Chwech y bore yn y bae
Mae'n chwech y bore yn y bae. Mae'r rhedwyr cynnar eisoes allan yn jogio. Mae'r stem yn codi o simnai’r "Waverley" wrth iddi baratoi am daith o gwmpas Rhonech ac Echni a dwi newydd fwyta'r olaf o'r cant o fananas wnaeth gadw uned wleidyddol y ´óÏó´«Ã½ i fynd ddoe.
Mae hi wedi bod yn naw wythnos o ddyddiau deuddeg awr a dyw'r stori ddim yn mynd i fennu heddiw. Ond fe fyddwn ni'n cyrraedd saib. Diwedd y rhan gyntaf. Ar ôl heddiw fe fydd Rhodri'n heglu hi am ei garafán ym Mwnt ac Ieuan yn hedfan i Ffrainc am gwpwl o ddyddiau. Fe fydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn mynd i Landrindod. Eto.
Gan fod da fi amser i sbario rhwng ymddangosiadau ar Radio Wales a Radio Cymru dw i am geisio rhoi rhyw fath o gyd-destun i bopeth sydd wedi bod yn digwydd.
Fe fydd darllenwyr yr hen golofn "O Vaughan i Fynwy" yn gyfarwydd â'r ddamcaniaeth sydd gen i am wleidyddiaeth Cymru sef nad yw'r ffiniau rhwng y pleidiau yn cyd-fynd a'r ffiniau ideolegol o fewn Cymru. Hynny yw, dyw'r patrwm pleidiol Prydeinig sy'n bodoli yng Nghymru ddim, mewn gwirionedd, yn adlewyrchu lle mae'r rhaniadau barn yn ein cymdeithas.
Yn fy nhyb i roedd y rhaniadau hynny, tan yr wythnosau diwethaf, wedi bod bron yn ddigyfnewid am ganrif. Ar y naill law roedd y sefydliad Llafur ar y llall y sefydliad Rhyddfrydol ac yn sefyll i'r neilltu'r garfan Geidwadol.
Y mwyaf diddorol o rain yw'r sefydliad Rhyddfrydol. Ers iddi golli grym yn ugeiniau’r ganrif hon mae'r garfan hon wedi bod yn rhanedig ond yn aruthrol o wydn. Ei phlentyn siawns hi, yn anad dim, yw Plaid Cymru. Mae'n rhiant hefyd i'r Democratiaid Rhyddfrydol ond mae ei haelodau hefyd i'w canfod yn rhengoedd y Blaid Lafur a'r Blaid Geidwadol lle mae ei dylanwad wedi amrywio ar hyd y blynyddoedd.
I weld gwerth y ddamcaniaeth hon ystyriwch y cwestiwn hwn. Pe na bai Lloyd George ac Asquith wedi chwalu'r Blaid Ryddfrydol a pha blaid y byddai Cledwyn Hughes, Gwynfor Evans a Wyn Roberts wedi ymaelodi neu Glyn Davies, Ieuan Wyn Jones a Carwyn Jones o ran hynny.
Dw i ddim yn meddwl mai dyna oedd y bwriad ond roedd yr "enfys" yn cynnig cyfle i'r rhan fwyaf o etifeddion y traddodiad Rhyddfrydol Cymreig adael eu halltudiaeth wasgaredig. Mae'n eironig mae'r etifeddion "swyddogol" Rhyddfrydiaeth Cymru wnaeth ddryllio'r cynllun.
SylwadauAnfon sylw
"I weld gwerth y ddamcaniaeth hon ystyriwch y cwestiwn hwn. Pe na bai Lloyd George ac Asquith wedi chwalu'r Blaid Ryddfrydol a pha blaid y byddai Cledwyn Hughes, Gwynfor Evans a Wyn Roberts wedi ymaelodi neu Glyn Davies, Ieuan Wyn Jones a Carwyn Jones o ran hynny."
Yn dilyn y theori yma bydda hynny wedi gadael y blaid rhyddfrydol ar flaen y gad yng ngwleidyddiaeth Cymru, ac yn siwr o lywodraethu yn amlach neu beidio.
Yn lle gofyn a fyddai y gwyr pwysig ma wedi bod yn rhan ohoni, cwestiwn mwy priodol ar ol y dyddiau diwethaf yw a fydde'r garfan sylweddol o Lib Dem sydd a dim diddordeb llywodraethu wedi bod yn rhan ohoni?
Diddorol ac yn wir am wn i. Un peth sydd yn wir rwy'n siwr yw bod y rhan fwyaf o bleidleiswyr y Rhydd. ddim yn rhan o'r "Traddodiad Rhyddfrydol" - Efallai taw lleisiau y rhain sy wedi bod yn gyfrifol am fethiant yr wythnos hon.
Digon da i'w ailadrodd?
Gair sydyn i ddiolch i chi am y blog hwn. Dwi'n ei ddarllen fwy nag unwaith y dydd ac wedi cael mwynhad enfawr ohono.
Diolch am y gwaith caled.
Cytuno gant y cant.
Darlenais yr wythnos ddiwethaf bod ystadegau refferendwm 97 yn cynnig bod mwyafrif y DRh hefyd wedi pledleisio yn erbyn Cynulliad.
Hynny gan blaid Senedd i Gymru.
Mae traethawd PhD yna!
Os felly, buasai Geraint Morgan o Ddinbych hefyd ymhlith y Rhyddfrydwyr hynny, siwr o fod!
Rwy'n sicr o'r farn fod rhaniadau'r 'dde', y 'canol' a'r 'chwith' yn wahanol yng Nghymru, yn yr ystyr y byddai'r canol (Dafydd Wigley, dyweder) yng Nghymru yn ddigon radicalaidd o'i drawsblannu i Loegr!
Felly a ydi Rhodri yn cael ei apwyntio fel 'prif weinidog' heddiw ?
Wel yn dechnegol cael ei enwebu mae fe...y Frenhines sy'n ei bennodi trwy facs