Cwato rhag y Cwin
Fe fydd na dri pheth yn digwydd ddydd Mawrth. Fe fydd y Frenhines yn agor y cynulliad, fe fydd dwy o wleidyddion Plaid Cymru yn cynnal stỳnt yn Abertawe ac fe fyddai i yn dathlu(?) fy mhen-blwydd yn hanner cant.
Do, ces i fy ngeni yn 1957 yn aelod o genhedlaeth oedd, ac sydd, â diddordeb ysol mewn gwleidyddiaeth. Roedd hynny yn gwbwl naturiol. Wedi'r cyfan roeddwn yn tyfu i fynnu yn negawd Kennedy a Luther King, Fietnam a Phrague, Tryweryn a Chaerfyrddin. Pan oeddwn yn tancio dan oedran yn y saithdegau gwleidyddiaeth yn amlach na pheidio oedd testun y sgwrs.
Fel sy'n digwydd, chwythwyd ffrindiau llencyndod i'r pedwar gwynt. Mae'r ddau Chris (Schoen a Jones) yng Ngwynedd. Diflannodd Mike Hobbs oddi ar wyneb ddaear ac mae Jon Huggett yn filiwnydd yn yr Unol Daleithiau. Wnaeth Peter Davies ddiweddu yn Awstralia gan weithio i blaid fechan o'r enw'r Democratiaid, plaid a allai ddysgu gwers neu ddwy i rai o'n gwleidyddion yng Nghymru.
Ffurfiwyd y Democratiaid yn y saithdegau, cyfnod o lygredd yng ngwleidyddiaeth Awstralia. Ei slogan oedd "Keep the bastards honest". Doedd hi ddim yn chwennych grym yn ei rhinwedd ei hun. Y nod oedd dal y fantol rhwng y pleidiau mwy gan eu gorfodi i gadw at eu gair a gweithredu yn erbyn llygredd.
Yn hynny o beth roedd y blaid yn hynod lwyddiannus. Oherwydd y gyfundrefn etholiadol yn amlach na pheidio roedd y Democratiaid yn dal y fantol yn y Senedd (siambr uchaf Awstralia) ac yn defnyddio'i dylanwad i gymedroli rhwng chwith a de.
Cwympodd y cyfan yn ddarnau oherwydd ffrae wleidyddol a phersonol rhwng dwy seneddwraig y blaid o Dde Awstralia Meg Lees a Natasha Stott Despoja. Pan oedd Meg yn arweinydd y blaid fe'i tanseiliwyd gan Natasha. Pan ddyrchafwyd Natasha i'r arweinyddiaeth fe wnaeth Meg ei dinistrio.
Nawr, dwi i'n nabod Meg yn dda ac wedi cwrdd â Natasha ambell i waith felly fe wnâi ddim dweud gormod am y frwydr bersonol dim ond nodi ei bod yn brawf pendant nad yw cael rhagor o fenywod mewn gwleidyddiaeth yn arwain yn anorfod at fath newydd o wleidydda cynhwysol. Y ffrae wleidyddol sy'n ddiddorol. Roedd Meg yn mynnu bod yn rhaid i'r Blaid bod yr un mor barod i ddelio a phleidiau'r dde ac oedd hi a phleidiau'r chwith. Roedd Natasha yn ffafrio Llafur a'r Gwyrddion- pleidiau oedd "yn rhannu'r un gwerthoedd sylfaenol".
Roedd Natasha wedi ei hethol i'r senedd yn 24 oed ac yn ôl Meg doedd hi ddim wedi dysgu gwersi bywyd. Gwleidyddiaeth myfyrwyr oedd ei gwleidyddiaeth hi lle'r oedd profi pwynt i'w ffrindiau yn bwysicach na sicrhâi’r dylanwad i newid bywydau er gwell.
Ddydd Mawrth fe fydd 58 o aelodau'r cynulliad yn ymgynnull yng Nghaerdydd ar gyfer agoriad brenhinol y cynulliad. Mae Bethan Jenkins a Leanne Wood wedi gwahodd y camerâu i'w ffilmio yn ymweld â'r digartref yn Abertawe. Pwy, yn eich barn chi, sy'n gwneud y peth iawn?
SylwadauAnfon sylw
If Leanne and Bethan quietly boycotted the Queen and went to Swansea without the media, I would have far more respect for them.
Whenever the Queen comes to Cardiff, Leanne makes a fuss, it's getting boring now.
Fel rhywun sydd yn hollol yn erbyn yr brenhiniaeth mewn egwyddor! (Dwi ddim yn adnabod nhw yn bersonol wrth gwrs!!)
Fydda gen i ddim problem gweld pob aelod o'r Blaid yn anwybyddu y Brenhines estron.
Yma yn UDA mewn THEORY allwch cael gwared efo eich arweinydd pob ychydig o flynyddoedd! Yr unig trafferth efo'r system yma ydi yr holl arian mawr sydd yn dylanwadu pobeth!
Gefais lythyr ddoe gan y Republicans yn cynnig cyfle i mi tynnu llun efo gwraig Mit Romney am dim ond $5,000!!!!
Faint fydda Cymro talu am tynnu llun efo Mrs Jones,Bourne,Germann neu Morgan!!!
Dwi'n meddwl fod Leanne a Bethan yn gneud y peth iawn, does gen i ddim i ddeud dros y frenhiniaeth.
Jyst cyn i chi fod rhy ddiamynedd amdano 'Lizibet', llefarwch y geiriau yma -- 'President John Prescott'..
'Be careful what you wish for..' fel nad ydynt yn dweud yn Tseina
Sylw cyfoethog unwaith eto Vaughan a'r tro yma gyda thro yn ei gynffon wrth i ti ofyn i ni am ein barn. Gyda phwy y baswn i'n ei ochri? Wel gallaf werthfawrogi rhesymeg y naill ochr a'r llall, ond fel pragmatydd baswn i yno, debyg iawn yn y Senedd, yn cynrhychioli'r sawl a'm hetholodd gyda chydwybod glir.
Cwestiwn dyrys. O ran eu gwerthoedd a'u hegwyddorion craidd wrth gwrs mae'r brotest hon yn werthfawr ac mae'n dda gwybod fod rhai yn dal yn fodlon i sefyll dros eu cred. Efallai fod Leanne yn enghraifft o Dafydd El ifanc - gobeithio'n fawr na chaiff hi ei llyncu gan y sefydliad yn yr un modd a Dafydd.
OND... mae Dafydd El wedi gwneud mwy dros yr iaith Gymraeg a Chymru na unrhyw wleidydd byw arall y gwn i amdano. Onibai am Dafydd El prin y byddai'r iaith yn cael ei le yn y cynulliad cymaint ag y mae (ond nid digon).
Y broblem sydd gen i gyda'r brotest hon yw eu bod yn defnyddio'r bobl ddigartref i wneud eu protest. Onid oes ganddynt werthoedd am ddangos parch i'r digartref ac na ddylid ymweld a nhw fel rhyw 'tokenism' gwleidyddol. Mae'n f'atgoffa braidd o'r gweinidog hwnnw yn gorfodi i'w deulu fwyta cig eidion yn gyhoeddus i ddangos i'r byd ei fod yn ddiogel i'w fwyta.
Amharch i'r Frenhines a'r digartref dybiwn i.
Mi fuaswn i'n dweud fod hi'n gyfrifoldeb ar yr aelodau i fod yn y Senedd ddydd Mawrth. Wedyn mynd ati o ddifri i helpu'r digartref!
Ie, stynt yn wir. Roeddwn yn gobeithio fod Pleidwyr wedi tyfu mas o'u hang ups ynglyn a'r frenhiniaeth. Ni fydd y Frenhines yn malio taten. Mi fydd hi a'r digartref gyda ni am flynyddoedd i ddod. Ma ise i Bethan a Leanne enill ychydig o hygrededd fel gwleidyddion yn y Senedd gyntaf. Chwarae gesture politics yw rhywbeth fel hyn.
Iawn, efallai nad yw'r stynt o ymweld a'r di-gartref cweit yn taro deuddeg- ond mi fyddwn i dal yn amddiffyn hawl Leanne Wood a Bethan Jenkins i leisio'i protest yn erbyn y frenhiniaeth yfory."Gesture politics" medd rhai, ond yn wyneb y diffyg parodrwydd i drafod y mater hwn yn aeddfed ac ystyried y ddadl dros droi Cymru yn weriniaeth, dyma weithred sydd o leiaf yn sbarduno trafodaeth.Pam na ellid fod wedi cynnig opsiwn arall i'r aelodau yfory sef tyngu llw o ffyddlondeb i bobl Cymru rhagor na Brenhines Lloegr?
Mae'n amlwg o'r ddameg fod Vaughan wedi penderfynnu mai chware stiwdant politics mae'r ddwy yn Abertawe. Tybed?
Drwy'r weithred symbolaidd yma mae'r ddwy yn llwyddo i godi trafodaeth am natur ein ffug ddemocratiaeth, lle ma raid i ni fowian i'r fonarchiaeth er mwyn cael apwyntio prif weinidog heb son am ofyn i Hain am basio deddf cyn mynd drwy San Steffan efo cap yn llaw.
Gweithred sumbolaidd hefyd yw cael y frenhines i agor y Senedd - efo sumbol arall o ormes a thrais y wladwriaeth Brydeinig yn y Bae... HMS be bynnag ydio.
Sumboliaeth sy'n teyrnasu drostom a dwi'n hynod o ddiolchgar bod Leanne a Bethan efo'r asgwrn cefn i sefyll fyny dros eu cred ac egwyddorion a gwneud rhywbeth positif yn lle yfed champagne a byta canapes efo'r mawrion.
Gobeithio y bydd y gweriniaethwyr closet i gyd yn tagu ar eu smoked salmon.
Codi cwestiwn oeddwn i, gobeithio, Emma yn hytrach na datgan barn. Dw i'n llwyr ddeall cymhellion y ddwy ac yn parchu eu safbwynt. Y peryg yw, dw i'n meddwl, y bydd hi'n ymddangos bod y digartref yn cael eu "defnyddio" mewn stynt. Dw i'n sicr mai nid dyna yw'r bwriad ond fe allai ymddangos felly.
Cytuno gyda gwylan uchod. Gweitha'r modd rwyn cofio'r helynt ar siarad a fu yn sgil penderfyniad Gwynfor i fynd i'r senedd diwrnod yr arwysgo. Roedd pobol yn wallgo am y penderfyniad a dyna un o'r rhesymau collodd ei sedd i Gwynoro. Does dim rhaid i Bethan a Leanne boeni am hynny gan fod y ddwy yn unol a polisi Plaid Cymru ar top y list oherwydd ei bod yn ferched. A dyna'r rheswm am wneud y safiad hyn gan nad y'w un yn wir yn ymatebol i'w etholwyr!!!!!
Pen blwydd hapus, Vaughan!
O ran y paralel posibl rhwng Democratiaid Awstralia a safle'r Blaid heddiw yn y Cynulliad, credaf fod un gwahaniaeth o bwys, sef mai plaid y chwith yw Plaid Cymru, yn y bôn, nid plaid y canol bondigrybwyll a allai ddal y fantol. Efallai na fyddai safiad Meg, felly, mor ddadleuol yng nghyd-destun gwleidyddiaeth Awstralia ag y byddai'r syniad o greu clymblaid 'enfys' (na ato Duw!!!) yng nghyd-destun Cymru.