Canlyniadau'r rhestr
Mae nifer o bobol wedi gofyn a ydy canlyniadau rhestr etholaethau unigol ar gael ar y we. Yn anffodus dw i wedi methu dod o hyd iddyn nhw. Mae'r rhan fwyaf ohonynt gen i ond yn anffodus nid ar ffurf sy'n hawdd ei hatgynhyrchu. Os ddoi ar eu traws fe wnâi bostio dolen. neu safle yw'r bet gorau.
Yn y cyfamser dyma ychydig o bigion diddorol. Roedd y Torïaid ar frig y rhestr mewn pedair etholaeth lle'r oedd eu hymgeiswyr etholaethol yn aflwyddiannus sef Bro Morgannwg, Brycheiniog a Maesyfed, Dyffryn Clwyd a Maldwyn. Roedd y Democratiaid Rhyddfrydol yn fuddugol o safbwynt y bleidlais restr yng Ngorllewin Abertawe tra'n aflwyddiannus yn y frwydr etholaethol. Ym mhob sedd arall yr un blaid oedd yn fuddugol yn y ddwy ornest.
Os ydych chi'n ymddiddori mewn unrhyw etholaeth arbennig- gofynnwch a chwi a gewch!
SylwadauAnfon sylw
Diddorol gweld rhai Islwyn a Chaerffili i gael syniad o ble daeth pleidleisiau yr ymgeisydd annibynol oedd yn sefyll ac hefyd gweld pa mor agos oedd PC at Lafur yn y dwy etholaeth?
Be am ?
Bettsy, Mae'n ymddangos bod y bleidlais annibynnol wedi gwasgaru yn y ddwy etholaeth. Dyma'r ffigyrau rhanbarthol; Caerffili Llaf 9707, PC 6287, Ceid 3148, Dem Rh. 1601, BNP 1380, UKIP 1201, Ann 1035. Islwyn Llaf 9925, PC 5049, Ceid 2283, Dem. Rh.1482, UKIP 1221, BNP 1213
Canlyniadau Islwyn a Chaerffili roeddwin iar ol hefyd....Rhys - dim manylion fesul etholaeth.
Mi hoffwn i weld o ba wardiau daeth pleidleisiau y BNP a UKIP yn Wrecsam, De Clwyd, Glannau Dyfrdwy a Delyn, rhai traddodiadol Lafur neu draddodiadol Geidwadwyr.