Gwobr y ganrif
Achosais i dipyn o lanast yn lansiad maniffesto'r Democratiaid Rhyddfrydol wythnos diwethaf trwy herio cynnwys nifer o'u taflenni etholiad. Yn benodol roeddwn am eu holi am eu tacteg o ddefnyddio siartiau i gymell etholwyr i bleidleiso'n dactegol.
Yn ddi-eithriad mae'r siartiau yn profi mai " dim ond y Democratiaid Rhyddfrydol all guro Llafur/ Plaid Cymru/ Y Ceidwadwyr yn fan hyn". Digon teg os oes na unrhyw sail go iawn i ddweud hynny. Ond sut gebyst mae'r ffaith bod gan y blaid lwyth o gynghorwyr yng Nganol Caerdydd yn profi mai'r Democratiaid Rhyddfrydol sy'n herio Llafur yn Ne Caerdydd a Phenarth?
Yr enghraifft fwyaf "cheeky" dwi wedi'i darganfod yw'r un yn Ngorllewin Caerdydd sy'n dyfynnu'r "arbenigwr etholiadol" Chris Rennard yn darogan "ras dau geffyl" heb grybwyll y ffaith mai'r Arglwydd Rennard yw Prif Weithredwr y Democratiaid Rhyddfrydol.
Erbyn hyn mae rhai o'r pleidiau eraill wedi dechrau efelychu'r tric bach slei yma. Dyma gystadleuaeth felly. Fe fydd na gasgliad o faniffestos y pleidiau er ei ffordd i bwy bynnag sy'n dod o hyd i'r broffwydoliaeth fwyaf di-sail ar daflen etholiad. Cofrestrwch nhw nawr ac fe wna i eu cymharu â'r canlyniadau go iawn. Mae hwn yn gyfle i ennill rhywbeth y bydd eich teuluoedd yn trysori am genedlaethau i ddod!
SylwadauAnfon sylw
Wel mae'r siart yma ar wefan Helen Mary Jones yn bendant yn un teg. 21 pleidlais oedd ynddi tro diwethaf!
Mae na daflen Dem Rhydd yn dod trwy'n blwch post ni pob yn ail diwrnod, pob un bron gyda'r graff yn dangos nifer cynghorwyr ar gyngor Caerydydd. Mae un o staff prif lyfrgell Prifysgol Caerdydd yn ceisio casglu engrheifftiau ohonynt i gyd (gan pob plaid).