´óÏó´«Ã½

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Pytiau Eisteddfodol

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý,Ìý

Hywel Gwynfryn | 11:11, Dydd Llun, 1 Awst 2011

'Unwaith eto Gymru annwyl'......dyma ni, (wel, rhai o honna ni) yn y 'Steddfod. Ai fi 'di'r unig un sy'n teimlo fod yr eisteddfodau 'ma yn cyrraedd yn gynt bod blwyddyn. 'Dwi'n siwr mai dim ond rhyw wythnos sy' 'di mynd heibio ers i mi ddwad adra o 'Steddfod Blaenau Gwent.

Eleni mae na hogyn lleol, Stifyn Parri, yn crwydro'r maes yn ystod ein darllediadau yn holi hwn a'r llall. Dydd Sadwrn 'roedd o'n sgwrsio efo pobol ifanc egniol oedd yn neidio i fynny ac i lawr ar 'trampoline'. Fe fu ein harwr hefyd, yn ddigon dewr i neidio ar y gwely a phrofi ei fod yntau yr un mor heini, a ddim mor drwm a hynny chwaith, drwy fownshio i'r entrychion. Stifyn Pari o'r Rhos, a'r tramp o Lyn! (Llyfr jocs Hylo Sut 'da Chi? C. 1968)

Stifyn Parri

Ar ôl mynd drwy'r brif fynedfa i'r maes, fe welwch chi gar coch ar
werth mewn raffl, ac mae'n amlwg fod nofelydd mwya' Lloegr am brynnu car mwy sy'n cyfateb i'w statws.

car coch

Clywed mam eisteddfodol yn dweud fod 'Ennill yn bwysig, ond dysgu colli yn bwysicach' 'Sgwn i. 'Da chi'n cofio geiriau Carwyn James, wrth annog y Llewod i fuddugoliaeth arall? 'Wining isn't everything- but loosing is nothing.'

Ymhen wyth awr fe fydda i yn cael cwmni enillydd coron Eisteddfod Llanelli, Dylan Iorwerth, ac fe fyddwn ni'n dau yn gwylio seremoni'r Coroni yn y pafiliwn. Hynny ydi, os na fydd yr hyn ddigwyddodd yn 1896, 1916,1939, 1940 a 1956, yn digwydd eto eleni, a'r Archdderwydd yn gorfod cyhoeddi 'Neb yn deilwng'. Ac i'r rhai ohonach chi sy'n mwynhau nosweithiau cwis-tafarn dyma'r atebion yn eu trefn-Llandudno,Aberystwyth, Dinbych, Aberpennar, ac Aberdar.

Mwy o'r Eisteddfod: Canlyniadau, gwylio'n fyw, straeon, clipiau teledu, blogiau a newyddion o'r Maes.

Mwy o’r blog hwn…

Pynciau dan sylw

    °ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

    Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

    Cyfranwyr diweddaraf

    ´óÏó´«Ã½ iD

    Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

    ´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

    Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.