Rhain oedd lliwiau'r enfys
Mae Plaid Cymru newydd gyhoeddi'r cytundeb tair plaid arfaethedig "Cytundeb Cymru Gyfan"/ Dyma rai o'r prif bwyntiau.
Adeiladu'r Genedl
Refferendwm ar bwerau deddfwriaethol i'r cynulliad.
Ymladd dros bwerau i'r cynulliad mewn meysydd ychwanegol gan gynnwys ynni a thrafnidiaeth
Comisiwn annibynnol ar fformiwla Barnett
Refferendwm ar gynrychiolaeth gyfrannol mewn etholiadau lleol
Deddf Iaith Newydd
Theatr Genedlaethol Saesneg ac Oriel Genedlaethol i Gymru
Strategaeth addysg Gymraeg cenedlaethol gan gynnwys Coleg Ffederal Cymraeg
Economi Fentrus
Ymestyn y cynllun cymorth trethi busnes i Gymru gyfan
Blaenoriaeth i gwmnïau lleol mewn cytundebau cyhoeddus
Academi Gwyddoniaeth genedlaethol
Dosbarthiadau o 25 neu lai mewn ysgolion cynradd
Cynnydd yn y gwariant ar adeiladau ysgolion
Cynllun Peilot ar liniaduron i ddisgyblion
Byw yn gynaliadwy
Lleihad blynyddol o 3% yn y carbon a gynhyrchir
Corff annibynnol i oruchwylio mesurau o leddfu ar effeithiau newid hinsawdd
20% o drydan o ffynonellau amgen erbyn 2015
Rhaglen gadarn i wella ffyrdd rhwng y De a'r Gogledd
Byw yn iach
Rhoi stop ar gynllun ad-drefnu'r ysbytai
Siartr hawliau cleifion
Adnoddau ychwanegol i addysg gorfforol a nyrs ym mhob Ysgol Uwchradd
Cynllun peilot canolfannau "Byw yn iach"
Cyfiawnder Cymdeithasol
Sicrhâi llety dros dro digonol i'r digartref
Grantiau i bobol yn prynu tÅ· am y tro cyntaf
Buddsoddiad sylweddol mewn tai fforddiadwy
Rhyddhau tir i godi tai yn yr ardaloedd gwledig
Gofal plant fforddiadwy ar gael i bawb
Disgownt ar drethi cyngor i bensiynwyr
Cymru a'r byd
Cynrychiolaeth i Gymru ar gyrff rhyngwladol
Gwell cynrychiolaeth i Gymru ym Mrwsel
SylwadauAnfon sylw
Swnio'n rhaglen wych - a byddai wedi ei gwerhtredu hefyd. Diolch am ddim HMJ a'r 'sosialwyr' sy'n cadw Llafur mewn grym.
LibDems - cyn-blaid wleidyddol. Amser iddynt ymuno a phleidiau i oedolion.
Llafur wrth eu bodd heddiw - dyna oeddet chi eisiau Helen, Bethan, Nerys, Leanne a Jill? Dyna oedd canlyniad eich stranc plentynaidd. Heb eich ymddygiad chi mae'n bosib y byddai'r LibDems wedi cefnogi'r Glymblaid. Diolch am gadw'r status quo.
Awgrymaf fod 4 Plaid yn ymuno a'r LibDems - maen't ofn cyfrifoldeb. Wrth gwrs, galle 3 ohonynt sefyll lawr a gadael y person nesa ar y rhestr i gymryd eu lle a gwneud penderyfniadau dros Gymru a rhai fyddai wedi torri asgwrn cefn rheolaeth Lalfur ar Gymru.
Diwrnod trist iawn.
Edrych fel carbon copi o faniffesto Plaid i fi!
Mi fysa hwnna wedi bod yn ddel arbennig i'r Blaid ac yn ddel arbennig i Gymru. Dim golwg o'r Blaid yn gwerthu ei henaid i'r dde, ma hwnna'n gytundeb llawer mwy "chwith" na maniffesto Llafur!
Vote Plaid, Get Plaid (if it wasn't for those pesky Libs!)
Ie wir - swnio'n rhaglen wych ar y wyneb ond, o gofio gwahanol liwiau'r glymblaid, rwy'n dal i amau'n gryf y byddai rhai aelodau oddi mewn i'r enfys wedi ceisio cefnu ar rai o'r polisïau hyn ar ôl dod i rym, o gofio union gyfansoddiad yr enfys.
Buasai'n sefyllfa hollol wahanol pe bai PC, dyweder, wedi ennill 18 o seddau, y Torïaid 8 a'r D.Rh. 6 neu 7. Y pryd hynny, buasai PC yn blaid fwyafrifol o fewn y glymblaid, ac felly â mwy o ddylanwad yn ymarferol ar lawr y Senedd.
Yn y sefyllfa sydd ohoni, rwy'n dal i ddweud y gallai'r Blaid geisio o'r newydd ddod i gytundeb â'r Blaid Lafur er mwyn gwthio rhai polisïau blaengar drwodd. Mae gormod i'w golli fel arall.
Lol llwyr D Enw.
Er gwell neu er gwaeth, Llafur enillodd y nifer uchaf o seddi yn yr etholiad ac wrth gwrs nhw felly ddylai arwain Llywodraeth y Cynulliad. Brysied y dydd y bydd Plaid Cymru'n ennill mwyafrif y seddi, ac mai ni fydd yn arwain - a hynny oherwydd mai dyna ddymuniad mwyafrif pobl Cymru.
Beth fyddai'n hymateb ni wedi bod petai y pleidiau eraill wedi gangio i rwystro Alex Salmond rhag dod yn Brif Weinidog yr Alban er mai ef oedd wedi ennill nifer fwyaf y seddi?
Rwyf wedi ymgyrchu'n galed dros Blaid Cymru ers degawdau er mwyn ennill annibyniaeth/hunan-lywodraeth lawn be bynnag y gelwch chi o i Gymru. Ond roedd beth oedd arweinwyr y Blaid yn y Bae yn bwriadu'i wneud yn sylfaenol anonest, a diolch i Helen a'r Aelodau eraill yno am roi arweiniad mor gadarn. Sôn am lywodaeth sefydlog wir - un bleidlais gan un aelod o'r Dem Rhyddion yn ddigon i ddangos gymaint o siop siafins oedd yr holl beth.
Dw i'n gutted fod y gytundeb 'na ddim yn mynd i gael ei gwireddu.