddi, rwy'n teimlo y gallwn gyflawni unrhyw beth. Y nod yn y pen draw ydi dychwelyd i bêl-droed fel hyfforddwr ond mae cryn amser cyn y digwydd hynny. - John Hartson.
  • Uchelgais y merched ydi beichiogi cyn gynted â phosib a chael tÅ· cyngor - un ym mhen uchaf y cwm mae'n debyg lle mae yna fws unwaith yr wythnos.
    Mae'r Co-op yn rhedeg ar golled achos pe byddai'n cau fyddai yno ddim siop, a dyw e ddim yn gwerthu ffrwythau achos does neb yn prynu ffrwythau ac mae'r tlodi o fath cwbwl wahanol.
    Mae'n ofnadwy. Mae'n gwneud ichi fod eisiau wylo. Ac mae'r ardal yn gwbl lwyd gan mai jyngls concrid, gwlyb, ydyn nhw.
    Does yma ddim - cyn brif gwnstabl Heddlu De Cymru , Barbara Wilding, yn disgrifio, yn Jane's Police Review, y cymoedd oedd dan ei gofal.
  • Y gwir yw fy mod wedi fy nghyfareddu â'r ffurf fenywaidd - Tracy Williams "Yr Awdur Noeth Benfelen" yn egluro pam y bydd yn darllen ei nofel ddiweddaraf Blackout yn noeth ar y we.
  • Pwy, mewn gwirionedd, fydd eisiau silffoedd a silffoedd o lyfrau yn hel llwch pan ellwch chi storio cannoedd ohonynt ar ddisg fach electronig? - Cris Dafis yn rhagweld yn Golwg bod Oes y Llyfrau ar fin dod i ben.
  • Ar ddiwedd y dydd ryda ni'n anghofio am bob ffrae . . . tan y diwrnod canlynol - Ida Taylor o Fae Colwyn yn egluro sail llwyddiant 60 mlynedd o fywyd priodasol gyda'i gŵr, Gil.
  • A fydd Saunders Lewis yn y dyfodol yn colli cryn dipyn o edmygedd ac eilun addoliaeth? Yr oedd yna, wedi'r cwbwl, rywbeth digon atgas ynddo ar adegau. Ydio tybed yn ormod o fuwch sanctaidd? - Hafina Clwyd yn ei cholofn Radio a Theledu yn Y Cymro.

[Os byddwch yn anfon trosiad o ddyfyniad Saesneg atom cofiwch gynnwys y fersiwn wreiddiol hefyd gyda'r ffynhonnell.]

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.