Mwy o'r Mosg
Soniais ychydig wythnosau nol fy mod yn bwriadu gwneud tipyn o waith ymchwil ar hanes Islam yng Nghymru ar ôl yr etholiad. Cysylltodd Grahame Davies a fi i adael i fi wybod ei fod eisoes wedi cychwyn ar brosiect tebyg.
Dwi'n hynod o falch. Ceisio llenwi bwlch oedd y bwriad nid dod o hyd i rywbeth i wneud. O farnu o'i lyfr ar fe fydd Grahame yn gwneud gwaith llawer mwy trylwyr na fyswn i wedi ei gyflawni. Dwi'n edrych ymlaen at ddarllen gwaith Grahame ond yn y cyfamser dyma bum ffaith ddiddorol am Islam a Chymru.
1. Mae darn arian a fathwyd gan y Brenin Offa (yr un a gododd y clawdd) a'r gyffes ffydd Fwslimaidd arni. Mae i'w gweld yn yr Amgueddfa Brydeinig.
2. Y cofnod cyntaf o addoldy Mwslemaidd ym Mhrydain yw'r un yn Stryd Glynrhondda yng Nghaerdydd yn 1860.
3. Credir mai "al salam" oedd y papur newydd Arabaidd cyntaf i'w gyhoeddi ym Mhrydain. Roedd ei swyddfeydd yn Peel Street, nid nepell o adeilad y senedd yng Nghaerdydd
4. Ar ôl i Mosg Caerdydd cael ei fomio yn ystod yr ail rhyfel byd symudodd yr addoli i ystafell gefn y "Cairo Cafe". Perchnoges y Cairo Cafe oedd Olive Salaman, Cymraes o Rymni gafodd ei hysgymuno o'r capel a chan ei theulu am briodi Moslem. Mae ei mab Taffy Salaman yn un o hyfforddwyr ceffylau rasio amlycaf Prydain.
5. Dim ond pedwar cynghorydd sir Mwslemaidd sy' 'na yng Nghymru; tri o Blaid Cymru ac un o'r Democratiaid Rhyddfrydol
SylwadauAnfon sylw
Diddorol yn wir! Dwi'n rhoi darlith ar y testun 'Crefydd yn gwahanu - plaid yn uno' (ddim yn siwr os dwi am roi 'P' fawr yntae 'p' fach iddo eto!) ar Fai y 9fed yn Aberystwyth. Trafod y ddiwinyddiaerth tu ol i gyd-weithio ar faterion gwleidyddol/cymdeithasol gyda pobl nad sydd o'r un ffydd a chi yn arbennig felly nawr fod yna Foslemiaid yn ymgeiswyr ac yn aelodau etholedig yn enw Plaid Cymru, plaid a oedd a rhin Gristnogol ar un adeg ac mae rhan helaeth o'i haelodau traddodiadol/llawr gwlad yn gweld pwysigrwydd i hynny o hyd.
Yn anffodus dwi ddim yn meddwl cai gyfle i wneud cyfiawnder llawn ar pwnc gan na fyddaf yn dechrau ar y gwaith paratoi tan ar ol y lecsiwn.
O ran y ddiwinyddiaeth, dydy cyd-weithio a rhywyn o ffydd gwahanol i chi ddim gwahanol i gyd-weithio gydag atheist (neu Dawkiniaid fel dwi'n eu galw bellach) ar fater gwleidyddol. Felly os ydy Cristion yn medru canfasio mewn tim gyda Iolo ap Gwyn ni wela i broblem gyda canfasio ochr yn ochr a Mohammed Islam, cynghorydd y Blaid yn Riverside. Credaf fod mwy yn gyffredin gan Bleidiwr o Gristion a Pleidiwr o Foslem nag sydd gan Bleidiwr o Gristion a Pleidiwr o Dawkiniad yn gyffredin; megis y cysyniad o Dduw a'r sffer ysbrydol - cysyniad o sancteiddrwydd bywyd, deddfau moesol metaffisegol etc...
Ond dwi'n teimlo mod i angen deall y peth yn fwy o safbwynt y Moslem. Fe anfonesi rai cwestiynau dros e-bost i Mohammed rai wythnosau yn ol ac fe gytunodd i ateb mewn theori ond dwi dal heb glywed yn ol. Dyma oedd fy nghwestiynau - o edrych drostynt eto maen nhw braidd yn direct!
"1. What ‘type’ of Muslim are you?
[As I understand there is two types, i.) one is ‘Islam’ being an Arabic noun meaning to one who surrenders him- or herself to God as revealed through the message and life of hir Prophet, Muhammad. Or ii.) the secondary meaning to ‘Muslim’ – a Muslim is one born to a Muslim father who takes on his or her parent’s confessional identity without necessarily subscribing to the beliefs and practices of the faith, just as a Jew may define him- or herself as ‘Jewish’ without observing the Halacha.]
2. Why did you choose to join Plaid Cymru?
3. As a Muslim do you face any moral dilemmas with the idea of working within an institution (Plaid Cymru) which has ‘infidels’ or ‘non-believers’ in it?
4. Do you fear God, and if so does that make you take politics more seriously (as a God fearing Christian would do) than someone without any faith would do?
5. Do you think that working with people from other faiths (mainly Christian) is better/easier than working with people of no-faith? – i.e. is there such a thing as a common ground for people of faith to engage on social or political things?
6. How do you look upon the Shari’a? Do you wish to establish it as a law in Wales and the UK or do you look upon it as a moral code which, adopted to the time and situation, offers some good moral practices that could be introduced to the UK?
Thanks you very much
Rhys Llwyd"
Rhys Llwyd, Aberystwyth