Croeso!
Hello! Tra y'ch chi wedi bod yn mwynhau penwythnos y pasg mae criw bach "Cymru'r Byd" wedi bod wrthi yn ail- addurno fy nghornel fach o'r rhyngrwyd. O hyn tan yr etholiad, o leiaf, fe fydd y golofn achlysurol "O Vaughan i Fynwy" yn troi yn flog go iawn. Mae'n golygu y bydd yn rhaid i mi ddiweddaru'r peth yn amlach ac na fydd Martin Huws a'i griw yn sicrhai nad wyf yn rhoi fy nhroed ynddi nac yn cywiro gwallau sillafu cyn cyhoeddi. Dwi'n dechrau difaru'n barod fy mod wedi brwydro dros gael gwneud y peth!
SylwadauAnfon sylw
Blog Cymraeg o'r diwedd! Edrych ymlaen i ddarllen hwn :)
Croeso i fyd bach y rhithfro, Vaughan. Pob hwyl gyda'r blogio.
Croeso i'r blog newydd.
Un broblem fach dydy'r dolen RSS dim i'w gweld yn gweithio - rwyn cael 404 page error o glicio arno.
Fe wnai gael golwg ar hynny heddiw-Vaughan