Pobol y Cwm
Mae'n hawdd, yn fy swydd i, i fynd yn gaeth yn ein byd bach gwleidyddol ein hun gan ddibynnu'n llwyr ar arolygon, honniadau spin ddoctoriaid a gwaith newyddiadurwyr eraill. Gallwn yn hawdd dreilio oriau yn trafod rhyw gamgymeriad gan rhyw wleidydd ar ryw raglen gyda chydweithwyr gan anghofio'n llwyr bod trwch y pledileiswyr yn gwylio Corrie neu Eastenders ar y pryd!
Yn ystod etholiadau felly dwi'n ceisio treulio o leiaf peth amser yn crwydro etholaethau gyda dim byd wedi'i drefnu o flaen llaw heb gamera na llyfr nodiadau er mwyn ceisio cael rhyw deimlad o beth sy'n mynd ymlaen.
Treuliais y rhan fwyaf o'r diwrnod heddiw yn y Rhondda, y sedd a gipiwyd yn annisgwyl gan Blaid Cymru yn 1999 a lle mae Leighton Andrews a Chris Bryant wedi adeiladu periant etholiadol chwedlonol o effeithiol i geisio sicrhau na ddigwyddith hynny fyth eto.
Y peth cyntaf wnaeth fy nharo am yr etholaeth yw bod hon yn ardal lle mae rhywun yn gweld canlyniad buddsoddiad gan Lywodraeth y Cynulliad. Os ydych chi'n un o'r bobol sy'n gofyn weithiau i ble y mae'r holl wariant cyhoeddus ychwanegol yna wedi mynd, fe gewch eich ateb yn y Rhondda. Mae ffordd osgoi newydd Porth yn gwneud hi'n llawer haws i drigolion y ddau gwm deithio i chwilio am waith. Ar ben hynny mae Porth wedi troi o fod yn rhyw fath o dagfa draffig barhaol i dref sydd a'r potensial, o leiaf, i fod yn hynod ddymunol. Mae na ysgolion newydd i'w gweld hefyd yn ogystal ac Ysbyty Cwm Rhondda sydd ar ganol cael ei adeiladu.
Mae'r Rhondda o hyd yn dlawd, wrth gwrs. Siopau elusen ac nid Starbucks sydd ar y Stryd Fawr ym mron pob un dref a phentref ond mae na arwyddion bod pethau'n gwella. Y peth mwyaf trawiadol yw'r nifer o dai sy'n cael eu codi, nid gan y sector gyhoeddus, ond gan y sector breifat, y tro cyntaf i hynny ddigwydd dwi'n amau ers trychinebau econonomiadd dauddegau a thridegau'r ganrif ddiwethaf.
Beth am y gwleidyddiaeth? Wel ar yr ochor bositif roedd y bobol y bues i'n siarad a nhw yn gwybod bod na etholiad ac roedd enwau'r ddau brif ymgeisydd Leighton Andrews a Jill Evans yn gyfarwydd iddyn nhw. Doedd na ddim unrhyw arwydd o gasineb tuag at Lafur nac unrhyw frwdfrydedd enfawr y chwaith. Mynegodd sawl un anfodlonrwydd a Tony Blair ond ces i ddim y teimlad bod hynny'n effeithio rhyw lawer ar eu pleidleisiau cynulliadol.
Dwi'n amau mae difaterwch yw'r gelyn mwyaf i Lafur yn fan hyn. Yn y cyd-destun hynny mae'n rhyfeddol cyn lleied o bosteri sydd i'w gweld yn cefnogi naill ai Llafur na Phlaid Cymru. Y tu allan i wardiau traddoddiadol gystadleuol fel Treorci a Threherbert prin iawn yw'r posteri mewn ffenestri.
Dwi'n amau y dylai Llafur boeni am hynny. Nid am fod y Blaid ar fin colli'r Rhondda eto. Dwi ddim yn disgwyl i hynny ddigwydd ond mae pleidleisiau rhestr etholwyr y Rhondda yn bwysig os ydy pethau'n mynd o'i le yn, dyweder, Gogledd Caerdydd neu Fro Morgannwg. Pleidleisiau rhestr y cymoedd yw polisi yswiriant y Blaid Lafur yn erbyn trychinebau yng Nghaerdydd a'r Fro. Mae'n hynod bwysig i'r blaid bod eu pobol nhw yn pleidlesio.
Ymgeiswyr y Rhondda
Leighton Andrews, Plaid Lafur
Jill Evans, Plaid Cymru
Howard Parsons, Plaid Geidwadol
Karen Roberts, Democrat Rhyddfrydol
SylwadauAnfon sylw
'And now for something completely different..' fel byddai Monty Python yn dweud. Ffilm da gan Stephanie Flanders o 'Newsnight' am yr Alban.
Mae pethau yn wahanol yng Nghymru am nad oes olew a nwy, ac nid ydym yn pysgota gymaint. Ond mae'n ddiddorol yn gweld Alex Salmond yn osgoi gwynebu y ffeithiau am 'tax & spend'. A Jack McConnell yn disgwyl fel gwerthwr ceir ail-law, go debyg i 'Swiss Toni'..
Cytuno'n llwyr ar y paragraff ola - os digwydd i bethau fynd i'r wal i'r Blaid Lafur yng ngogledd Caerdydd (tebygol) a'r Fro (lot llai tebygol), at y cymoedd yng Nghanol De Cymru mae'n rhaid i nhw edrych ar gyfer y pleidleisiau hynny i sicrhau bod un sedd rhanbarthol yn bosib.