´óÏó´«Ã½

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Geiriau o'r Gadeirlan

Vaughan Roderick | 12:34, Dydd Llun, 4 Mehefin 2007

Mae'n harchesgobion wedi bod wrthi eto. Dyma Barry Morgan heddiw yntra roeddwrthi dros y Sul yn mynnu na ddylai gwleidyddion sy'n cefnogi erthylu gymryd cymun yn yr Eglwys Gatholig.

Nawr mae rhai, fel , yn gweld gwahaniaeth rhwng y ddau ddatganiad gyda'r Archesgob Anglicanaidd ond yn datgan barn wrth i'r un Catholig ddefnyddio rhiw fath o flacmel ysbrydol yn erbyn gwleidyddion.

Efallai bod 'na elfen o wirionedd yn hynny ond dim ond elfen. Mae’r "hawl i fywyd" yn rhan ganolog o'r ffydd Gatholig. Onid yw hi'n ddigon rhesymol i Archesgob ofyn i aelodau'r Eglwys ystyried ei sefyllfa os na fedrant gytuno ac un o bileri ei chred? Ac onid am bynciau moesol mawr y dydd, fel erthylu, y dylai'r Eglwys fod yn siarad yn hytrach nac am fanylion cyfundrefn ddeddfwriaethol Bae Caerdydd?

Mae'r rhain yn gwestiynau dyrys a dwi ddim yn gwybod yr atebion. Pan benodwyd Ruth Kelly yn weinidog cyfartaledd roedd hi'n ddigon teg gofyn a oedd hi, fel aelod ffyddlon o Eglwys sy'n condemnio gweithredoedd hoyw, a'r gallu neu'r awydd i sicrhâi cyfartaledd yn y maes hwnnw. Ar y llaw arall pa fath o ffydd sydd yn cael ei gadel wrth ddrws yr eglwys? Beth yw pwrpas ffydd os nad yw hi'n dylanwadu ar fywyd a dewisiadau pob dydd y bobol sy'n ei harddel?

Am wn i, fe fyddai gwleidydd o Gristion oedd yn gwrthod gadael i'w ffydd ddylanwadu ar ei wleidyddiaeth yn agored i'r cyhuddiad y taflodd Williams Pantycelyn at Williams Llwynrhidyll;

"Mae'n rhaid bod ei gredo'n ofnadwy o sâl,
Os oes ganddo fe gredo o gwbwl i gâl"

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 16:38 ar 4 Mehefin 2007, ysgrifennodd nonny mouse:

    Dylwn ystyried sylwadau yr Archesgob fel barn un unigolyn. Mae ganddo fe yr yn pwys, ond nid mwy, nag unigolion eraill yng ngwleidyddiaeth ein gwlad.
    Dydy e ddim yn cyncrichioli neb yn gwleidyddol.
    Dwi'n siwr fydd ei sylwadau ar cancr, trethi neu seryddiaeth yn diddorol hefyd, ond nid mwy pwysig nag unrhyw un arall.
    Dwi'n siwr bod beth mae e'n dweud yn bwysig i rhai, ond well gen i clywed beth mae'r eglwys yn mynd in gwneud am tlodi neu tegwch cymdeithasol, yn lle golwg rhyw grwp od o cenedlaetholwyr.

  • 2. Am 20:30 ar 4 Mehefin 2007, ysgrifennodd Gareth Thomas:

    Dwi ddim yn cyffyrddus gyda'r syniad o glerigwr yn ddatgan barn wleidyddol ar pwnc ddadleuol fel hyn ac mewn iaith rheit ymfflamychol- galwch fi yn hen ffasiwn. Tybiaf hefyd bod yr archesgob a'i grwp yn dipyn o set up ac ymgais i gyflyru'r barn cyhoeddus- dwi'n gweld dylanwad yr eglwyswr Dafydd Ellis Thomas ty ol i hyn ac efallai Rhodri Morgan.
    Wedi dweud hyn Dwi'n derbyn bod y sefyllfa presennol yn anghynhaliadwy.

  • 3. Am 09:41 ar 5 Mehefin 2007, ysgrifennodd Bil:

    Dwi'n anghytuno'n llwyr gyda sylwadau nonny mouse. Mae barn yr Archesgob yn bwysig oherwydd y mae'n arweinydd crefyddol ar ganran sylweddol o'r boblogaeth a'i eglwys ef yn LLoegr yw Eglwys y Deyrnas - the Church of the Realm. Un diben o gael Archesgob yw fod gennych wr cadarn ei farn sydd yn medru sefyll i fyny i awdurdod gwleidyddion ( ar ran ei braidd) i gwestiynnu ac ar adegau ceryddu (cofiwn am yr Archesgob Glyn Simon yn y saithdegau cynnar ac yn ein dyddiau ni mae Archesgob Caergaint ei hun yn barod i feirniadu gwleidyddion yn agored.)
    Mae dadl o'r fath yn beth hanfodol er mwyn cynnal democratiaeth agored.

  • 4. Am 15:35 ar 5 Mehefin 2007, ysgrifennodd Bedd Gelert:

    Roedd yn ddiddorol gwrando i Tony McNulty ar 'Any Questions' wythnos diwethaf. Mae yn perthyn i Eglwys Rhufain, ond fel oedd yn dweud, mae ei swydd fel Aelod Seneddol yn meddwl cynrychioli eich holl bleidleiswyr.

    A fyddai rhai o nhw yn Foslem, Iddewion etc. - felly mae rhaid ystyried rhain.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.