Nia yn Abertawe - dydd Mercher
Mae Nia Lloyd Jones, ´óÏó´«Ã½ Radio Cymru, yn blogio'n ddyddiol o gefn llwyfan yn Eisteddfod genedlaethol yr Urdd Abertawe ar gyfer y wefan hon.
Y caneuon actol oedd ar y llwyfan gyntaf bore 'ma, a'r rhai ola i gystadlu oedd Ysgol Gynradd Bodedern.
Ar ôl dod oddi ar y llwyfan mi ges i air efo nhw ac roedd un ohonyn nhw - John Henry wedi mwynhau ei hun gymaint nes ei fod o wedi dod i benderfyniad mawr - mae o isio bod yn actor!
Lwc a thalent
Nid yn unig mae Nest Jenkins yn ferch dalentog, ond mae hi hefyd yn ferch lwcus iawn. Mae hi newydd gael telyn newydd sbon dair wythnos yn ôl, a dyma'r tro cyntaf iddi gystadlu hefo'r delyn newydd.
Mi enillodd Nest y wobr gyntaf heddiw a braf iawn oedd cael sgwrs hefo'i thad - Endaf, a'i brawd mawr - John. Ond ches i ddim gair gan y brawd bach sef William - fe aeth o i guddio tu ol i'r delyn newydd!
Damweiniau
Heddiw oedd diwrnod y damweiniau. Roedd Celt o Adran Brithdir mewn plastar - ar ôl torri ei fraich rai wythnosau'n ôl ac yn hwyrach yn y prynhawn pan ddaeth Gwennan a Siwan i'r llwyfan yng nghystadleuaeth yr ymgom roedd Gwennan mewn plastar hefyd ar ôl iddi dorri ei bigwrn.
A sut gwnaeth hi hynny meddech chi? Wel, wrth roi dillad ar lein!!
Trwmped a chornet
Dw i wedi dysgu rhywbeth newydd heddiw hefyd. Dwi wastad yn cael trafferth gwahaniaethu rhwng trymped a chornet ond diolch i Alexander Morgan, a Jac Thomas (dau o'r unawdwyr pres) dwi bellach yn deall be di be a ffaith ddifyr i chi - mae'n debyg na welwch chi fyth drymped mewn band pres ac na welwch chi fyth gornet mewn cerddorfa!
Cerddorion
Llongyfarchiadau mawr iawn i Ysgol Gynradd Parcyrhun - enillwyr y grŵp cerddoriaeth creadigol i ysgolion/unedau ac anghenion addysgol arbennig.
Braint fawr oedd cael sgwrs hefo'r staff a rhai o'r plant sef Alex, Georgia, Rebecca a Carrie.
Strabs
Ac mae'r wobr am strabs y diwrnod yn mynd i ferched Aelwyd Myrddin oedd yn cystadlu ar y parti llefaru pnawn 'ma.
Sôn am griw oedd rhain! Oedden, roedden nhw yma ar gyfer y cystadlu, ond roedden nhw hefyd wedi bod yn treulio rhan helaeth o'r diwrnod yn "edrych ar y bois"!
Ac yn ol Lowri - "Mae bois y gogs yn grêt!"
Cytuno gant y cant!