Adfywio'r Enfys?
Dw i'n clywed bod grŵp o Ddemocratiaid Rhyddfrydol yn casglu deiseb a fyddai'n gorfodi'r blaid i gynnal y gynhadledd arbennig i drafod yr "enfys". Mae'n dechnegol bosib i'r gwrthbleidiau orfodi gohirio enwebu'r Prif Weinidog tan ar ôl i'r gynhadledd honno gael ei chynnal.
DIWEDDARIAD: Fe fydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn cynnal eu cynhadledd arbennig ddydd Sadwrn ac yn pleidleisio ar y cynllun. Dw i'n deall bod Plaid Cymru o'r farn bod hi'n rhu hwyr i adfer yr enfys a bod digwyddiadau neithiwr wedi tanseilio ei hyder yn y Democratiaid Rhyddfrydol. Fe fydd Rhodri Morgan yn cael ei enwebu fel prif Weinidog yfory. Ond am ba hyd?
SylwadauAnfon sylw
codi pais r'ol.....
Sawl tro sydd am fod yn y saga 'ma?? Digon i wneud i mi deimlo'n chwil! Well nag unrhyw deledu realaeth!
Mae hyn yn gwbl ryfeddol
Falch i glywed agwedd synhwyrol Plaid.
Vaughan - mae Bethan Jenkins yn ei blog hithau yn amlwg eisiau ail agor rhyw fath o drafodaeth gyda'r Blaid Lafur. Yn eich barn chi, ydy hyn yn debygol/bosib? Oes amser i drafod unrhywbeth cyn y sesiwn yn y Senedd fory? Ac oes hawl gan Lafur i droi at Plaid os etholir Rhodri Morgan yn Brif Weinidog er mwyn dod i ryw gytundeb bras?
Neith ddim mymryn o wahaniaeth be neith y RhDem rwan mae nhw wedi colli ei hygrededd a mae pawb arall wedi colli ffydd ynddy nhw. Pwy oedd y bobol yma ddaru benderfyny? Allwn ni enwi nhw i gyd, hoffwn wybod pwy ydy'r bobol yma syddd ddim yn dallt 'realpolitik' neu bod yn bragmataidd neu yn 'Werddon, 'ejiits'
Mae Bethan Jenkins wedi pisho ar ei chips. Mae wedi pleidleisio yn erbyn Plaid Cymru yn cael Prif Weinidog o' phlaid hi a nawr mae hi am i Blaid Cyrmu weithio o dan Brif Weindog Llafur. Bethan - pa blaid wyt ti'n aelod ohono. Dwi'n synnu nad wyt ti a'r 3 arall wedi eu disglblu.
Diolch i fy safiad arwrol di a'r merhed eraill (a etholiwyd ar restr annemocrataidd) fe wnes di simsanu Clymblaid gallai fod wedi trawsnewid Cymru. Petai HMJ a ti heb agor eich cegau mae'n bosib y byddai'r LibDems wedi cael hi'n anoddach i wrthod y cytundeb.
Dyna ni - well gan rai o Chwith Blaid Cymru fod yn weision bach i llafur na delifro rywbeth cadarnhaol i Gymru a gorfodi Llafur i ail-feddwl at ei hagwedd at Gymru a Chymreictod. Rwyt ti a'r Chwiorydd wir yn working class heros ydych,