Camelot Caerdydd
Weithiau mae' amhosib cael can allan o'ch pen. Dwy'n dioddef hynny ar hyn o bryd a dw i'n beio Nick Bourne!
Wrth ymosod ar y Democratiaid Rhyddfrydol ddoe fe ddywedodd yr arweinydd Ceidwadol hyn; "They have destroyed one brief shining moment of hope". Dyfynnu oedd Nick o sioi Lerner and Low "Camelot" un o berfformiadau enwocaf Richard Burton. Dyma'r pennill cyfan;
Where once it never rained till after sundown,
By eight a.m. the morning fog had flown...
Don't let it be forgot
That once there was a spot
For one brief shining moment that was known
As Camelot.
How oedd hoff gan yr Arlywydd Kennedy ac oherwydd hynny "Camelot" oedd llysenw'r TÅ· Gwyn yn ei gyfnod e.
Ond pwy yw'r Arthur yn Camelot yr enfys? Ieuan, mae'n siŵr! A'r Wenhwyfar a'r Lawnslot a'i bradychodd? Helen Mary a Peter Black o bosib!
SylwadauAnfon sylw
Vaughan, a fydd posib gweld sesiwn y prynhawn yn fyw ar y we? Os bydd, ymhle? Diolch, SG
Fe fydd hi ar wefan y cynulliad
"Let's not go to Camelot. It is a silly place."
Y Brenin Arthur, Monty Python and the Holy Grail