O Gwmpas y Maes - Arwyddion

Newid Dynion: Dyma'r lle i fynd os 'da chi wedi cael llond bol ar y gŵr.

Allan. Os 'da chi'n chwilio am y Prifardd - mae o newydd fynd ffor 'cw!

Ynglyn a cathod. Cofiwch dreiglo-ynglyn â chathod. Hefyd 'fy mhwsi,dy bwsi, ...ac yn y blaen.

Druid: Dyma lle mae'r Archdderwydd yn cadw'n heini.

Parker Plant Hire: Os da chi wedi anghofio dwad â Wili a'i chwaer fach efo chi - gewch chi logi rhei am y diwrnod gan Mrs Parker.

Boots: Handi iawn os 'da chi am fynd i gerdded Dyffryn Clwyd.

Cyfieithu 'Cymen'. Yda chi'n dwad?

Cig Moch Cymraeg: Cymreig ydi moch, tydan nhw ddim yn siarad Cymraeg, onibae eu bod nhw'n foch Môn wrth gwrs!!