´óÏó´«Ã½

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Brecwast, piano a chân

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 08:55, Dydd Iau, 2 Mehefin 2011

Newydd fod am frecwast yng Nghaffi Mr Urdd.

Ac un cerddorol iawn oedd o hefyd - a dydw i ddim yn sôn am y bîns chwaith.

Ymarfer yng Nghaffi Mr Urdd

Yng nghornel Caffi Mr Urdd mae yna biano a'r bore ma cafwyd gwledd rhwng y sosej a'r tost wrth i bartïon ddefnyddio'r piano i ymarfer ar gyfer rhagbrofion y gystadleuaeth Parti Bechgyn am 1205 ar y llwyfan.

Cafwyd tri neu bedwar dehongliad o Y Cynganeddwr gan Robat Arwyn a'r geiriau gan Robin Llwyd ab Owain.

Wrth i un côr ddilyn un arall o gwmpas y piano - wnâi mo'u henwi - clywais aelod ail gôr yn dweud wrth aelod arall am y côr blaenorol, "Maen nhw'n lot gwell na ni."

Oedd o'n iawn tybed?

Cystadleuaeth imi gadw golwg arni y pnawn ma.

Ond pwy bynnag fydd orau yng ngolwg y beirniaid, mi wnaetho nhw i gyd blesio'r brecwastwr hwn a gwneud pryd cyntaf y dydd yn un gwerth chweil . . .

Ac mi rtydw i wedi dysgu geiriau cerdd newydd o'i chlywed gymaint o weithiau.

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.