´óÏó´«Ã½

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Tipyn o stêm yn y Steddfod

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Sian Lloyd Sian Lloyd | 13:52, Dydd Iau, 4 Awst 2011

Do fe ddaeth y glaw y bore yma ond dyw e heb effeithio ar yr hwyl yma yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam. Dwi wedi bod yn pererindota ar hyd y Maes unwaith eto ac mae yna ddigon i wneud o dan gysgod y stondinau. Ces i gyfle i drin fy ewinedd yn stondin Gwallt a Phrydferthwch Coleg Iâl lle 'roeddwn yn ddisgybl blynyddoedd yn ôl. Roedd yna lu o gwmseriaid newydd yno -Eisteddfodwyr yn gwneud y mwyaf o'r cyfle o gael maldod i'r gwallt a'r ewinedd!

Dwi heb gael cyfle i fynd i siopa eto ond mae yna ddigonedd o stondinau ar gael. Fe wnaeth un stondin ddal fy sylw'n arbennig yn gwerthu pethau hyfryd i'r cartref. Ces i sgwrs sydyn gyda'r stondinwraig. Roedd yna fygiau, clustogau, canhwyllau a'r cyfan wedi eu cynhyrchu yng Nghymru. Fe allwn wedi gwario ffortiwn ond doedd fy mhwrs arian ddim gen i!

Nesa es i am dro i stondin Bro Morgannwg gan fydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal yn y sir y flwyddyn nesa yn Llandow. Ces i sgwrs gyda threfnwyr yr Eisteddfod am y paratoadau, gyda'r tîm wrthi'n trefnu ar gyfer yr Ŵyl yn brysur yn codi arian ac yn gweithio'n ddyfal tuag at y digwyddiad mawr.

Yn hwyrach prynhawn yma, dwi'n mynd i wylio arddangosfa smeltio sy'n dathlu hanes yr ardal leol a'r gweithfeydd haearn. Mae'n cael ei chynnal ger y pafiliwn Celf a Chrefft a bydd yna dipyn o stêm medde nhw!

Mae yna chydig o awyr las yma nawr gyda'r ambarels o'r golwg am y tro. Dwi am ei throi hi yn ôl at y Maes.

Mwy o'r Eisteddfod: Canlyniadau, gwylio'n fyw, straeon, clipiau teledu, blogiau a newyddion o'r Maes.

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.