Ai yma 'sgwn i y cafodd y fintai ddewr eu pryd olaf, cyn cychwyn am Batagonia.
Yn rhyfedd ddigon, mae 'na blanhigyn sy'n gynhenid i Dde America o'r enw Mimosa. Ac os oeddach chi yn y Ritz ym Mharis ym 1925 hwyrach eich bod chi wedi blasu coctel newydd sbon. Cyfuniad o siampen, gwin gwyn, a sudd oren. Dyna'r Mimosa Coctel.
Rhoi cymunedau'n gyntaf.
Yn sicr fe fyddwn i'n codi fy ngwydyr i'r tri ymroddgar yma sy'n gweithio er budd pobol Ystradgynlais a'r cylch ac yn rhoi'r cymunedau'n gyntaf. A pwy ydi'r tri? Ar y chwith, Adele Evans. Ar y dde, Patricia Davies. A'r rhosyn yn y canol? Y cymeriad lliwgar, Tom Addey.
Ar ol cael sgwrs efo Tom, Adele a Pat, ymlaen a fi i'r pentre ar lan yr afon yma.
Hon ydi'r afon, ond nid hwn yw'r dwr oedd yn llifo dros y cerrig, pan godwyd capel y pentref, sef pentref Cwmgiedd, ym 1806.
Ar gyrion y pentref mae capel 'Trefnyddion Calfinaidd'- Capel Yorath. Ai hwn ydi'r unig gapel Yorath yng Nghymru.? Os wyddoch chi am un arall-cysylltwch a hywel@bbc.co.uk
A dyma ben y daith - siop enwog Eddie Shincs. Fel 'na mae pawb yn ei adnabod. Yn y llun wrth ochor Eddie a'i chwaer Susan, mae Arwel Michael, un o ffrindiau mawr Eddie a cherddwr o fri. 'Fe ymddangosodd y ddau yn y ffilm The Silent Village, a saethwyd yng Nghwmgiedd, am bentref Lidice yn yr hen Tsiecoslafacia, a ddinistrwyd gan y Natsiaid yn ystod y rhyfel.
Bore dydd Iau ar raglen Nia fe gewch chi'r hanes i gyd..
£10 miliwn o bunnau. Dyna faint o arian gasglwyd drwy Cymru llynedd gan wirfoddolwyr Macmillan yn trefnu Bore Coffi Mwya'r Byd. Eleni fe es i draw i ymuno a'r criw coffi ar fferm Glandwr ger Caerfyrddin.
Ar ol paned a phice ar y man, roedd na gyfle i sgwrsio efo Joy Waters, sy'n gweithio i Macmillan Eleri Jones, yn sgrifenyddes cangen Caerfyrddin a Miranda Owen, fu'n ddigon dewr i siarad efo fi am y profiad dirdynnol o golli merch fach a brawd i ganser.
Lle mae'r llecyn ?
Rhwng Llangurig ac Aberystwyth. Ar draws y ffordd i'r Druid Inn.
Yn y dafarn mae na lun o'r gwr yma yn ei afiaith efo'i ffrindiau.
Eisteddfodwr pybyr, a chymeriad talentog. Enillodd ddeg ar hugain
o gadeiriau eisteddfodol gan gynnwys cadeiriau Eistedfod yr Urdd yn 1966 a 1967. Mabwysiadodd enw'r ardal fel ei enw olaf.
Yr ardal ydi Goginan ac mae un o fechgyn y cylch Ceiriog Gwynne Evans, wedi cyhoeddi llyfr am yr ardal a'i phobol - ac mae Peter Goginan yn un ohonyn nhw.
Ifan Davies, Gareth Jones ac Aled Bebb fuodd yn cadw cwmni i Ceiriog a finna ac roedd na aml i stori yn cael ei hadrodd am gymeriadau lliwgar y cylch.
Yn y llyfr mae Ceiriog yn son cryn dipyn am Peter Goginan, ac yn cyfeirio at deyrnged ei ffrind Lyn Ebenezer iddo.
Yn ol Lyn cafodd Peter ei eni ganrif yn rhy hwyr. Teimlai y byddai Peter wedi bob yn hapus hefyd yn cerdded Cymru yng nghwmni'r saint, ond yn wahanol i Dewi Sant, fyddai Peter ddim wedi byw ar ddwr yn unig.
Mae pobol y Rhos yn wahanol i bawb arall. Pwy sy'n dweud? Pobol y Rhos wrth gwrs.
A pheidiwch a gwneud y camgymeriad a wnes i o alw'r Rhos yn dref. Pentref ydi Rhosllanerchrugog - y pentref mwyaf yng Nghymru. Ac fe aeth y fan a fi yno i ddathlu penblwydd y 'Stiwt yn ddeg oed, ers iddi gael ei hadnewyddu.
Mae'r ffenestr liw drawiadol yma i'w gweld yng nghyntedd yr adeilad ac yn adrodd hanes diwylliant a diwydiant yr ardal.
Dyma'r crefftwr a wnaeth y ffenestr, Emyr Prys Jones, yn ei garej , sy' bellach yn shed. Ond er na toes 'na ddim lle i gar, mae 'na i'r motor beic. A phan fydd darn bach o'r gwydr yn gwrthod mynd i'w le, a darn bach arall wedi disgyn ar y llawr a malu'n deilchion, dyna pryd y bydd y crefftwr rhwystredig, yn rhoi ei offer ar y bwrdd, yn rhoi ei helmet ar ei ben, ac ar ol tanio'r injan, yn troi ei gefn ar ei gelfyddyd ac yn gwibio'n bwyllog ar hyd ffyrdd cefn didraffig Clwyd.
A dyma ddwy o ser pantomeim blynyddol Y Stiwt - Barbara, ar y chwith a Stella ar y dde, ac un o'r chwiorydd hyll yn ei holi nhw, ar gyfer rhaglen Jonsi.
Ar fy ffordd i Rosllanerchrugog fe alwais heibio Horeb Llandysul, lle mae Rhodri Davies, wedi sefydlu busnes yn cynhyrchu diodydd ysgafn. Fel yr esboniodd Nia, mam Rhodri, salwch ei dad fu'r sbardun i Rhodri fynd ati, a 'rwan mae'n aros i glywed os ydi ei syniad wedi ennill pum mil o bunnau mewn cystadleuaeth Brydeinig.
Mae siop Hefina ar y sgwâr ym Mhwllheli, ac mae hi'n dathlu ei phen-blwydd yn bump ar hugain oed eleni.
Mae 'na ddwy ran i'r siop. Yn y tu blaen mae Glen tu ôl i'r cowntar yn gwerthu defnydd ac edafedd, ac yn y cefn mae'r bos ei hun wrthi'n brysur yn ymestyn trowsusau, yn cwtogi sgertia - yn 'altro' dillad, fel byddwn ni'n deud yn y Gog.
Fe alwodd Glyn heibio'r siop tra roeddwn i yno i neud yn siŵr fod peiriant gwnio Hefina yn gwneud ei gwaith yn iawn - a phen-blwydd hapus i Glyn hefyd, sydd wedi bod yn gwasanaethu peiriannau gwnio'r Gogledd ers hanner can mlynedd. Mae 'na stori yn dŵad i'r cof, am y pregethwr hwnnw, oedd yn pregethu yn yr hen steil ac yn annerch ei gynulleidfa o'r pulpud.
"Gyfeillion. Mae canu yn ein gwneud ni'n hapus. Mae'n bwysig i ni ganu'n ddyddiol, beth bynnag fo'n sefyllfa ni. Fe glywais i am y teulu bach tlawd yma, yn byw gyda'i gilydd mewn un stafell oer. Ond er hynny roedd gwr y tŷ yn canu a gwraig y tŷ yn canu, ac yn wir i chi roedd y forwyn fach wrth y bwrdd, ymhell oddi wrth wres y tan, yn gweithio'n dawel ac yn canu i sŵn yr injan wnio. A wyddoch chi be' gyfeillion? The machine was also a Singer!"
Diolch am y croeso Hefina a phenblwydd hapus a hir oes i'r siop.
Am ddau funud i ddau o'r gloch bnawn Mawrth, 'roedd y Maes yng Nghaernarfon wedi ei amgylchynu gan yr heddlu a dynion diogelwch yn eu siacedi melyn. Yna am ddau ar ei ben, fe glywyd y swn, ac edrychodd pawb i fyny i weld Ambiwlans Awyr newydd Gogledd Cymru yn ymddangos drwy'r cymylau llwydion a'r glaw, ac yn hedfan heibio'r castell, cyn glanio ar ganol y Maes.
'Roeddwn i'n llygad dyst i'r digwyddiad ac fe gafodd yr achlysur ei ddarlledu ar raglen Geraint Lloyd y noson honno. Mae'r gwasanaeth yma yn golygu ei bod hi'n bosib hedfan claf o Ddolgellau i Fangor mewn deg munud, ac maen nhw hefyd yn gallu glanio mewn mannau cyfyng iawn. Efallai y bydd na un yn glanio mewn gardd gefn yn eich ymyl chi yn fuan iawn.
Uwchben Llanrwst, ac yna i lawr llwybrau cul y wlad mae Ty Mawr- cartre Ann ac Eryl Roberts a'u deg o blant.
Mae Elin y ferch hyna yn medru trin ci defaid cystal a'r bugail mwyaf profiadol ac i brofi hynny mae hi wedi cael ei lle yn y tim rhyngwladol.
Fe fydd hanes Top 10 Ann ac Eryl ar raglen Nia yr wythnos yma.
Os 'da chi'n poeni am y briodas sy' ar y gorwel - y wisg, y bwyd, y gwahoddiadau, y blodau - yna rhowch ganiad i Ela Jones ar y chwith neu Eleri Roberts ar y dde.
Mae na griw ferched Cwlwm wedi dwad at ei gilydd yn Ysbyty Ifan i drefnu'r cwbwl ar eich rhan chi.
Ela ydi postfeistres y pentre' hefyd, felly fe fydd hi'n gneud yn siwr fod y teligram, gan Anti Wini o Ostrelia yn siwr o gyrraedd mewn pryd.
Gyda llaw, arwahan i neud teisennau priodas arallfydol, mae Eleri yn gneud pice ar y man sy'n toddi yn eich ceg chi. Sut dwi'n gwybod? Mi ges i dair a phaned cyn cychwyn am Ty Mawr.
Pentre' bychan i'r gogledd o Abergwaun ydi Pontiago, ac ar ymweliad a'r ardal yn ddiweddar fe benderfynais i alw yn y .
Jac Pontiago ydi'r perchennog, a dros y blynyddoedd mae o wedi atgyweirio dwsinau o Forisiaid rhydlyd, tolciog, di raen a di-liw ac wedi rhoi bywyd newydd mewn sawl hen injan.
Credwch fi neu beidio mae Jac yn 85 mlwydd oed, ond yn wahanol i'r ceir, tydi o ddim angen M.O.T!