大象传媒

Help / Cymorth
芦 Blaenorol | Hafan | Nesaf 禄

Stori ddifyr yn "Golwg"

Vaughan Roderick | 10:51, Dydd Iau, 10 Mai 2007

Mae'n werth darllen "Golwg" yr wythnos hon. Mae'n cynnwys stori ddifyr iawn am Blaid Cymru yn y Gogledd. Fe fydd yn rhaid i chi ddarllen y cylchgrawn i gael y stori gyfan ond dyma ragflas.

Mae鈥檙 chwerwedd wedi methiant Dafydd Wigley i ddychwelyd i鈥檙 Cynulliad wedi ffrwydro gydag un cyn-ymgeisydd i Blaid Cymru yn galw ar Aelod Cynulliad o鈥檌 blaid ei hun i ildio ei sedd. Yn 么l y cyn-ymgeisydd, sydd am aros yn ddienw, mae Janet Ryder AC wedi 鈥渃olli hyder鈥 mwyafrif ymgeiswyr Plaid Cymru yn y Gogledd yn dilyn ymgyrch etholiad eleni.
鈥淢ae Janet Ryder wedi colli cefnogaeth aelodaeth y blaid yn ogystal 芒鈥檙 ymgeiswyr etholaeth鈥, meddai鈥檙 cyn-ymgeisydd, a safodd mewn sedd yn y Gogledd. 鈥淢ae ei hymddygiad tuag at weithwyr y Blaid dros yr 18 mis diwethaf yn golygu nad oes ryw lawer o hyder ynddi ymhlith rhengoedd uwch y Blaid, chwaith."

Yn y cyfamser mae dau flog Plaid Cymru sef a yn awgrymu y dylai Janet Ryder ildio'i sedd i Dafydd Wigley.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 12:03 ar 10 Mai 2007, ysgrifennodd Rhys Llwyd:

    Codi pais ar 么l pisho yw hyn! Doedd dim bai ar Janet Ryder, os oedd bai ar rywyn bai ar bolisi'r Blaid ydoedd. Roedd Dafydd Wigely ei hun wedi cefnogi'r polisi o roi merched ar frig y rhestr - cofiwch hynny. Cwbwl hurt ac anymarferol yw galw am ymddiswyddiad Janet, y ffordd adeiladol o brotestio yw rhoi cynnig gerbron cynhadledd nesaf y Blaid in ddiddymu'r polisi merched yn gyntaf.

  • 2. Am 12:05 ar 10 Mai 2007, ysgrifennodd Daniel Williams:

    Oni fyddai Ryder-Wigley 'swap' yn gosod cynsail problematig? Tra ei fod yn ddigon amlwg i bresenoldeb Wigley gynyddu'r bleidlais i'r Blaid, gallwn ni ddim profi hynny. Yn y dyfodol gellir dychmygu pleidiau yn rhoi ffigwr poblogaidd (nad yw am fod yn AC) ar ben y rhestr er mwyn denu cefnogwyr gan dderbyn y bydd y ffigwr hwnnw yn sefyll i lawr i wneud lle i rhywun arall wedi'r etholiad.

  • 3. Am 12:25 ar 10 Mai 2007, ysgrifennodd aled g j:

    Byddai'n adlewyrchu'n wael iawn ar PC pe bai raid i Janet Ryder ildio ei sedd. Nhw ddyfeisiodd y polisi hwn a hyd iddio gael ei newid yn swyddogol, onid oes rheidrwydd arnynt i lynu wrtho. Fel arall, y cwestiwn cyntaf a gaiff unrhyw arweinydd PC yn y dyfodol yw sut y gall y cyhoeed gredu mewn unrhyw bolisi a gynigir ganddoch pan nad oeddech chi'n credu mewn polisi a gafodd ei basio'n fewnol gan eich plaid eich hun???

  • 4. Am 12:21 ar 11 Mai 2007, ysgrifennodd Arfon Jones:

    Mi ddylsa y Blaid gefnogi Janet Ryder, mae hi wedi ei hethol yn berffaith deg, yn ol rheolau y Blaid. Roedd hi'n gwbwl amlwg fod Dafydd Wigley ddim yn mynd i gael ei ethol oherwydd cryfder y Blaid yn etholaeth ranbarthol y Gogledd. Dydy y ffrae yma ddim yn mynd i helpu y Blaid i lywodraethu, a weithiau dwi'n meddwl ydy'n nhw eisiau llywodraethu? Wedi'r cyfan hawdd ydy bod yn wrthblaid ynde.

Mwy o鈥檙 blog hwn鈥

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.